Ewch i’r prif gynnwys

Brwydro yn erbyn clefyd y galon

25 Ebrill 2016

Human heart

Gallai cyfuno olew pysgod y môr, rhin coco a ffytosterolau mewn ychwanegyn deietegol gynnig gobaith newydd yn y frwydr yn erbyn clefyd y galon, awgryma astudiaeth newydd gan y Brifysgol.

Bu'r astudiaeth gydweithredol rhwng gwyddonwyr yn Ysgol y Biowyddorau a'r gwneuthurwyr ychwanegion maeth yn ne Cymru, Cultech Ltd, yn ystyried y posibilrwydd o gyfuno'r tri chynhwysyn fel ffordd o atal atherosglerosis neu 'galedu' yn y rhydwelïau.

Drwy ddefnyddio cyfres o fodelau arbrofol a oedd yn seiliedig ar gelloedd, canfu'r astudiaeth, a gyhoeddwyd yng nghyfnodolyn PLOS ONE, bod cyfuno'r tri chynhwysyn hyn yn helpu i atal prosesau allweddol sy'n gysylltiedig ag atherosglerosis.

Yn ôl Dr Dipak Ramji o Ysgol y Biowyddorau, cydawdur yr astudiaeth: "Mae amrywiaeth o gynhwysion bwyd llesol yn cael effaith gadarnhaol ar glefyd cardiofasgwlaidd, ond ni wyddom lawer am eu heffaith pan y'u cymerir gyda'i gilydd.

"Felly, roeddem am geisio ymchwilio i beth fyddai'n digwydd pe baech yn cyfuno asidau brasterog amlannirlawn omega-3 (fel sydd yn olew pysgod y môr), fflafanolau (fel sydd mewn coco) a ffytosterolau.

"Canfu'r astudiaeth y gallai cyfuno'r tri chynhwysyn helpu i atal atherosglerosis mewn modelau sy'n seiliedig ar gelloedd. Yr her nawr yw pwyso a mesur ein canfyddiadau, ac ystyried a ydynt yn berthnasol i fodau dynol.

"Yn y pen draw, ein nod cyffredin yw helpu i atal pobl rhag datblygu atherosglerosis, ac mae'r gwaith cydweithredol hwn yn agor drysau newydd at ymchwil pellach ynglŷn â defnyddio cynnyrch maeth i atal a thrin y cyflwr."

Atherosglerosis sy'n bennaf gyfrifol am achosi clefyd y galon. Mae'n lladd tua un unigolyn bob 34 eiliad, ac yn gyfrifol am tua thraean o'r holl farwolaethau ledled y byd.

Nid yw'r therapïau presennol yn erbyn atherosglerosis yn gwbl effeithiol, ac rydym wedi cael sawl siom yn ddiweddar gan asiantau addawol a nodwyd drwy amrywiol raglenni darganfod cyffuriau.

Ychwanegodd Dr Daryn Michael, Uwch-wyddonydd Ymchwil Cultech Limited: "Mae Dr Ramji a'i dîm wedi bod yn allweddol wrth hwyluso ymchwil arloesol yn y maes hwn, a gobeithiwn y gallwn barhau i gydweithio, gan arwain at ragor o brosiectau llwyddiannus yn y dyfodol."

Rhannu’r stori hon