Ewch i’r prif gynnwys

Athro yn y Gyfraith Ganonaidd Law yn cwrdd â'i Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru

11 Awst 2021

Ym mis Gorffennaf eleni, cyflwynodd yr Athro Norman Doe gopi o'i lyfr golygedig diweddaraf i'w Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru mewn digwyddiad yn Eglwys Gadeiriol Dewi Sant, Sir Benfro.

Mae’r llyfr, A New History of the Church in Wales:Governance and Ministry, Theology and Society (Gwasg Prifysgol Caergrawnt 2020) yn nodi canmlwyddiant sefydlu'r Eglwys yng Nghymru, yn dilyn datgysylltu Eglwys Loegr yng Nghymru ym 1920. Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf ym Eglwys Gadeiriol Dewi Sant, yn wasanaeth arbennig i nodi'r achlysur.

Cyfarfu'r Athro Doe â'r Tywysog Siarl ynghyd â chyn-fyfyriwr y Gyfraith Ganonaidd ym Mhrifysgol Caerdydd ac Esgob Bangor, Andy John.

Meddai'r Athro Doe, Cyfarwyddwr Canolfan y Gyfraith a Chrefydd, "Roedd yn hyfryd treulio amser gydag Andy John – rwy’n ei wasanaethu yn rhinwedd fy swydd fel Canghellor Esgobaethol ym Mangor – yn ogystal â chwrdd â'r Tywysog Siarl a chael trafodaeth mewn hiwmor da iawn am fanylion y gyfraith eglwysig ar ddiwrnod mor gofiadwy yn hanes nodedig y gadeirlan ryfeddol hon."

Wrth sôn am y cyfarfod, ychwanegodd Stephen Coleman, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Canolfan y Gyfraith a Chrefydd, "Mae'r berthynas rhwng Canolfan y Gyfraith a Chrefydd Prifysgol Caerdydd a Llyfrgell y Gadeirlan yn Nhyddewi wedi bod yn tyfu yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae cyflwyniad yr Athro Doe o'r gwaith diweddar hwn ar hanes yr Eglwys yng Nghymru yng nghwmni yr etifedd i’r goron yn tanlinellu'r cyfleoedd sy’n dod yn sgîl cydweithio ym mywyd y Ganolfan, yn ogystal ag enw da'r Ganolfan o dan arweinyddiaeth nodedig yr Athro Doe".

Rhannu’r stori hon