Ewch i’r prif gynnwys

Cemeg Fflworin yn dilyn y llif

21 Medi 2021

Chemistry automated machine

Mae tîm o ymchwilwyr yn yr Ysgol Cemeg wedi bod wrthi’n gwella'r broses heriol o weithio gyda fflworin er mwyn gallu ei pharatoi'n fwy effeithlon a diogel ar gyfer y synthesis o foleciwlau gyda chymwysiadau meddygol.

Pan fydd y rhan fwyaf o bobl yn meddwl am yr elfen fflworin, maen nhw'n meddwl am y fflworid mewn past dannedd sy'n helpu i ddiogelu enamel ein dannedd. Ond mae'r cymwysiadau'n ehangach o lawer, gyda bron i draean o'r cyffuriau meddyginiaethol sy'n perfformio orau ar y farchnad yn cynnwys atom fflworin yn eu strwythur. Er enghraifft, mae lansoprazole (Prevacid), yn rheoleiddio asid stumog, a Fluoxetine (Prozac), yn cael ei ddefnyddio'n helaeth yn erbyn iselder.

Fflworin yw'r elfen gemegol fwyaf adweithiol sydd gennym ac mae rheoli ei chemeg wrth gynhyrchu'r moleciwlau hyn ar gyfer meddyginiaeth yn her. "Fflworid" yw fflworin sydd wedi adweithio i ffurfio cyfansoddyn gydag elfen arall (sodiwm fel arfer mewn past dannedd) ac mae'n rhwymo mor dynn wrth ei phartner fel ei bod yn anodd eu gwahanu. I wneud y bondiau carbon-fflworin sydd eu hangen ar gyfer cymwysiadau meddygol fel arfer rhaid i gemegwyr weithio gyda'r elfen adweithiol ei hun (F2) neu gyda'r asid hynod gyrydol (HF). Mae defnyddio'r rhain yn y cyfeintiau mawr sydd eu hangen ar gyfer cynhyrchu cyffuriau yn heriol iawn gyda mesurau diogelwch llym a chyfarpar costus.

Mae ymchwilwyr yn yr Ysgol Cemeg bellach wedi dangos sut y gall ailfeddwl cemeg fflworin yn defnyddio dull adweithydd llif wella effeithlondeb y ffordd y caiff bondiau carbon-fflworin eu ffurfio ac ar yr un pryd sicrhau bod yr adweithiau'n cael eu rhedeg yn ddiogel gyda gorbenion llawer is o ran y cyfarpar a ddefnyddir. Yn y dull cemegol safonol caiff cyfeintiau mawr o adweithyddion eu cymysgu gyda'i gilydd a'u gadael i adweithio am beth amser cyn i gynhyrchion gael eu hynysu a'u tynnu. Mewn dull llif caiff yr adweithyddion eu cymysgu dim ond pan fydd eu hangen, gan gadw'r lefel o fflworin hynod adweithiol mor isel â phosibl ar unrhyw adeg. Yn yr adweithydd llif newydd caiff HF ei drawsnewid yn gyfansoddyn rhyngol yn cynnwys fflworin ac ïodin, gyda'r fflworin ar gael yn ddigonol i adweithio gydag atomau carbon. Caiff y bond carbon-fflworin ei ffurfio'n gyflym ar ôl creu'r rhyngolyn hwn fel nad yw'r rhyngolyn byth yn cynyddu o ran crynodiad.

Arweinydd y tîm sy'n datblygu'r dull yw'r Athro Thomas Wirth, sy’n credu y bydd defnydd eang iddo yn y diwydiant fferyllol ac unrhyw le ble mae cemegwyr angen ffurfio bondiau carbon-fflworin yn ddiogel ac effeithlon. Bu'r myfyriwr PhD Bethan Winterson a'r myfyriwr Erasmus ymweld Tîm Renningholtz yn cydweithio i weithredu'r adweithydd llif a'r rheolaeth gyfrifiadurol sy'n trefnu'r cemeg.

I gael rhagor o wybodaeth gweler: https://pubs.rsc.org/en/content/articlelanding/2021/SC/d1sc02123k

Rhannu’r stori hon