Ewch i’r prif gynnwys

Ap newydd i fesur ansawdd bywyd pobl â chyflyrau’r croen

20 Medi 2021

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi creu ap i fesur ansawdd bywyd pobl â chyflyrau’r croen. Yr ap yw’r cyntaf o’i fath.

Mae'r ap rhad ac am ddim hwn ar gael ar hyn o bryd yn Saesneg (DU ac UDA), Sbaeneg, Almaeneg, Ffrangeg, Japaneaidd, Hindi a Tsieinëeg Syml. Os yw ffôn y defnyddiwr wedi'i osod i un o'r ieithoedd hyn, bydd yr ap yn lawrlwytho'n awtomatig yn yr iaith honno. Fel arall, bydd yr ap yn lawrlwytho yn Saesneg.

Cafodd y Mynegai Ansawdd Bywyd ym Maes Dermatoleg (DLQI) ei ddatblygu dros 25 mlynedd yn ôl fel holiadur deg pwynt. Ers hynny, mae wedi dod yn adnodd safonol ar gyfer mesur ansawdd bywyd ym maes dermatoleg.

Er mwyn sicrhau bod y DLQI ar gael yn y ffordd hawsaf bosibl i gleifion a chlinigwyr, mae bellach ar gael ar ffurf ap. Yn flaenorol, roedd yn adnodd ar ffurf papur yn unig.

Yn ôl yr ymchwilwyr, mae’r ap yn galluogi cleifion i ddeall effaith eu cyflwr ar eu hansawdd bywyd. Gall llawer o gyflyrau’r croen, megis psorïasis ac ecsema, gael effaith niweidiol fawr ar fywyd beunyddiol pobl. Gwnaeth elusennau sy'n cefnogi pobl â chyflyrau’r croen hefyd groesawu fersiwn yr ap o'r adnodd hanfodol.

“Gobeithio y bydd yr ap rhad ac am ddim hwn yn fodd wedi’i ddilysu a chlir i gleifion gyfathrebu â’u hymarferydd gofal iechyd a chael unrhyw gymorth a chefnogaeth sydd eu hangen arnynt,” meddai Dr Ravinder Singh, arweinydd prosiect o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd.

"Mae'r DLQI wedi’i ddefnyddio’n helaeth gan glinigwyr a chleifion ledled y byd. Roeddem yn teimlo ei bod yn hanfodol sicrhau ei bod ar gael yn haws. Mae hyn wedi dod yn bwysicach nag erioed yn ystod y pandemig, am fod y maes gofal iechyd wedi symud llawer iawn o’i wasanaethau ar-lein, ac am fod angen ar gleifion ffordd ddigidol o ddilyn eu cynnydd a chyfathrebu â’u hymarferwyr gofal iechyd.

“Gobeithio y bydd yr ap yn cael effaith wirioneddol ar ofal a chefnogaeth i bobl sydd â chyflyrau’r croen.”

Mae'r ap wedi'i gynllunio ar sail yr holiadur deg pwynt. Ar ôl ei gwblhau, bydd sgôr yn dangos yn awtomatig, yn ogystal â dehongliad ohoni sy’n seiliedig ar system sgorio. Mae'r deg canlyniad diweddaraf yn cael eu storio a'u dangos, sy’n ei gwneud yn hawdd dilyn eich cynnydd. Mae’r data’n cael ei gadw’n gyfrinachol ar ffôn clyfar yr unigolyn. Nid yw ar gael i unrhyw un arall.

Dywedodd Helen McAteer, Prif Weithredwr y Gymdeithas Psorïasis: "Ar adeg pan fo llawer o apwyntiadau dermatoleg (ym maes gofal sylfaenol yn ogystal â’r maes gofal eilaidd) yn cael eu cynnal dros y ffôn neu alwad fideo, mae'n hanfodol nad ydym yn colli golwg ar yr effaith y mae byw gyda chyflyrau’r croen yn ei chael ar fywyd person. Mae’n hanfodol cydnabod hyn hefyd wrth ystyried opsiynau o ran triniaeth.

"Mae'n wych bod y DLQI bellach ar gael ar ffurf ap dibynadwy, gan ei fod yn adnodd mor hanfodol, tra chyfarwydd ac uchel ei barch i gleifion a chlinigwyr sy’n galluogi ymgyngoriadau llawer cyfoethocach, p'un a ydynt yn rhai wyneb yn wyneb, dros y ffôn neu dros alwad fideo.”

Mae'r DLQI, a ddatblygwyd ym 1994 gan yr Athro Andrew Finlay ac un o fyfyrwyr PhD Prifysgol Caerdydd, Dr Gul Karim Khan, wedi'i ddilysu'n helaeth, ac mae bellach ar gael mewn dros 120 o ieithoedd. Mae’n cael ei ddefnyddio mewn canllawiau triniaeth a chofrestrfeydd cenedlaethol ledled y byd.

Mae’r ap, o’r enw ‘DLQI: The official ap’, ar gael ar ffonau Apple/Android ac yn cael ei gyllido gan Brifysgol Caerdydd.

Rhannu’r stori hon