Ewch i’r prif gynnwys

Bydd rhaglen gradd feddygol Gogledd Cymru yn dyblu nifer y myfyrwyr o'r flwyddyn nesaf ymlaen

9 Medi 2021

Bydd rhagor o fyfyrwyr meddygol yn astudio ar gyfer eu gradd gyfan yng ngogledd Cymru fel rhan o gynlluniau i ehangu rhaglen hyfforddi'r rhanbarth.

Mae rhaglen C21 Gogledd Cymru, a gyflwynir mewn partneriaeth rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bangor, yn caniatáu i fyfyrwyr astudio yn y Gogledd a bydd mwy o ffocws ar feddygaeth gymunedol ac ystod eang o leoliadau gan gynnwys blwyddyn lawn mewn meddygfa deulu.

Mae Llywodraeth Cymru, sy'n ariannu'r cynllun, wedi cyhoeddi y bydd yn cael ei ehangu o 20 myfyriwr i 25 eleni ac i 40 myfyriwr yng ngharfan y flwyddyn nesaf.

Dyma a ddywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, a ymwelodd â Phrifysgol Bangor i gwrdd â staff academaidd allweddol ddydd Iau: “Rwyf am roi’r cyfle i fwy byth o fyfyrwyr astudio tra eu bod wedi’u lleoli yng nghymunedau’r Gogledd oherwydd ein bod wedi ymrwymo i ddarparu gofal mor agos â phosibl i gartrefi pobl.

“Rydyn ni'n gwybod bod heriau o ran recriwtio staff yn y Gogledd, a dyna pam rydyn ni eisiau meithrin myfyrwyr meddygol sy'n cael eu haddysgu yma a'u hannog i aros, yn gyntaf drwy Raglen C21 Gogledd Cymru, sydd wedi bod yn hynod lwyddiannus, ac yn y tymor hirach, drwy ysgol feddygol yng ngogledd Cymru.

“Mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ysgol Feddygol Gogledd Cymru wedi adrodd yn ôl imi, a byddaf yn sefydlu Bwrdd Rhaglenni i weithredu ei argymhellion ac i weithio i sefydlu ysgol feddygol annibynnol yn y Gogledd.”

Dyma a ddywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd: “Mae'n newyddion gwych bod llwyddiant partneriaeth Meddygaeth C21 Gogledd Cymru yn cael ei gydnabod ar ôl y gwaith caled y mae’r timau ym Mangor a Chaerdydd wedi’i wneud.

“Mae'r rhaglen bellach wedi'i hen sefydlu ac mae adborth rhagorol wedi bod gan fyfyrwyr a bydd Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd yn parhau i greu capasiti ar gyfer addysg feddygol, a hynny mewn partneriaeth, i gyflawni uchelgais y rhanbarth.”

Dywedodd Emily Viggers, myfyrwraig yn y drydedd flwyddyn, ei bod wedi dewis astudio ar Raglen C21 Gogledd Cymru i'w helpu i daro'r nodyn cywir rhwng bywyd a byd gwaith.

“Os ydych chi eisiau bod yn rhan o gymuned glos o fyfyrwyr meddygol, mae'n ffordd mor wych o ddysgu oherwydd bod pawb yn helpu ei gilydd. Mae'n gyfle gwych – fyddwn i ddim eisiau bod yn unman arall yn astudio meddygaeth. "

Dyma a ddywedodd Dr Esyllt Llwyd, tiwtor meddyg teulu Blwyddyn 3: “Gallaf ddweud yn onest fod cael y fyfyrwraig yma yn cyfoethogi profiad fy meddygfa deulu a phrofiad fy nghleifion hefyd gobeithio."

Dyma a ddywedodd yr Athro Stephen Riley, Pennaeth Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd a Deon Addysg Feddygol: “Dechreuodd ein taith i newid sut mae addysg feddygol yn cael ei chyflwyno yn y rhannau hynny o Gymru sy’n fwy gwledig drwy leoli myfyrwyr mewn cymunedau a meddygfeydd teulu ac wedyn datblygodd i fod yn rhaglen C21 mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor.

“Mae’r gwaith arloesol hwn wedi braenaru’r tir ar gyfer cyflwyno Ysgol Feddygol yng gogledd Cymru. Byddwn ni’n parhau i ddod o hyd i ffyrdd sy'n seiliedig ar dystiolaeth i ddarparu addysg feddygol ragorol sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr a chleifion, a hynny i hyrwyddo’r gwaith o recriwtio a chadw'r gweithlu meddygol yng Nghymru. "

Dyma a ddywedodd Iwan Davies, Is-Ganghellor, Prifysgol Bangor: “Mae Prifysgol Bangor yn croesawu ehangu Rhaglen C21 Gogledd Cymru. Mae hyn yn adeiladu ar y bartneriaeth lwyddiannus gyda Phrifysgol Caerdydd ac yn gam pwysig wrth gyflymu’r broses o sefydlu Ysgol Feddygol annibynnol dan arweiniad ymchwil ym Mangor ar gyfer y Gogledd.”

Bydd rhaglen meddygaeth mynediad i Raddedigion Prifysgol Abertawe hefyd yn cael ei hariannu i gynnig 25 myfyriwr ychwanegol yn 2021.

Rhannu’r stori hon