Ewch i’r prif gynnwys

Dylanwad y weddi ar Shakespeare

22 Ebrill 2016

William Shakespeare

Union 400 mlynedd ar ôl marwolaeth Shakespeare, bydd ymchwil newydd gan Brifysgol Caerdydd yn edrych ar sut y bu i ddysgu ysgrifennu gweddïau ddylanwadu ar ddramodydd gorau'r byd.

Bydd Private Prayer in Shakespeare’s Histories yn ystyried sut gwnaeth dramodydd gorau'r byd feistroli ei grefft drwy ddysgu ysgrifennu gweddïau.

Bydd y prosiect newydd, o dan arweiniad Dr Ceri Sullivan o Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth y Brifysgol, yn ymchwilio i'r weddi fel y ffurf fwyaf cyffredin o ysgrifennu creadigol yn ystod bywyd gwaith Shakespeare, pan oedd y Frenhines Elisabeth I a'r Brenin Iago I yn teyrnasu, o tua 1580 i 1620.

Dywedodd Dr Sullivan: "Roedd y Diwygiad Protestannaidd yn mynnu bod pob oedolyn sengl yn cael ei hyfforddi i gyfansoddi ei weddïau ei hun, ac yn ymarfer y grefft hon. Bob dydd, roedd pobl leyg yn datblygu sgiliau dramatig ac yn caffael sgiliau llenyddol heb yn wybod iddynt, o ran cymeriadu, naratifau gwrth-ffeithiol, a ffurfiau llafar trawiadol fel yr ymson. Roedd dramodwyr yn manteisio ar yr arbenigedd newydd hwn yn eu cynulleidfaoedd.

"Mae hanesion Shakespeare, yn benodol, yn ymwneud â gweddïau sy'n ystyried canlyniadau amgen i'r hyn sy'n datblygu ar y llwyfan. I'r gwrthwyneb, mae llawer o weddïau preifat o'r cyfnod yn canolbwyntio ar yr un emosiynau â'i ddramâu: dial, cenfigen a chariad."

I gwblhau'r prosiect arloesol, bydd Dr Sullivan yn ymgymryd â chymrodoriaethau ym mhrifysgolion Caergrawnt (y Ganolfan Ymchwil i'r Celfyddydau, y Gwyddorau Cymdeithasol a'r Dyniaethau) a Rhydychen (Coleg Santes Catrin) eleni, a Chymrodoriaeth Ymchwil Ymddiriedolaeth Leverhulme yn 2017.

Wrth esbonio beth mae'n gobeithio ei ddatgelu, meddai Dr Sullivan: "Mae'r gweddïau hyn yn awgrymu pa gyflyrau meddwl yr oedd Shakespeare yn eu harchwilio, a sut gallai fod wedi disgwyl iddynt gael eu portreadu ar lwyfan. Drwy Private Prayer in Shakespeare’s Histories, rwy'n gobeithio gallu creu geirfa ynghylch creadigrwydd, o drafodaethau ar weddïau gosod a gweddïau a gafodd eu hysbrydoli."

Mae'r ysgolhaig o Gymru, a ddechreuodd ei gyrfa fel dadansoddwr bancio yn y ddinas, cyn cyfnod yn Affrica gyda chyrff anllywodraethol, yn darllen cannoedd o lyfrau gweddi preifat ar hyn o bryd, rhai wedi'u hargraffu a llawysgrifau, yn ei chais i ddarganfod testunau sy'n dangos sut roedd pobl fel Shakespeare yn gweddïo.

Bu farw Shakespeare ym 1616, ar y dyddiad a gaiff ei ystyried yn eang fel dyddiad ei ben-blwydd, 23 Ebrill.

Rhannu’r stori hon