Ewch i’r prif gynnwys

“Dylid ystyried HS2 fel prosiect ar gyfer Lloegr yn unig”: ASau yn dyfynnu tystiolaeth Canolfan Llywodraethiant Cymru

14 Gorffennaf 2021

Dylid dynodi prosiect reilffordd HS2 fel prosiect Lloegr-yn-unig er mwyn i Gymru allu derbyn mwy o gyllid trafnidiaeth, yn ôl Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan.

Mewn adroddiad newydd ar seilwaith y rheilffyrdd yng Nghymru, cefnogodd ASau alwadau gan ymchwilwyr o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd i ail-ddynodi’r prosiect reilffordd o bwys fel prosiect ar gyfer Lloegr yn unig er mwyn sicrhau bod mwy o arian yn dod i Gymru drwy’r fformiwla Barnett.

Gan fod HS2 yn cael ei hystyried fel prosiect 'Cymru a Lloegr' gan y Trysorlys ar hyn o bryd, nid yw Cymru'n derbyn arian ychwanegol o ganlyniad i wariant ar y prosiect yn Lloegr. Mae hyn yn groes i’r sefyllfa yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Fodd bynnag, ni wnaeth y pwyllgor gefnogi galwadau i ddatganoli seilwaith y rheilffyrdd i Gymru yn yr un modd â’r Alban, gan ddadlau y byddai cymhlethdodau a chostau cynnal a chadw yn drech na'r adnoddau ariannol ychwanegol fyddai’n llifo i Gymru drwy Fformiwla Barnett o dan system gwbl ddatganoledig.

Mae tystiolaeth gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru, a ddyfynnir yn helaeth yn adroddiad y pwyllgor, yn dangos y gallai Cymru, o dan system gwbl ddatganoledig, fod wedi derbyn buddsoddiad ychwanegol o £514m yn seilwaith y rheilffyrdd rhwng 2011-12 a 2019-20.

Dywedodd Guto Ifan:

"Mae’r gydnabyddiaeth bod y ffordd y caiff HS2 ei drin gan y Trysorlys yn cosbi cyllideb Cymru i’w groesawu. Byddai dynodi HS2 fel prosiect Lloegr-yn-unig yn arwain at gyllid ychwanegol dros y blynyddoedd i ddod.

"Ond ni ddylid ystyried HS2 ar wahân i’r achos ehangach o blaid datganoli’r rheilffyrdd. Un mater allweddol arall yw bod pwerau dros Network Rail wedi eu neilltuo i San Steffan ond eto fod y corff yn cael ei gynnwys yng nghyfrifiadau fformiwla Barnett dros y blynyddoedd nesaf. Dim ond lleihau'r cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru i’w wario ar agweddau o drafnidiaeth sydd wedi eu datganoli ac ychwanegu at wariant ar seilwaith y rheilffyrdd a wna hyn.

"Mae’n ymddangos fel mai dim ond datganoli seilwaith y rheilffyrdd yn llawn a fyddai’n creu ffynhonnell ragweladwy o gyllid i'w fuddsoddi yn rhwydwaith rheilffyrdd Cymru. Dylid ystyried y dadleuon ynghylch cymhlethdodau fel heriau ac, o gwrdd â’r heriau hyn, gallai Cymru elwa o lawer mwy o gyllid dros y pum mlynedd nesaf."

Rhannu’r stori hon