Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd yn cael cyllid sylweddol i ymchwilio i COVID hir

19 Gorffennaf 2021

Mae Prifysgol Caerdydd wedi cael cyllid gwerth bron i £2 miliwn i wneud ymchwil i ddwy agwedd hanfodol ar COVID hir.

Bydd ymchwilwyr yn edrych ar rôl y system imiwnedd o ran clefydau tymor hir, a bydd astudiaeth ar wahân yn canolbwyntio ar adsefydlu unigolion â COVID hir.

Mae'r prosiectau ymhlith 15 yn y DU sydd wedi cael cyllid gwerth bron i £20 miliwn i gyd gan y Sefydliad Ymchwil Iechyd Cenedlaethol (NIHR) i helpu i fynd i'r afael â COVID hir, y mae ei symptomau’n hirhoedlog ac yn amrywio ac yn cynnwys blinder, diffyg anadl, poen yn y frest, ‘meddwl pŵl’ a phoen yn y cyhyrau.

Nid ydym yn gwybod llawer amdano eto, ac nid yw maint y broblem yn hysbys, ond mae'r amcangyfrifon diweddaraf yn awgrymu bod bron i filiwn o bobl yn byw gyda'r cyflwr yn y DU.

Dyfarnwyd mwy na £1 miliwn i ymchwilwyr Caerdydd i ddyfeisio rhaglen hunanreoli wedi’i phersonoli ar gyfer unigolion â COVID hir. Mae'r prosiect, o'r enw LISTEN, yn cael ei arwain ar y cyd gan yr Athro Monica Busse yng Nghanolfan Ymchwil Treialon Prifysgol Caerdydd a'r Athro Fiona Jones, arbenigwraig mewn ymchwil adsefydlu ym mhrifysgol St George’s a Phrifysgol Kingston yn Llundain, mewn partneriaeth â’r fenter gymdeithasol Bridges Self-Management.

Bydd y prosiect yn para dwy flynedd, a'i nod yw llunio rhaglen hunanreoli wedi’i phersonoli, gan gynnwys llyfr, adnoddau digidol a phecyn hyfforddi newydd ar gyfer ymarferwyr adsefydlu. Bydd y rhaglen newydd yn cael ei phrofi mewn treial a fydd yn recriwtio unigolion â COVID hir o bob rhan o Gymru, Llundain a dwyrain Lloegr.

“Bydd ein prosiect yn canolbwyntio ar lywio bywyd ar ôl COVID hir pan fo’r gwahanol broblemau a’r ansicrwydd ynghylch sut i reoli’r cyflwr yn creu anawsterau go iawn ar gyfer yr unigolion hynny yr effeithir arnyn nhw,” meddai’r Athro Busse, Cyfarwyddwr Treialon y Meddwl, yr Ymennydd a Niwrowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd.

“Rydyn ni’n gobeithio y bydd ein gwaith yn arwain at fodelau gofal newydd a fydd ar gael yn y GIG er budd y rheiny sy’n byw gyda COVID hir ledled y DU.”

Nod yr ail astudiaeth, dan arweiniad yr Athro David Price o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd, yw gwneud ymchwil i weld a allai ymateb imiwnedd gorweithgar neu gamweithredol arwain at glefydau hirhoedlog drwy achosi llid sy’n lledu drwy’r corff.

Gobaith yr ymchwilwyr yw datblygu profion a thriniaethau newydd drwy asesu sut mae'r system imiwnedd yn gweithio – ac am faint mae'r feirws achosol yn parhau – yn achos pobl â COVID hir.

Dywedodd yr NIHR y byddai'r 15 astudiaeth yn elwa ar brofiad, safbwyntiau a barn cleifion a gweithwyr gofal iechyd i ymchwilio i driniaethau, gwasanaethau a diagnosteg ar gyfer COVID hir.

Bydd y prosiectau yn helpu i nodi’r hyn sy’n achosi COVID hir, gwerthuso effeithiolrwydd y gwasanaethau gofal gwahanol, yn ogystal â nodi ymyriadau effeithiol – megis cyffuriau a ffyrdd o adsefydlu a gwella – i drin pobl sy'n dioddef o symptomau cronig a'u helpu i ailgydio yn eu bywydau bob dydd.

Dywedodd yr Athro Nick Lemoine, Cadeirydd Pwyllgor Cyllido COVID hir a Chyfarwyddwr Meddygol Rhwydwaith Ymchwil Glinigol (CRN) yr NIHR: “Bydd y pecyn ymchwil hwn yn rhoi gobaith mawr ei angen i bobl â phroblemau iechyd tymor hir ar ôl COVID-19, gan gyflymu’r gwaith o ddatblygu ffyrdd newydd o ddiagnosio a thrin COVID hir, yn ogystal â ffyrdd o gynllunio gwasanaethau gofal iechyd i roi'r gofal gorau posibl.

Bydd yr astudiaeth adsefydlu’n gweithio'n agos gyda Chanolfan Dystiolaeth COVID-19 Cymru a Chanolfan PRIME Cymru, ynghyd â Phrifysgol Lincoln, Coleg y Brenin, Llundain, Prifysgol Abertawe a Diversity and Ability, sef menter gymdeithasol dan arweiniad pobl anabl sy'n cefnogi sefydliadau a phrosiectau cyfiawnder cymdeithasol i greu diwylliannau cynhwysol.

Rhannu’r stori hon