Ewch i’r prif gynnwys

Dwy ran o dair o bobl yn dweud eu bod wedi teimlo’n unig ac yn ynysig yn gymdeithasol ar ôl colli rhywun annwyl yn ystod y pandemig

15 Medi 2021

Yn ôl ymchwil newydd, mae dwy ran o dair (67%) o bobl wedi teimlo’n unig ac yn ynysig yn gymdeithasol ar ôl colli rhywun yn ystod pandemig COVID-19.

Mae data cynnar o ymchwil a wnaed gan Ganolfan Ymchwil Gofal Lliniarol Marie Curie Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bryste’n taflu goleuni ar effaith galar ar y rhai sydd wedi colli anwyliaid.

Mae hefyd yn awgrymu nad oes llawer o gefnogaeth ar gael i'r rhai mewn profedigaeth, am fod bron i hanner (48%) o’r bobl a gwblhaodd yr arolwg wedi dweud na chawsant unrhyw wybodaeth am wasanaethau cymorth profedigaeth.

Mae Comisiwn Profedigaeth y DU, sy’n annibynnol, yn galw ar bobl ledled y DU i rannu eu profiadau o brofedigaeth.

Dywedodd Dr Emily Harrop o Ganolfan Ymchwil Gofal Lliniarol Marie Curie: “Peth trist yw cael gwybod na chafodd llawer o bobl a gollodd rywun yn ystod y pandemig gefnogaeth emosiynol angenrheidiol a bod llawer mwy o’r bobl hynny’n anymwybodol o’r opsiynau a oedd ar gael iddynt.

“Mae'n hanfodol ein bod ni, fel gwlad, yn dysgu gwersi o'r profiad o brofedigaeth dorfol yn ystod y pandemig. Rhaid i ddarparwyr iechyd a gofal cymdeithasol flaenoriaethu cyfathrebu â pherthnasau a helpu i sicrhau y gall pobl fod mewn cysylltiad â'u hanwyliaid sy'n marw, hyd yn oed yn ystod pandemig. Fodd bynnag, ni all hyn ddigwydd heb flaenoriaethu adnoddau i staff sy'n gofalu am y rhai sy’n marw, hefyd.”

Dywedodd Dr Lucy Selman o Brifysgol Bryste: “Gan fod disgwyl i nifer gyfartalog y marwolaethau yn y DU gynyddu dros yr 20 mlynedd nesaf, mae’n hanfodol bod digon o adnoddau’n cael eu darparu ar gyfer gwasanaethau cymorth profedigaeth a bod camau’n cael eu cymryd i sicrhau bod pawb sydd wedi colli rhywun yn cael eu cyfeirio at gefnogaeth a gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael.”

Dywedodd un ferch mewn profedigaeth a gwblhaodd yr arolwg: “Roedd yn brofiad oer ac unig heb dosturi ac empathi – mor wahanol i farwolaeth fy nhad bum mlynedd ynghynt mewn cartref nyrsio. Galwodd y tîm profedigaeth y diwrnod canlynol, a chefais fy nhrin mewn ffordd amhersonol iawn heb unrhyw dosturi.”

Tua’r un adeg y mae’r canlyniadau’n cael eu cyhoeddi ar wefan MedRxiv, mae Comisiwn Profedigaeth y DU yn galw ar y cyhoedd i “rannu eu stori galar” o heddiw ymlaen. Bydd y straeon yn rhoi’r dystiolaeth sydd ei hangen i helpu i lywio argymhellion y Comisiwn ar ffurf adroddiad a fydd yn cael ei anfon at benderfynwyr allweddol, gan gynnwys Llywodraeth y DU, y flwyddyn nesaf.

I rannu eich profiadau o brofedigaeth a chyfrannu at yr adolygiad sy'n cael ei wneud gan Gomisiwn Profedigaeth y DU, ewch i bereavementcommission.org.uk/taking-part

Mae’r ymchwil yn cael ei hariannu gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol sy’n rhan o UKRI.

Rhannu’r stori hon