Ewch i’r prif gynnwys

Graddedigion Prifysgol Caerdydd yn cystadlu yng Ngemau Olympaidd Tokyo 2020

23 Gorffennaf 2021

Tokyo 2020
Clockwise: Jake Heyward, Sarah Bettles, Josh Bugajski, Beccy Muzerie, Tom Barras, Mike Taylor, Rupert Shipperley, Natalie Powell

Graddedigion Prifysgol Caerdydd ymhlith y rhai sy’n cystadlu yng Ngemau Olympaidd Tokyo 2020

Flwyddyn yn ddiweddarach na'r disgwyl, mae Gemau Olympaidd Toyko yn dechrau gyda’r seremoni agoriadol heddiw. Bydd digwyddiadau tan ddydd Sul 8 Awst 2021, a chynhelir y Gemau Paralympaidd o ddydd Mawrth 24 Awst hyd at ddydd Sul 5 Medi.

Dywedodd Claire Morgan, Rhag Is-Ganghellor Addysg a Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd: "Hoffwn ddymuno pob lwc i bob un o raddedigion Prifysgol Caerdydd dros yr wythnosau nesaf. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at wylio ein hathletwyr yn cystadlu ac rwy'n gwybod y bydd holl gymuned y Brifysgol yn eu cefnogi ac yn dathlu eu cyflawniadau."

Ein Hathletwyr yn Nhîm Prydain Fawr:

Jake Heyward (BSc 2021), Athletau, 1500m y Dynion

Ac yntau newydd raddio o Ysgol Busnes Caerdydd, mae Jake wedi treulio'r ddwy flynedd ddiwethaf yn astudio o bell yn Unol Daleithiau America tra’n hyfforddi gyda’r medalydd Olympaidd Mark Rowland.

Jake yw’r unig Gymro yn nhîm athletau Tîm Prydain Fawr. Torrodd y record Cymreig ar gyfer 1500m, oedd wedi bodoli ers 31 mlynedd, drwy redeg 3.33.99 yn y rhagbrofion ar gyfer y Gemau Olympaidd. Yn ogystal â'r calendr athletaidd cyfyngedig oherwydd y pandemig, mae Jake hefyd wedi goresgyn anafiadau yn ystod yr ychydig dymhorau diwethaf, ac mae hyn yn golygu bod y cyfleoedd i rasio wedi bod yn gyfyngedig, ac o ystyried hyn oll mae cyrraedd y Gemau Olympaidd yn fwy byth o gamp hyd yn oed.

Gallwch chi weld Jake pan fydd yn cystadlu yn Rownd 1 ddydd Mawrth 3 Awst, 09:05 (JST) / 01:05 (BST)

Mike Taylor (BSc 2019), Triathlon – PTS4 y Dynion

Wedi'i eni a'i fagu yn Barnstaple, gogledd Dyfnaint, roedd Michael yn aml yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon, gan gynnwys polo dŵr, rygbi a nofio. Bu hefyd yn achubwr bywyd traeth i'r RNLI cyn dod i Brifysgol Caerdydd i astudio ffisiotherapi.

Yn ystod Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Rio 2016, roedd coes Mike newydd gael ei thorri i ffwrdd ac roedd yn meddwl am yr hyn a fyddai’n digwydd nesaf yn ei fywyd. Yn dilyn sesiwn rhoi cynnig arni gan Triathlon Prydain, ymunodd â Chanolfan Perfformiad Triathlon Genedlaethol Cymru a dechreuodd pobl sylwi ar nifer o’i ganlyniadau.

Bydd Mike yn cystadlu yn ei Gemau Paralympaidd cyntaf ar ôl sicrhau dwy fedal arian yng Nghyfres Para Triathlon y Byd yn Yokohama a Leeds a rhain oedd ei fedalau rhyngwladol cyntaf ar y lefel hon.

Ar ôl graddio o Gaerdydd gyda BSc mewn ffisiotherapi mae wedi mynd yn ei flaen i astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Caerfaddon.

Mae Mike yn cystadlu yn y Gemau Paralympaidd am y tro cyntaf ddydd Sadwrn 28 Awst, 06:30 - 11:00 (JST) / 22:30 - 03:00 (BST).

