Ewch i’r prif gynnwys

Eich llwybr at ennill gradd o Brifysgol Caerdydd

28 Gorffennaf 2021

Former Exploring the Past students pictured with Dr Paul Webster in 2019
Former Exploring the Past students pictured with Dr Paul Webster in 2019

Nid yw pawb yn barod i astudio gradd yn ddeunaw oed.  Weithiau mae digwyddiadau bywyd yn amharu ar bethau neu, yn syml, dyw’r amser ddim yn iawn.

Os ydych chi bellach yn teimlo'n barod i wireddu eich breuddwyd o astudio gradd yna gall ein hystod o Lwybrau eich helpu chi i gymryd y cam cyntaf hwnnw.

Bob blwyddyn rydym yn croesawu myfyrwyr sydd heb fod mewn addysg ffurfiol ers cryn amser yn dychwelyd i astudio Llwybr rhan-amser, sydd yna’n arwain at astudio gradd israddedig ym Mhrifysgol Caerdydd neu brifysgol arall. Byddwch yn derbyn cyngor a chefnogaeth gyda'ch cais ac, erbyn ichi gwblhau'r Llwybr, byddwch yn teimlo'n hollol barod i ddechrau eich gradd.

Trefnir cyrsiau llwybr gyda'r nos ac ar benwythnosau i gyd-fynd â'ch ymrwymiadau gwaith a theulu a bydd rhai cyrsiau'n cael eu cynnal ar-lein. Os yw talu am eich Llwybr yn achosi pryder i chi, efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid trwy Gyllid Myfyrwyr Cymru, a all helpu gyda ffioedd cwrs a chostau byw. Mae amrywiaeth o bynciau ar gael gan gynnwys:

  • Rheoli Busnes, Marchnata a Chyfrifeg
  • Saesneg Iaith, Llenyddiaeth Saesneg, Ysgrifennu Creadigol ac Athroniaeth
  • Gofal Iechyd
  • Hanes, Archaeoleg a Chrefydd
  • Ffarmacoleg Feddygol
  • Ieithoedd Modern
  • Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant
  • Cysylltiadau Rhyngwladol a Gwleidyddiaeth
  • Y Gwyddorau Cymdeithasol
  • Cyfieithu

Mae ein myfyrwyr yn aml yn rhoi gwybod i ni am eu llwyddiannau.  Gobeithio y byddan nhw'n eich ysbrydoli a'ch annog chi i ddychwelyd i'r ystafell ddosbarth hefyd:

“Roeddwn yn awyddus i astudio ffarmacoleg am gyfnod; fodd bynnag, ches i mo’r graddau Safon Uwch angenrheidiol i astudio yng Nghaerdydd. Ar ôl dod o hyd i'r cwrs Llwybr, roeddwn i'n gwybod mai dyma’r anogaeth roedd ei hangen arnaf i gael lle i astudio’r pwnc roeddwn am ei astudio, yn y brifysgol roeddwn eisiau mynd iddi.

“Roedd y cwrs, ynghyd â’r gefnogaeth a dderbyniwyd, yn llawer gwell nag oeddwn i’n disgwyl. Mae'r anogaeth gan y tiwtoriaid ynghyd â'r deunyddiau dysgu yn helpu i wella ein gwybodaeth ac i gredu ynoch chi'ch hun y gallwch symud ymlaen i astudio eich gradd."

Molly Hill - Llwybr at Ffarmacoleg Feddygol

“Roedd y llwybr wir wedi fy mharatoi i astudio’r radd rwy’n ei hastudio nawr ym Mhrifysgol Caerdydd. Y gwirionedd yw nad wyf erioed wedi bod yn hapusach. Rwyf wrth fy modd yn astudio ar gyfer fy ngradd, a byddaf ar fy lleoliad gwaith cyntaf fis nesaf.  Bod yn lasfyfyriwr yn 40 oed yw'r peth gorau i mi ei wneud erioed!

Debbie Reeves

Rwy’n hynod ddiolchgar i’r Llwybr am y cyngor, y gefnogaeth a’r anogaeth a gefais, ac wrth gwrs, i’r tîm bendigedig o diwtoriaid wnaeth ein paratoi ar gyfer yn hyn oedd i ddod ar y cwrs gradd! Mae’r Llwybr yn ysbrydoliaeth fawr i’r rheini sydd am fynd â’u haddysg ymhellach. Ni feddyliais erioed y gallwn gyflawni’r fath lwyddiant, tan imi ddatgelu fy mhotensial go iawn!

Graddiodd Simba Chabarika o Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth yn 2019.

Byddwn yn annog unrhyw un sy'n ymddiddori mewn Hanes, Archaeoleg neu Astudiaethau Crefyddol i wneud yr un peth â fi. Yn aml, yr hyn a glywaf yw "mae'n rhy hwyr i mi" neu "dwi’n methu ei fforddio," ond pan fyddaf yn dangos iddynt ba gyfleoedd sydd ar gael – yr un cyfleoedd a gefais i – bydd y dyhead yn troi'n fyw yn union yr un modd ag y gwnaeth i mi.

Graddiodd Ioan McCarthy yn 2019 ac mae Ioan bellach yn astudio MSc mewn Archeoleg ym Mhrifysgol Rhydychen

I gael mwy o wybodaeth, ewch i www.cardiff.ac.uk/cy/learn neu ebostiwch pathways@caerdydd.ac.uk

Rhannu’r stori hon