Digwyddiad ar-lein i nodi Diwrnod Iechyd Meddwl
17 Awst 2021
Mae Canolfan Wolfson yn cynnal gweminar ar-lein i ddathlu Diwrnod Iechyd Meddwl Ieuenctid ym mis Medi.
Bydd ymchwilwyr o Ganolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn cynnal noson o gyflwyniadau i gyd-fynd â Diwrnod Iechyd Meddwl Ieuenctid yr elusen stem4.
Thema diwrnod ymwybyddiaeth eleni yw #StrideForward / #CamuYmlaen. stem4, elusen sy'n cefnogi pobl ifanc i feithrin iechyd meddwl cadarnhaol, yw sylfaenydd Diwrnod Iechyd Meddwl Ieuenctid y DU, a ddechreuodd yn 2020.
Bydd y gweminar, ar gynhelir ar 7 Medi, yn cynnwys tri chyflwyniad byr ac yna sesiwn Holi ac Ateb.
Bydd y cyflwyniadau'n ymdrin â phynciau fel effaith iselder teuluol ar bontio at fod yn oedolyn, rhaglenni ac adnoddau i gefnogi pobl ifanc a'u teuluoedd wrth wynebu heriau iechyd meddwl a sut y gall ymchwil Canolfan Wolfson lywio a gwerthuso polisi iechyd meddwl ieuenctid yma yng Nghymru.
Bydd y cyflwyniadau'n cynnwys:
- Dr Chris Eaton- Developing policy to improve the mental health of young people in Wales.
- Dr Vicky Powell- Investigating the link between attention-deficit/hyperactivity disorder and depression.
- Dr Yulia Shenderovich- Parenting programmes and supporting youth mental health.
Dywedodd yr Athro Stephan Collishaw, cyd-gyfarwyddwr Canolfan Wolfson: "Rydym ni'n falch iawn i fod yn cynnal cyfres o gyflwyniadau i nodi Diwrnod Iechyd Meddwl Ieuenctid stem4.
“Nododd 1 ym mhob 5 person ifanc yng Nghymru lefelau uchel o broblemau iechyd meddwl cyn pandemig COVID-19 ac mae cyfraddau'r problemau wedi codi ymhellach ers hynny. Mae’n bwysicach nag eirioed ein bod yn gweithio i wella iechyd meddwl pobl ifanc.
"Gobeithio y bydd y cyflwyniadau hyn o ddiddordeb i bobl ifanc a'u teuluoedd, yn ogystal ag academyddion, clinigwyr a chyrff trydydd sector.
"Y digwyddiad ar-lein hwn fydd y cyntaf o lawer gan Ganolfan Wolfson dros y blynyddoedd nesaf a gan mai thema Diwrnod Iechyd Meddwl Ieuenctid eleni yw #StrideForward / #CamuYmlaen, allen ni ddim meddwl am ddiwrnod ymwybyddiaeth mwy priodol i'w ddathlu gan ein bod yn bwriadu cymryd camau mawr ymlaen mewn ymchwil iechyd meddwl i wella bywydau a lles pobl ifanc. ”
Ychwanegydd Sylfaenydd/Prif Swyddog Gweithredol stem4 a'r Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol Dr Nihara Krause: "Yn sgil effaith yr holl aflonyddwch fel dysgu ar-lein, ynysu, newidiadau i arholiadau ac asesiadau a cholli momentwm a strwythur, mae rhoi ffocws ar iechyd meddwl pobl ifanc yn bwysicach nag erioed. Nod Diwrnod Iechyd Meddwl Ieuenctid yw dod â'r DU gyfan ynghyd i gynnig cyfle i gyflawni’r nod hwn, felly rydym ni'n falch iawn fod Canolfan Wolfson yn nodi'r achlysur gyda chyfres o gyflwyniadau ar wella iechyd meddwl ieuenctid yng Nghymru a thu hwnt."
Mae Camu ymlaen ar gyfer iechyd meddwl ieuenctid yn ddigwyddiad ar-lein am ddim a gynhelir ar 7 Medi rhwng 18.00-19.00. Mae'r digwyddiad rhithwir yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn dod.
I gofrestru, ewch i wolfsonyouthmentalhealthday.eventbrite.co.uk