Ewch i’r prif gynnwys

Newid deietau er mwyn mynd i'r afael â newidiadau yn yr hinsawdd ‘heb fod o fewn cyrraedd’ yn achos grwpiau lleiafrifol

16 Medi 2021

Mae gwneud bwyd yn fwy fforddiadwy i grwpiau lleiafrifoedd ethnig yn hanfodol o ran lleihau nifer yr allyriadau nwyon tŷ gwydr yn ein deietau, yn ôl ymchwil gwyddonwyr.

Yn ôl astudiaeth newydd ar arferion bwyd yn UDA, mae deiet iachus sydd â llai o effeithiau amgylcheddol yn bosibilrwydd yn achos cyfran fawr o'r boblogaeth ond yn anfforddiadwy yn achos hyd at 38% o unigolion Du ac Ysbaenaidd yn y grwpiau incwm ac addysg isaf.

Er bod deietau pobl sy’n meddu ar statws economaidd-gymdeithasol uwch yn gyfrifol am effeithiau amgylcheddol uwch ar hyn o bryd, mae'r unigolion hyn yn fwy tebygol o allu fforddio’r newid i gyfeiriad deiet iachusach.

Yn ôl y tîm o wyddonwyr, gellid sicrhau deiet sy’n cynnwys mwy o rawn cyflawn, cynnyrch llaeth, ffrwythau a llysiau, bwyd môr, a phrotein planhigion, ynghyd â lefelau is o siwgrau wedi’u hychwanegu, grawn puredig, brasterau dirlawn a sodiwm, fel rhan o gyllidebau bwyd presennol 95% o boblogaeth UDA.

Byddai'r deiet gwell hwn yn arwain at ostyngiadau o 2% ar gyfartaledd yn nifer yr allyriadau nwyon tŷ gwydr sy'n gysylltiedig â bwyd, 24% yn y defnydd o dir a 4% yn y defnydd o ynni; fodd bynnag, byddai cynnydd o 28% yn y defnydd o ddŵr.

Yn ôl yr ymchwilwyr, er bod unigolion sydd â lefelau uwch o incwm ac addysg yn fwy tebygol o fod yn hunanysgogol o ran newid eu deiet i gyfeiriad patrwm iach, gall deietau iachusach arwain at gostau uwch ac o bosibl beri rhwystr i unigolion sydd â statws economaidd-gymdeithasol is.

Mae'r tîm wedi galw ar i lunwyr polisi ystyried gwella cynllunio trefol a’r seilwaith i leihau'r amser a'r baich ariannol ynghlwm wrth wrth gyrchu dewisiadau bwyd iachus, ynghyd â datblygu rhaglenni addysgol mewn ysgolion i hyrwyddo bwyta'n iach yn ogystal ag ysgogi newidiadau yn ymddygiad pobl.

Mae allyriadau fesul pen o’r boblogaeth, defnydd tir a nwyon tŷ gwydr sy'n gysylltiedig â deietau yn UDA bron ddwywaith cyfartaledd y byd.

Ar ben hynny, mae arolygon maeth yr Unol Daleithiau yn dangos bod gwahaniaethau o ran ansawdd maethol sy'n gysylltiedig ag incwm, addysg a hil yn parhau, er bod deietau wedi gwella yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf.

Yn eu hastudiaeth, meintiolodd y tîm effeithiau amgylcheddol ac ansawdd maethol gofnodion deietegol unigolion yn sgîl arolwg maeth bob chwe mis sy'n gynrychioliadol yn genedlaethol, sef yr Arolwg Archwilio Iechyd a Maeth Cenedlaethol (NHANES), rhwng 2005 a 2016.

Defnyddiodd y tîm algorithmau i greu deietau newydd a fyddai’n bodloni gofynion maethol ac a fyddai’n agos at ddeiet presennol unigolyn, gan gyfrifo'r gwariant a'r effeithiau amgylcheddol sy'n gysylltiedig â'r newid hwn yn y deiet.

Dangoson nhw fod deiet dyddiol unigolyn ar gyfartaledd yn cynhyrchu 3.4 kg o allyriadau carbon deuocsid, 15.6  m2 o ddefnydd tir, 972 litr o ddŵr glas a 28.9 MJ o ddefnydd ynni.

Ar y lefel genedlaethol, roedd hyn yn cyfateb i 385 megaton o allyriadau carbon deuocsid, 1.77 miliwn km2 o dir, 110 biliwn m3 o ddŵr a 3.27 miliwn TJ o ynni dros gyfnod o flwyddyn.

Dangosodd y dadansoddiad fod unigolion â statws economaidd-gymdeithasol uwch yn gyfrifol am effeithiau amgylcheddol uwch oherwydd eu bod yn bwyta bwydydd protein dwysach eu heffaith gan gynnwys cynnyrch llaeth a da byw, a bwyd môr. Mae codlysiau, cnau a hadau, yn ogystal â ffrwythau, hefyd yn cyfrannu at y gwahaniaeth.

Dangosodd y tîm y gallai symud i ddeietau iachus arwain at newid sylfaenol mewn effeithiau amgylcheddol yn achos pob grŵp economaidd-gymdeithasol.

Fodd bynnag, ni all 38% o unigolion Du ac Ysbaenaidd yn y grŵp incwm ac addysg isaf, sef dwywaith nifer canran yr unigolion gwyn, fforddio patrymau deietegol o'r fath.

Ar ben hynny, ymhlith y rheiny sy'n gallu fforddio'r deiet gwell, byddai 32% o unigolion Du a 37% o unigolion Ysbaenaidd yn cael eu hystyried o dan faich ariannol gan eu bod yn gwario mwy na dwywaith cyfartaledd cenedlaethol y gyfran incwm ar fwyd.

“Mae ein hastudiaeth yn dangos bod y rheiny sydd â chyflog da a/neu sydd wedi cael addysg dda yn fwy tebygol o fabwysiadu deiet iachusach ond eu bod hefyd yn gyfrifol am effeithiau amgylcheddol uwch o ran allyriadau nwyon tŷ gwydr, ôl troed dŵr glas, meddiannaeth tir, yn ogystal â’r defnydd o ynni,” meddai cyd-awdur yr astudiaeth Dr Pan He, o Ysgol Gwyddorau Daear ac Amgylcheddol Prifysgol Caerdydd.

“Er y gall symud i ddeiet iachus leihau’r effeithiau amgylcheddol ac y gall y rhan fwyaf o bobl fforddio hyn, ni fyddai hyn o fewn cyrraedd grwpiau o dan anfantais a allai fod yn sownd o hyd wrth iddyn nhw geisio newid.

“Mae angen polisïau sy’n peri bod bwyd maethlon yn fwy fforddiadwy, a hynny er mwyn hyrwyddo gwell maeth a gwell deilliannau amgylcheddol ar yr un pryd, yn enwedig yn achos grwpiau economaidd-gymdeithasol sy’n fwy agored i niwed.”

Rhannu’r stori hon