Ewch i’r prif gynnwys

Ffiseg a Seryddiaeth ar y brig yng Nghymru yn y Guardian University Guide

1 Hydref 2021

Students doing project in lab

Cafodd yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth ei graddio ar y brig yng Nghymru ac un o'r 15 Ysgol orau yn y DU gan y Guardian University Guide 2022. Cododd Prifysgol Caerdydd tri safle ers y llynedd i fod y brifysgol orau ar gyfer ffiseg yng Nghymru.

Cafodd yr Ysgol ei chydnabod gan y Guardian University Guide am ffactorau fel ei hymrwymiad i addysgu ac i foddhad myfyrwyr. Eleni rhoddwyd sgôr boddhad cyffredinol o 89.9% i'r Ysgol gan ei myfyrwyr ac roedd 91.4% yn fodlon ar y cwrs yr oeddent yn ei astudio.

Mae'r Ysgol yn falch o'i record am foddhad myfyrwyr ac mae’n sgorio dros 90% yn rheolaidd am fodlonrwydd yn nhabl Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr (NSS).

Dywedodd Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu'r Ysgol, Dr Richard Lewis: "Rydym yn falch iawn bod ein myfyrwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a'u bod yn gwerthfawrogi ymrwymiad ein staff i wneud ein haddysgu'n glir ac yn hygyrch i'n myfyrwyr. Ein nod yw gwneud ffiseg a seryddiaeth yn berthnasol ac yn gyffrous ac i gyflwyno'r sgiliau sydd eu hangen ar ein myfyrwyr i lwyddo mewn ystod eang o yrfaoedd. Mae ein graddau cyson uchel yn yr NSS yn dangos bod ein myfyrwyr yn gwerthfawrogi'r amgylchedd dysgu yr ydym wedi'i ddatblygu."

Sgoriodd yr Ysgol yn dda hefyd yng nghanllaw'r Guardian ar wariant fesul myfyriwr a chymhareb nifer y myfyrwyr i staff.

Dywedodd Dr Lewis: "Mae'r Ysgol yn falch iawn ein bod wedi cyflawni'r canlyniadau hyn mewn cyfnod heriol i staff a myfyrwyr yn ystod y pandemig, a'n nod yw parhau i wella'r amgylchedd dysgu ac addysgu i'n myfyrwyr."

Rhannu’r stori hon