Ewch i’r prif gynnwys

Darlithydd ffisiotherapi yw’r cyntaf i ddarparu triniaethau Botox ‘Safon Aur’ dan arweiniad uwchsain ar gyfer cleifion gartref

20 Medi 2021

Gary Morris, Ymarferydd Ffisiotherapi Uwch ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Darlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd yw'r cyntaf i ddarparu pigiadau Botox dan arweiniad uwchsain yng nghartrefi cleifion. Mae'r arfer o wneud pigiad Botox gan ddefnyddio arweiniad Uwchsain yn cael ei ystyried yn safon aur gan ei fod yn fwy cywir, yn darparu canlyniadau gwell ac yn lleihau'r risg o waedu.

Gall fod angen pigiadau Botox ar gleifion, oedolion yn bennaf, sydd â chyflyrau fel strôc, sglerosis ymledol, anaf i'r asgwrn cefn, ac anaf trawmatig i'r ymennydd i helpu gyda chyhyrau tynn. Yn ystod y pandemig nid oedd cleifion yn gallu ymweld â chlinigau cleifion allanol mewn ysbytai, felly yn lle hynny defnyddiodd Gary a'r tîm ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda dechnoleg a dulliau newydd i ddarparu'r un driniaeth yng nghysur cartrefi cleifion.

Dywedodd Gary: “Roedd y pandemig yn golygu bod rhaid i ni ail-werthuso sut roeddem ni’n mynd i gefnogi ein cleifion ... Mae defnyddio'r dechnoleg gludadwy cost isel hon yn golygu y gallwn fynd â'r ysbyty at y cleifion i bob pwrpas. Mae'r arloesedd hon wedi bod yn arbennig o bwysig i bobl sydd â lefelau uwch o anabledd, lle gall teithio fod yn anodd iawn. "

Gan ddefnyddio Hywel Dda Health Charities, prynodd y sefydliad ddarn newydd o dechnoleg sy’n cysylltu â llechen, yr uwchsain llaw gan Orca Medical, ar gyfer y gwasanaeth, gyda chymorth elusennau. Mae'r dechnoleg newydd hon bellach yn caniatáu inni ddarparu pigiadau dan arweiniad uwchsain fel mater o drefn i bobl yn yr ysbyty ac allan yn y gymuned yng nghartrefi pobl.

Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yw'r unig fwrdd iechyd yng Nghymru ac mae’n un o nifer fach iawn yn y Deyrnas Unedig sy'n darparu pigiadau dan arweiniad uwchsain yng nghartrefi pobl fel mater o drefn. Mae hyn bellach yn golygu y gellir cwblhau'r mwyafrif o'r gwaith a wneir yn y bwrdd iechyd hwn yn y cartref.

Dau berson sydd wedi elwa yw Kirsty a Katheryn Fields. Mae gan yr efeilliaid 27 oed o Lanelli gyflwr niwrolegol mor brin nes iddo gael ei enwi ar eu hôl: ‘Cyflwr Fields’. Mae'r efeilliaid fel ei gilydd yn dioddef sbasmau poenus ac roeddent ymhlith y cyntaf i dderbyn y driniaeth gartref. Dywedodd eu mam a'u prif ofalwr, Lyn Fields:

“Er mwyn i Kirsty a Kath fynd i apwyntiad ysbyty mae yna lawer iawn o waith i’w wneud, gall gymryd 5 neu 6 awr yn hawdd. Mae angen gofal 24/7 gartref ar y merched felly mae gwneud hynny wrth dreulio’r rhan fwyaf o’r dydd yn teithio ac yn yr ysbyty yn golygu bod arnom ni angen gofal ychwanegol i’w cefnogi, a gall olygu bod pawb ohonom ni wedi ymlâdd.  Mae derbyn y driniaeth yng nghysur eu cartref, wedi'i ffitio o amgylch eu hanghenion gofal, wedi bod o fudd enfawr i ni."

Dywedodd Calum Higgins, Rheolwr Materion Cyhoeddus a Pholisi Cymru ar gyfer y Gymdeithas Ffisiotherapi Siartredig: “Gan mai ni yw’r corff proffesiynol ar gyfer ffisiotherapyddion rydym yn awyddus i weld datblygu gwasanaeth cymunedol arloesol i gleifion a datblygu sgiliau ymarfer uwch y gweithlu ... mae'n wych gweld Hywel Dda yn datblygu gwasanaeth sy'n mynd at y claf lle maen nhw, ac yn cynnig cyfleoedd i’r gweithlu ffisio ddatblygu'r sgiliau ymarfer uwch hyn. "

Oherwydd enw da Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Caerdydd yn y maes hwn, mae'r ddau sefydliad ar hyn o bryd yn gweithio ar y cyd â Choleg y Brenin, Llundain i ddatblygu safonau rhyngwladol ar ddefnyddio pigiad Botox dan arweiniad uwchsain gyda'r bwriad o gynyddu ei ddefnydd mewn ymarfer clinigol.

Rhannu’r stori hon