Ewch i’r prif gynnwys

Clybiau caligraffeg a sgwrsio Tsieineaidd yn cadw sgiliau dysgwyr iaith yn fyw

8 Medi 2021

Oes gennych chi ddiddordeb yng nghrefft hynafol caligraffeg? Beth am ymarfer eich sgiliau Mandarin gyda siaradwyr brodorol a dysgwyr eraill?

Yr haf hwn, cynhaliodd Sefydliad Confucius Caerdydd ddau glwb gyda'r nod o gefnogi dysgwyr iaith dros fisoedd yr haf: clwb caligraffeg Tsieineaidd i unrhyw un a hoffai ddysgu sut i ysgrifennu nodau Tsieineaidd fel ffurf ar gelf, a chlwb sgwrsio i'r rheini a hoffai ymarfer eu sgiliau Mandarin llafar.

Prosiect cydweithredol yw'r Clwb Caligraffeg Tsieineaidd a drefnir gan Sefydliad Confucius Caerdydd a Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd. Yn y gorffennol mae cyfranogwyr wedi ymuno am resymau amrywiol gan gynnwys gwerthfawrogi diwylliant Tsieineaidd, am resymau creadigol a hyd yn oed fel math o ymwybyddiaeth ofalgar.

Yn 2021, symudodd y clwb ar-lein a chynhaliwyd sesiynau rhyngweithiol dros bedwar dydd Sadwrn ym mis Mehefin a Gorffennaf. Fe'u harweiniwyd gan Xiaonan Zhao, myfyriwr yn gwirfoddoli o Ysgol Busnes Caerdydd, ac roedd y 17 cyfranogwr yn cynnwys myfyrwyr a staff y brifysgol yn ogystal ag aelodau o'r gymuned leol.

Dros fis Awst, cafodd dysgwyr sy'n oedolion gyfle i ymarfer eu sgiliau iaith mewn lleoliad anffurfiol yn y Clwb Sgwrsio Mandarin. Roedd y sesiynau wythnosol awr o hyd a gynhaliwyd ar Zoom yn gyfle i'r cyfranogwyr ymarfer yr hyn roedden nhw wedi'i ddysgu yn y dosbarth gyda siaradwyr brodorol a dysgwyr eraill drwy sgwrsio a gemau. Nid yn unig roedd hyn yn gyfle i ddysgu mwy am Tsieina a Tsieinëeg, ond roedd hefyd yn gyfle i godi hyder a chael hwyl.

Dywedodd un cyfranogwr, Kim Bosher, athrawes yng Nghaerdydd: "Roeddwn i wir yn hoffi bod pobl o bob oed a gallu'n dod at ei gilydd yn y clwb sgwrsio. Doedd y lleoliad ddim yn bwysig, y cyfan oedd ei angen ar bobl oedd diddordeb mewn gwella a chwrdd ag eraill â'r un nod.  Roedd pawb hefyd yn gyfeillgar ac yn gefnogol - hyd yn oed os oeddech chi'n defnyddio'r seiniau anghywir!"

Bydd y ddau glwb yn parhau yn yr hydref ar y dyddiadau hyn:

  • Clwb caligraffeg - dydd Sadwrn 11.00am - 12.30pm, gan ddechrau ar 2 Hydref 2021
  • Clwb sgwrsio - dydd Mercher o 7:00pm, y dyddiad cychwyn ym mis Hydref i'w gadarnhau

Gallwch weld y manylion i gyd ar ein tudalennau digwyddiadau neu drwy gofrestru i dderbyn y newyddion diweddaraf am ein gweithgareddau arfaethedig ar ein rhestr bostio.

Cofrestrwch eich diddordeb os hoffech chi ymuno â'r Clwb Sgwrsio, neu ebostiwch confucius@cardiff.ac.uk gydag unrhyw ymholiadau.

Rhannu’r stori hon