Natalie Powell (BSc 2015), Jiwdo - 78kg y Menywod

Graddiodd Natalie o Ysgol Biowyddorau Caerdydd yn 2015 gyda gradd mewn Gwyddorau Biofeddygol. Dyma ei hail Gemau Olympaidd, ar ôl gorffen yn seithfed pan gymerodd hi ran am y tro cyntaf yn Rio. Mae Natalie yn bencampwraig y Gymanwlad, mae hi wedi ennill medal efydd pencampwriaethau Ewrop dair gwaith, medal efydd y Byd unwaith ac mae hi’n bumed ymhlith y detholion cyn i’r Gemau ddechrau.

Yn 2017 hi oedd y jiwdoca benywaidd cyntaf o Brydain i fod yn rhif un yn y byd, a gwnaeth hyn drwy ennill medal aur ym Mhencampwriaeth Jiwdo Abu Dhabi.

Enillodd y fedal efydd ym mhencampwriaeth Meistri’r Byd 2018 yn Guangzhou ac mae ganddi fwy na 30 o fedalau Cwpan y Byd.

Mae Natalie yn cystadlu am y tro cyntaf yn Rownd y 16 Cystadleuydd ddydd Iau 29 Gorffennaf o 11:00 (JST) / 03:00 (BST)

Beccy Muzerie (née Girling) (BSc 2012, MA 2015) – Timau Wyth y Menywod

Mae Beccy Muzerie (née Girling) yn gynfyfyriwr ddwywaith yn sgîl ei BSc mewn Seicoleg a’i MA mewn Gwaith Cymdeithasol, a dechreuodd rwyfo pan oedd yn fyfyriwr. Gofynnwyd iddi yn Ffair y Glas a fyddai ganddi ddiddordeb mewn rhwyfo gan fod ganddi'r cyfansoddiad cywir, ond ei hymateb cyntaf oedd digio a cherdded i ffwrdd! Serch hynny, mae'n rhaid bod rhywbeth wedi taro tant, gan mai dim ond pedair blynedd yn ddiweddarach roedd yn cynrychioli Prydain Fawr ym Mhencampwriaethau Prifysgolion y Byd, gan orffen yn bedwerydd yng nghystadleuaeth y cwch rasio dwbl i fenywod.

Yn 2017 cynrychiolodd Brydain Fawr ar y lefel fyd-eang am y tro cyntaf fel un hanner yng nghwch dwyrwyf y menywod, gan orffen yn chweched yng Nghwpan Rhwyfo’r Byd yn Poznan. Ers hynny mae wedi cynrychioli Prydain Fawr ym Mhencampwriaethau'r Byd ac Ewrop.

Bydd Becky yn cystadlu am y tro cyntaf yn y Gemau Olympaidd yn Ras Ragbrofol 1 ddydd Sadwrn 24 Gorffennaf, 12:20 (JST) / 04:20 (BST).

Tom Barras (BSc 2015), Rhwyfo – Cychod Rasio Pedwar y Dynion

Dechreuodd Tom rwyfo yn 11 oed a pharhaodd ei angerdd drwy ymuno â thîm y Brifysgol pan ddaeth i astudio Ffisiotherapi yn 2011. Pan oedd yng Nghaerdydd cynrychiolodd dîm Prydain Fawr ym Mhencampwriaethau Iau Rhwyfo'r Byd 2012 yn Plovdiv, gan orffen yn y 12fed safle.

Yn y garfan o dan 23, bu'n rasio dros Brydain Fawr ym Mhencampwriaethau'r Byd yn 2014, 2015 a 2016 – a chipiodd y pumed safle yn Rotterdam yn 2016. Enillodd Tom fedal efydd ym Mhencampwriaethau Rhwyfo'r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014 yn y cwch rasio dwbl, ac enillodd ras cychod rasio un rhwyfwr BUCS (British University & College Sports) yn 2015.

Bydd Tom yn ymddangos yn y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf yn Ras Ragbrofol 1 ddydd Gwener 23 Gorffennaf, 11:30 (JST) / 03:30 (BST).

Rupert Shipperley (BSc 2014), Hoci

Pan oedd yn astudio Daearyddiaeth Ddynol a Chynllunio, bu Rupert yn chwarae dros glwb Hoci'r Brifysgol, heb golli’r un gêm Gornest y Prifysgolion yn erbyn Abertawe.

