Ewch i’r prif gynnwys

Ysgoloriaeth newydd yn cefnogi myfyrwyr meddygol gradd ymsang

28 Gorffennaf 2021

Immunology

Mae gan fyfyrwyr meddygol sy’n cyflawni’n uchel yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd gyfle i gael cefnogaeth i astudio cymhwyster MSc mewn Imiwnoleg Glinigol Gymhwysol ac Arbrofol mewn blwyddyn ymsang.

Bydd Ysgoloriaeth yr Athro Bryan D Williams mewn Imiwnoleg Glinigol Gymhwysol ac Arbrofol ym Mhrifysgol Caerdydd yn cefnogi un myfyriwr meddygol y flwyddyn i astudio ar y rhaglen MSc hon sydd newydd ei chreu.

Bydd yr ysgoloriaeth flynyddol yn cefnogi'r myfyriwr meddygol disgleiriaf a gorau ym Mhrifysgol Caerdydd yn enw'r Athro Bryan Williams.

Bydd myfyrwyr sy'n dewis yr opsiwn hwn ar gyfer gradd ymsang yn manteisio ar raglen arloesol o addysgu blaengar a arweinir gan ymchwil, wedi'i gynllunio i ddarparu gwybodaeth a sgiliau trosglwyddadwy i arweinwyr clinigol ac ymchwil y dyfodol. Cyflwynir y cwricwlwm gan gyfadran addysgu a gydnabyddir yn rhyngwladol sy'n arbenigwyr ymchwil yn eu disgyblaeth.

Dywedodd Cyfarwyddwr Isadran Haint ac Imiwnedd yr Ysgol Meddygaeth, yr Athro Donald Fraser, 'Am y tro cyntaf erioed, cynigir yr MSc fel opsiwn astudio i'n myfyrwyr gradd ymsang yn yr Ysgol Meddygaeth. Mae Ysgoloriaeth yr Athro Bryan D Williams mewn Imiwnoleg Glinigol Gymhwysol ac Arbrofol ym Mhrifysgol Caerdydd yn gyfle aruthrol i roi cefnogaeth ariannol i fyfyriwr â chymhelliant i ddysgu Imiwnoleg ar lefel ôl-raddedig, trwy ymgolli yn y gymuned ymchwil o fewn yr Isadran Haint ac Imiwnedd. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at groesawu'r enillydd, ynghyd â'u cyfoedion sy'n astudio ar gyfer yr MSc ochr yn ochr â nhw, i'r isadran.'

Mae gan Gaerdydd raglen ymsang sydd wedi'i hen sefydlu, sy'n cynnig cyfle i fyfyrwyr meddygol o safon uchel sicrhau cymhwyster ychwanegol yn ystod eu hyfforddiant meddygol.

Trwy gynnig yr MSc hwn fel opsiwn gradd ymsang, mae Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd yn ehangu'r ystod o opsiynau sydd ar gael i fyfyrwyr meddygol, o gyrsiau lefel Baglor i gymhwyster lefel ôl-raddedig.

Cynlluniwyd yr MSc Imiwnoleg Glinigol Gymhwysol ac Arbrofol gydag amserlen sy'n darparu ar gyfer myfyrwyr meddygol gradd ymsang - er mwyn iddynt allu cwblhau'r MSc a dychwelyd at flwyddyn nesaf eu hastudiaethau.

Dywedodd Cyfarwyddwr y Rhaglen, yr Athro Anwen Williams, 'Rwy'n ddiolchgar i'r rhoddwyr ac i'r Athro Bryan Williams am gefnogi'r MSc. Byddwn yn torri tir newydd gyda'n dull o addysgu ein myfyrwyr meddygol. Byddwn hefyd yn galluogi myfyriwr meddygol gradd ymsang i astudio Imiwnoleg ar lefel Meistr, heb orfod poeni am ei ffioedd.'

I gael yr Ysgoloriaeth, rhaid i fyfyrwyr fod yn fyfyriwr meddygol israddedig cyfredol sy'n talu ffioedd yn y DU yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd a chael eu derbyn i'r MSc Imiwnoleg Glinigol Gymhwysol ac Arbrofol yn ystod blwyddyn astudio gradd ymsang.

Rhagor o wybodaeth am y rhaglen MSc Imiwnoleg Glinigol Gymhwysol ac Arbrofol.

I drafod y rhaglen neu'r broses ymgeisio, cysylltwch â'r Athro Anwen Williams.

Yr Athro Anwen Williams

Yr Athro Anwen Williams

Reader

Email
williamsas@caerdydd.ac.uk
Telephone
+44 (0)29 2074 4733

Rhannu’r stori hon