Ewch i’r prif gynnwys

Gweminar camu ymlaen dros iechyd y meddwl ymhlith yr ifainc

13 Medi 2021

Blonde woman wearing headphones on laptop

Cymerodd rhai o ymchwilwyr Canolfan Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Wolfson ran yng ngweminar agoriadol y ganolfan i nodi Diwrnod Iechyd Meddwl yr Ifainc.

Elusen iechyd y meddwl ymhlith y glasoed, stem4, sefydlodd Ddiwrnod Iechyd Meddwl yr Ifainc yn 2018 ac roedd gweminar y ganolfan yn un o’r achlysuron a digwyddai yng Nghymru ar 7fed Medi 2021 i’w ddathlu. #Camu ymlaen oedd thema’r diwrnod eleni, gan annog pobl ifanc i bwyso a mesur y flwyddyn ddiwethaf a phennu nod i’w helpu i symud tuag at well iechyd y meddwl yn y dyfodol.

Clywodd y gwylwyr dair darlith fer ar amrywiaeth o bynciau gan ymchwilwyr yng Nghanolfan Wolfson - y Dr Chris Eaton, y Dr Vicky Powell a’r Dr Yulia Shenderovich.

Ar ôl pob darlith, roedd sesiwn holi ac ateb eithaf prysur a arweiniodd at drafodaeth ychwanegol ddefnyddiol gan y siaradwyr. Yn y gynulleidfa, roedd pobl o sawl cefndir megis addysg, y trydydd sector, rhieni, cynhalwyr a graddedigion ysgol profiad.

A Screenshot from the interactive tool Mentimeter used during the webinar

Cyflwynodd y Dr Chris Eaton ddarlith ar ei rôl yn gydymaith ymchwil yng Nghanolfan Wolfson a Llywodraeth Cymru, sef gofalu y byddai ymchwil y ganolfan yn helpu i lywio a gwerthuso polisïau iechyd y meddwl er lles pobl ifanc Cymru.

Meddai’r Dr Eaton “Roedd yn dda gyda fi fod yn rhan o weminar gyntaf y ganolfan, yn enwedig i nodi Diwrnod Iechyd Meddwl yr Ifainc. Fe welon ni yn syth fod y gynulleidfa am ddysgu rhagor am waith cyffredinol y ganolfan yn ogystal â’n nodau ym maes ymchwil ar gyfer y flynyddoedd sydd i ddod.

"Fe rois i grynodeb o’r modd y gall ein hymchwil lywio a gwerthuso polisi Llywodraeth Cymru ar iechyd y meddwl ymhlith yr ifainc, a thynnais i sylw at natur gydweithredol y ganolfan am ei bod yn cydweithio ar arbenigwyr amryfal yn y byd academaidd, addysg, y GIG, mudiadau yn y trydydd sector, llunwyr polisïau ac, wrth gwrs, yr ifainc.

"Trwy gydweithio o’r fath, gallwn ni ofalu y bydd canfyddiadau ein hymchwil yn llywio polisïau ac arferion yn ddiymdroi ac roedd yn gyffrous cael cyfle i gyflwyno hynny yn ystod y weminar.”

Soniodd y Dr Victoria Powell, ymchwilydd ôl-ddoethurol yng Nghanolfan Wolfson, am gynnal ymchwil i gysylltiad anhwylder gorfywiogrwydd diffyg sylw ag iselder.

Ychwanegodd y Dr Powell: “Roedd yn wych clywed cynifer o gwestiynau da gan y gynulleidfa. Enillais ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd eleni trwy ymchwil i beryglon iselder ymhlith plant a phobl ifanc sy’n dioddef ag anhwylder gorfywiogrwydd diffyg sylw a’r ffactorau a allai esbonio pam mae rhagor o berygl iddyn nhw.

"Edrychaf ymlaen at barhau i gynnal ymchwil i risgiau a ffactorau amddiffynnol iselder ymhlith yr ifainc yn fy rôl yng Nghanolfan Wolfson. Rwy'n ddiolchgar am gyfle i gyflwyno fy ngwaith blaenorol, yn enwedig o ystyried thema Diwrnod Iechyd Meddwl yr Ifainc eleni."

"Rwy'n mawr obeithio y bydd gwaith Canolfan Wolfson yn helpu pobl ifanc i symud tuag at well iechyd y meddwl yn y dyfodol."
Dr Victoria Powell Research Associate, Division of Psychological Medicine and Clinical Neurosciences

Y Dr Yulia Shenderovich, uwch ddarlithydd yng Nghanolfan Wolfson, roes ddarlith olaf y noson. Trafododd Yulia ffyrdd o atal trais er lles plant a phobl ifanc a rôl rhaglenni rhianta ym maes iechyd y meddwl.

Meddai’r Dr Shenderovich: “A minnau wedi ymuno â’r tîm rai misoedd yn ôl, roedd yn dda cael cymryd rhan yn yr un gyntaf o sawl gweminar gan Ganolfan Wolfson.

"Mae fy ngwaith yn ymwneud â gwasanaethau i bobl ifanc, gan werthuso pa mor dda ac eang y bydd rhaglenni’n gweithredu. Mae rhaglenni magu plant o ddiddordeb imi, ac roedd cwestiynau’r gynulleidfa am fy ngwaith yn ddoeth iawn.

"Rwy'n edrych ymlaen at weld cynnydd gweminarau a digwyddiadau eraill y ganolfan dros y misoedd nesaf, gan gynnwys cyfres o seminarau rydyn ni’n gobeithio ei chyflwyno ddechrau’r flwyddyn nesaf.”

Mae modd gweld y weminar isod ac ar y we trwy sianel YouTube Canolfan Wolfson.

Rhannu’r stori hon