Ar ôl graddio aeth yn athro daearyddiaeth, ac yn 2014 cafodd ei ddewis i chwarae dros Gymru. 70 o gapiau yn ddiweddarach, rhoddodd y gorau i fyd addysg yn 2019 i ddilyn ei freuddwydion hoci. Chwaraeodd dros dîm Prydain Fawr am y tro cyntaf yn gynnar yn 2020 a chafodd ddechrau hynod addawol drwy sgorio yn erbyn Awstralia ar ddechrau Cynghrair Hockey Pro y Ffederasiwn Hoci Ryngwladol (FIH) yn 2020.

Bellach yn 28 oed, mae Rupert wedi sicrhau bod Cymru’n cael ei chynrychioli yng ngharfan hoci Olympaidd i ddynion Prydain Fawr am y tro cyntaf ers Sydney 2000.

Gallwch chi weld Rupert yn cystadlu yn y gemau isod:

Grŵp B – v De Affrica – ddydd Sadwrn 24 Gorffennaf, 18:30 (JST) / 10:30 (BST)

Grŵp B – v Canada - ddydd Llun 26 Gorffennaf, 11:45 (JST) / 03:45 (BST)

Grŵp B – v Yr Almaen – ddydd Mawrth 27 Gorffennaf, 12:15 (JST) / 04:15 (BST)

Grŵp B – v Yr Iseldiroedd – ddydd Iau 29 Gorffennaf, 12:15 (JST) / 04:15 (BST)

Grŵp B – v Gwlad Belg – ddydd Gwener 30 Gorffennaf, 21:15 (JST) / 13:15 (BST)

Josh Bugajski (MPharm 2013), Rhwyfo – Wyth y Dynion

Yn 2010, y diwrnod ar ôl ei ben-blwydd yn 20 oed, cymerodd Josh ran mewn prawf ffitrwydd ar y peiriant rhwyfo yn y Brifysgol. Wrth natur yn ddyn cydnerth a chryf, gwnaeth ei ganlyniad argraff ar yr hyfforddwyr, ac yn fuan iawn cafodd ei ddewis i fod yn aelod o raglen rwyfo Cymru.

Ar ôl graddio yn 2013, aeth Josh yn ei flaen i astudio gradd meistr yn Rhydychen a chafodd ei ddewis i griw wrth gefn Rhydychen ar gyfer Ras Gychod 2015. Enillodd y ras honno, cyn cael ei ddyrchafu i'r Cwch Glas yn 2016 a 2017 – gan flasu buddugoliaeth yn ei ail ras.

Ymddangosodd Josh am y tro cyntaf dros dîm Prydain Fawr yng Nghwpan y Byd cyntaf tymor 2018, gan ennill medal arian yng nghystadleuaeth wyth y dynion yn ei ras gyntaf, cyn mynd yn ei flaen i gystadlu yn y cwch rasio dwbl yng Nghwpan y Byd II. Yn 2019, enillodd y fedal arian fel rhan o wyth y dynion ym Mhencampwriaethau Ewrop yn Lucerne a Chwpan y Byd II yn Poznan, Gwlad Pwyl. Yn 2021, enillodd y fedal aur yng nghystadleuaeth yr wyth yn Varese, yr Eidal ym Mhencampwriaethau Ewrop.

Sarah Bettles (MEng 2015) Saethyddiaeth

Graddiodd Sarah gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn ei meistr mewn Peirianneg yn 2015. A hithau’n cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf, hi yw un o’r chwe saethwr sy'n cynrychioli Tîm Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd Tokyo.

Ar ôl ennill medal aur fel rhan o Dîm Prydain Fawr yng nghystadleuaeth bwa adwyro’r menywod yng Ngemau Ewrop ym Melarws yn 2019, roedd Sarah hefyd yn rhan o'r tîm a enillodd y fedal efydd ym Mhencampwriaethau'r Byd yn yr Iseldiroedd yn gynharach y flwyddyn honno.

Bydd Sarah yn cystadlu am y tro cyntaf yn Rowndiau Dileu’r Timau Cymysg yn erbyn Tsieina ddydd Sadwrn 24 Gorffennaf, 09.49 (JST) / 01.49 (BST).

  • Dilynwch @CardiffUniSport i gael y newyddion diweddaraf gan ein hathletwyr ar Twitter.

Rhannu’r stori hon

Cymerwch ran mewn chwaraeon elît a hamdden ochr yn ochr â’ch astudiaethau, gyda thros 60 o glybiau a phedair canolfan chwaraeon ymroddedig ar y campws.