Ewch i’r prif gynnwys

Dathlu Pride 2021

13 Awst 2021

Yr wythnos hon wrth i Gymru ddathlu Pride, hoffai Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd ddathlu a chefnogi ein cydweithwyr a'r myfyrwyr LHDTQ+.

Mae mis Awst yn gyfnod cyffrous yng Nghymru, wrth i ni ymroi i ddathlu ein cymunedau LHDTQ+, meithrin cynghreiriaid a chefnogi prosiectau a sefydliadau LHDTQ+. Er bod mentrau yn cael eu cynnal yn barhaus drwy'r flwyddyn yn yr Ysgol a'r Brifysgol ehangach, caiff ein hymdrechion hwb yn ystod tymor Pride Cymru.

Byddwn yn cynnal ymgyrch Pride y Ddaear ar Twitter rhwng 16 a 20 Awst 2021 i gymryd rhan mewn dathliadau, codi ymwybyddiaeth yn fewnol o fudiadau cymdeithasol LHDTQ+ a thynnu sylw at rai o'r heriau mae pobl LHDTQ+ yn eu hwynebu mewn meysydd gwyddonol. Dilynwch yr ymgyrch ar ein cyfrif Twitter gan ddefnyddio #CUEARTHPRIDE i ddangos eich cefnogaeth.

Bydd Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a’r Amgylchedd bob amser yn cadarnhau ac yn derbyn unigolion lesbaidd, hoyw, deurywiol, traws ac unigolion LHDTQ+ eraill. Rydym ni'n parhau i herio homoffobia, biffobia a thrawsffobia, ac yn ceisio darparu amgylchedd gweithio a dysgu cadarnhaol a chynhwysol sy'n caniatáu i'n cydweithwyr a'n myfyrwyr LHDTQ+ gael eu parchu yn eu hunaniaeth a'u mynegiant.

Y cam cyntaf at ffurfio diwylliant cynhwysol yw datblygu cyd-barch a dealltwriaeth. Rydym ni'n sicrhau bod ein staff a'n myfyrwyr yn cael gwybodaeth gyfredol drwy sesiynau hyfforddi gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Bydd y diwrnod hyfforddi a gynhelir ar 2 Tachwedd 2021 yn canolbwyntio ar gydraddoldeb o ran rhywedd, ac yn benodol:

  • Hunaniaeth traws
  • Iaith a thermau defnyddiol
  • Cydraddoldeb traws yn y gyfraith a pholisi
  • Sut gall sefydliadau weithio i fod yn draws-gynhwysol

Bydd y sesiwn hyfforddi'n gyfle i staff a myfyrwyr ddysgu am gydraddoldeb o ran rhywedd ac ystyried sut y gallan nhw wneud gwahaniaeth i'w cydweithwyr a'u cymheiriaid traws.

Mae'r Ysgol hefyd yn bwriadu cynnal digwyddiad Picnic yn y Parc LHDTQ+ ar gyfer rhwydweithio cymunedol yn ystod tymor yr Hydref 2021. Dyw'r dyddiadau ddim wedi'u cadarnhau eto ond edrychwch am wahoddiad drwy ebost.

Rydym ni'n falch fod Prifysgol Caerdydd wedi’i henwi’n un o’r deg cyflogwr mwyaf cynhwysol ym Mhrydain gan yr elusen cydraddoldeb LHDTQ+ Stonewall, ar ei rhestr o’r 100 Cyflogwr Gorau ar gyfer 2020. Cymerwch olwg ar ein Polisi Traws sydd wedi'i ddiweddaru am arweiniad ar sut y gall cymuned gyfan Caerdydd gynnig cefnogaeth.

I ddangos eich ymrwymiad i wneud cynnydd cadarnhaol i'n cymuned LHDTQ+, gobeithio y byddwch yn gallu dod i'r digwyddiadau sydd ar y gweill a dangos eich cefnogaeth i Pride Cymru ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Rhannu’r stori hon