Mewnblaniadau cornbilen synthetig wedi’u datblygu i leddfu’r prinder mewn cornbilennau ar gyfer trawsblaniadau
27 Gorffennaf 2021
Mae ymchwilwyr wedi cyd-ddatblygu mewnblaniadau cornbilen hollol synthetig a fydd yn lleddfu’r prinder mewn cornbilennau a’r problemau cysylltiedig pan fydd y corff yn gwrthod trawsblaniadau cornbilen traddodiadol.
Ar hyn o bryd, mae 12.7 miliwn o unigolion sy’n dioddef o ddallineb cornbilennol ledled y byd yn aros am drawsblaniad cornbilen ddynol er mwyn cael eu golwg yn ôl, ond dim ond 1 ym mhob 70 o unigolion sy’n cael eu trin oherwydd prinder difrifol mewn cornbilennau yn y rhan fwyaf o wledydd. Bydd y mewnblaniadau newydd hyn yn ceisio lleddfu’r prinder hwn yn y feinwe a’r problemau cysylltiedig pan fydd y corff yn ei gwrthod.
Yn flaenorol, dangoswyd y gall atffurfio cornbilen fod yn ateb therapiwtig i drawsblannu cornbilen drwy ddefnyddio mewnblaniadau a wnaed o fioddeunyddiau sy'n annog y gornbilen ddynol i atffurfio. Fodd bynnag, gall llid amharu ar oroesiad hirdymor y mewnblaniadau hyn ac achosi iddynt fethu.
Yn yr astudiaeth hon, dyluniodd y tîm rhyngddisgyblaethol o wyddonwyr a chlinigwyr fewnblaniadau cornbilen o gydweddau colagen. Mae’r broses o gynhyrchu’r rhain yn symlach, ac mae modd cynhyrchu mwy ohonynt at ddefnydd clinigol.
Mae'r mewnblaniadau synthetig hefyd yn hawdd eu cynhyrchu am gost isel, yn gallu atal llid ac, mewn astudiaethau cyn-glinigol, yn galluogi’r feinwe i atffurfio yn y fan a’r lle. Mae hyn yn rhywbeth addawol i gleifion â chlefyd cornbilennol sy’n aros am drawsblaniad.
Mae datblygu cornbilen newydd a diogel yn golygu mewnbwn arbenigol o amrywiaeth eang o ddisgyblaethau ac fel sefydliad blaenllaw ar gyfer ymchwil i strwythur y gornbilen. Roedd y tîm yn cynnwys yr Athro Keith Meek a Dr Philip Lewis, a ddefnyddiodd dechnegau microsgopeg electronau i archwilio mân-strwythur y deunyddiau i’w mewnblannu.
Dywedodd yr Athro Meek, a arweiniodd dîm Caerdydd: "Gwnaethom ddangos sut mae celloedd o'r gornbilen letyol yn cyfathrebu â'i gilydd yn ein mewnblaniadau er mwyn dangos y dylid atffurfio’r gornbilen dryloyw yn hytrach na'r feinwe craith anhryloyw sy’n ffurfio fel arfer pan fydd y gornbilen wedi’i niweidio.”
Cyhoeddwyd yr astudiaeth yn Communications Biology ac mae ar gael i'w weld ar-lein.