Ewch i’r prif gynnwys

Adolygiad newydd o botensial ffarmacogenomeg mewn seiciatreg a gyhoeddwyd gan un o gyfnodolion niwrowyddorau mwyaf blaenllaw’r byd

6 Hydref 2021

Brown book

Mae ymchwilwyr yng Nghanolfan Geneteg a Genomeg Niwroseiciatrig y Cyngor Ymchwil Feddygol (CNGG y CYF) ym Mhrifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi adolygiad cynhwysfawr o ffarmacogenomeg mewn seiciatreg yn un o'r cyfnodolion niwrowyddorau mwyaf dylanwadol ac uchel eu parch.

Mae'r erthygl, a ysgrifennwyd gan Dr. Antonio Pardiñas, yr Athro Mike Owen a'r Athro James Walters, wedi'i gyhoeddi heddiw yn y cyfnodolyn Neuron.

Daeth yr adolygiad hwn o ffarmacogenomeg, sef yr astudiaeth o rôl y genom mewn ymateb i gyffuriau, i'r casgliad fod sail gref dros gredu y bydd hyn yn arwain at well ymarfer clinigol a chanlyniadau i gleifion, os gall ymchwilwyr fanteisio ar y cyfleoedd a gynigir gan dechnolegau newydd.

Meddai'r Athro Owen:

Mae gan ffarmacogenomeg botensial enfawr i'n helpu i ddeall pam mae pobl yn ymateb yn wahanol i gyffuriau a ddefnyddir mewn ymarfer clinigol, ac i arwain clinigwyr i nodi'r cyffur gorau ar gyfer cleifion unigol.
Yr Athro Syr Michael Owen Director of MRC Centre for Neuropsychiatric Genetics and Genomics, Director of Institute of Psychological Medicine and Clinical Neuroscience and Emeritus Director of the Neuroscience and Mental Health Research Institute

Roedd yr atebion a nodwyd yn cynnwys astudiaethau helaeth oedd yn defnyddio cofnodion iechyd electronig rheolaidd, defnyddio mesurau cyson a diffiniedig o ymatebion i gyffuriau a thriniaeth, yr angen i ymgorffori adweithiau niweidiol i gyffuriau a mesurau metabolion serwm fel rhan o fodelau rhagfynegol, a chynnwys poblogaethau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd.

Meddai'r Athro Walters, "Mae meddyginiaethau seiciatrig yn chwarae rhan bwysig yn adferiad llawer o bobl o salwch meddwl, ond nid ydynt yn effeithiol mewn pawb a gallant arwain at effeithiau andwyol yn gyffredinol.

"Yn y papur hwn rydym yn adolygu sut y gall ffarmacogenomeg helpu i esbonio ymatebion gwahanol pobl i feddyginiaethau ac asesu ei botensial clinigol i helpu gyda rhagnodi'r feddyginiaeth gywir yn y dos cywir."

Ar gyfartaledd, mae triniaethau mewn seiciatreg ond yn arwain at welliannau parhaus tua 50% o'r amser, yn bennaf oherwydd cyfuniad o effeithiau andwyol sy'n arwain at derfynu triniaeth a diffyg effeithiolrwydd.

Roedd yr atebion a nodwyd yn cynnwys astudiaethau helaeth oedd yn defnyddio cofnodion iechyd electronig rheolaidd, defnyddio mesurau cyson a diffiniedig o ymatebion i gyffuriau a thriniaeth, yr angen i ymgorffori adweithiau niweidiol i gyffuriau a mesurau metabolion serwm fel rhan o fodelau rhagfynegol, a chynnwys poblogaethau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd.

Dywedodd Pardiñas, “Mae llawer o astudiaethau ymchwil wedi’u cynnal mewn cyffuriau a chyflyrau seiciatryddol ers y 1990au, ond ychydig o ganfyddiadau sy’n gwrthsefyll profion amser a dyblygu gwyddonol.”

Mae’r adolygiad yn cymharu’r sefyllfa hon â’r “heriau” a wynebodd ymchwil genomeg feddygol ddegawd yn ôl. Llywiodd y maes hwn trwy ymdrechion cynyddol mewn astudiaethau cydweithredol ar raddfa fawr a datblygu methodolegau arbrofol cadarn.

Ychwanegodd yr Athro Owen, "Rydym wedi adolygu maes ffarmacogenomeg seiciatrig ac wedi nodi sawl her y mae angen ei goresgyn er mwyn ein galluogi i roi sylw i grwpiau o unigolion a allai elwa o gyffuriau penodol, ac a allai hefyd helpu gyda dylunio cyffuriau newydd."

Darllenwch y papur llawn: Ffarmacogenomeg Ffordd ymlaen ar gyfer meddygaeth fanwl mewn seiciatreg

Rhannu’r stori hon