Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddonydd ym Mhrifysgol Caerdydd yn sicrhau cyllid Arweinwyr y Dyfodol

10 Medi 2021

Mae Dr Michael Prior-Jones o Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd wedi sicrhau Cymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol arbennig er mwyn helpu i fynd i’r afael â phroblem sy’n gwaethygu ar yr Ynys Las, sef nifer y rhewlifoedd sy’n toddi.

Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu offer o'r radd flaenaf i fonitro rhewlifoedd mewn ffyrdd na fu'n bosibl yn flaenorol. Bydd yr offer hyn yn cael eu profi ar alldaith fawr i'r Ynys Las yn 2025.

A hwythau’n cael eu cefnogi gan gronfa ymchwil gwerth £900m, mae Cymrodoriaethau Arweinwyr y Dyfodol blaenllaw UKRI yn ceisio ehangu’r cyflenwad cadarn o unigolion dawnus sydd eu hangen i sicrhau bod ymchwil ac arloesedd y DU yn parhau i fod o safon fyd-eang.

Mae’r cymrodoriaethau’n cynnig yr hyblygrwydd a’r amser sydd eu hangen ar ymchwilwyr sy’n dod o wahanol gefndiroedd a llwybrau gyrfa i wneud cynnydd wrth geisio mynd i’r afael â rhai o broblemau mwyaf uniongyrchol cymdeithas.

Dywedodd Dr Prior-Jones: “Mae sicrhau’r gymrodoriaeth hon yn anrhydedd arbennig ac yn gyffrous dros ben. Bydd y cyllid yn fy ngalluogi i ddatblygu offer a thechnolegau newydd fydd yn rhoi gwybodaeth newydd am ymddygiad rhewlifoedd. Bydd hefyd yn arwain at ragolygon gwell o sut mae lefel y môr yn codi ledled y byd oherwydd y newid yn yr hinsawdd.”

Mae rhewlifoedd yn toddi am fod tymereddau ledled y byd yn codi. Mae'r dŵr tawdd yn treiddio i lawr trwy graciau a thyllau yn yr iâ, gan weithredu fel iraid, ac yn annog y rhewlif i lithro - yn union fel mae carreg gyrlio yn llithro dros wyneb llawr sglefrio iâ.

Pan mae rhewlif yn llifo i lawr yr afon ac yn ymuno â’r cefnfor yn y pen draw, mae’n toddi ac yn achosi i lefel y môr godi. Gall hyn gael effeithiau dinistriol ar gymunedau arfordirol ledled y byd. Mae Dr Prior-Jones yn rhan o dîm dan arweiniad Caerdydd sydd wedi datblygu stiliwr diwifr bach, o'r enw 'Cryoegg'. Mae modd ei anfon dros 2000 metr y tu mewn i rewlif i gasglu gwybodaeth hanfodol ac amser real am yr amodau o’i gwmpas.

Bydd fersiwn ddatblygedig o'r Cryoegg yn cael ei datblygu o ganlyniad i'r cyllid newydd, ochr yn ochr ag offerynnau i astudio eira, nentydd sy'n llifo ar wyneb y rhewlif, moulins - sianeli dŵr y tu mewn i'r rhewlif - a dŵr o dan y rhewlif.

Bydd alldaith fawr i Rewlif Sermeq Kujalleq/Jakobshavn, un o'r rhewlifoedd sy'n symud gyflymaf yn yr Ynys Las, yn cael ei chynnal hefyd yn 2025.

Peirianneg electronig yw cefndir gwaith Dr Prior-Jones. Ar ôl ennill PhD mewn Peirianneg ym Mhrifysgol Caerlŷr yn 2010, aeth yn ei flaen i ymgymryd â nifer o rolau ar draws y byd academaidd a diwydiant, gan gynnwys llawer ohonynt oedd wedi'u lleoli yn Antarctica.

Ymgymerodd â rôl ymchwilydd ôl-ddoethurol ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2019, gan weithio ochr yn ochr â Dr Liz Bagshaw ar brosiect Cryoegg.

Mae Dr Prior-Jones yn rhan o garfan o tua 100 o gymrodyr a ddewiswyd ym mhumed rownd y cynllun, sy'n cynnwys ymchwilwyr ac arloeswyr o'r byd academaidd, busnes a diwydiant ledled y DU.

Mae Dr Prior-Jones wedi derbyn £1.4m o'r cynllun cyllido, fydd yn helpu i ariannu ei ymchwil dros y pedair blynedd nesaf.

“Hoffwn ddiolch yn arbennig i bawb sydd wedi fy nghefnogi trwy gydol y broses ymgeisio, yn enwedig fy rheolwr llinell Dr Liz Bagshaw, sydd wedi bod yn ffynhonnell wych o anogaeth a chefnogaeth.”

“Rwy'n edrych ymlaen at ddechrau ar y rhaglen ymchwil gyffrous hon ac adeiladu tîm o gydweithwyr a phartneriaid yng Nghaerdydd ac mewn llawer o sefydliadau eraill,” parhaodd Dr Prior-Jones.

Dywedodd Prif Weithredwr UKRI, yr Athro Dame Ottoline Leyser: “Rwy’n falch iawn bod UKRI yn gallu cefnogi’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr ymchwil ac arloesedd trwy ein rhaglen Cymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol.

“Bydd gan y Cymrodyr newydd a gyhoeddwyd heddiw y gefnogaeth a’r rhyddid sydd eu hangen arnynt i ddilyn eu syniadau ymchwil ac arloesedd, gan gynnig gwybodaeth a dealltwriaeth newydd a mynd i’r afael â rhai o heriau mwyaf ein hoes.”

Dyma a ddywedodd yr Athro Kim Graham, Rhag Is-Ganghellor Ymchwil, Arloesedd a Menter: “Mae cynllun Cymrodoriaeth Arweinwyr y Dyfodol UKRI yn darparu cyllid tymor hir rhagorol i ymchwilwyr ac arloeswyr i gefnogi ymchwil newydd arloesol yn ogystal â’r gwaith o bontio cyflym i arweinyddiaeth.

“Rwy’n llongyfarch Mike ar ei lwyddiant yn y cynllun pwysig hwn, ac rwy’n edrych ymlaen at yr adeg pan fydd yn dod yn rhan o’r garfan gynyddol o Gymrodyr ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n cymryd rhan yn Arweinwyr y Dyfodol UKRI. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd cymrodoriaeth Mike – ar bwnc newidiadau amgylcheddol mewn rhewlifoedd – yn arwain at wybodaeth a chanlyniadau ymchwil newydd cyffrous, yn ogystal â’i helpu i ddatblygu i fod yn un o arweinwyr ymchwil y dyfodol yng Nghaerdydd. ”

Rhannu’r stori hon