Ewch i’r prif gynnwys

Y Ddinas yn 2040: Ailfeddwl Canol y Ddinas

13 Gorffennaf 2021

The City in 2040: Rethinking the City Centre
The City in 2040: Rethinking the City Centre

Mae Ysgol Pensaernïaeth Cymru a'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio yn cynnal cyfres o weminarau i archwilio sut y gallai lleoedd trefol fod wedi newid erbyn 2040.

Ein nod yw cynyddu disgwyliadau academyddion ac ymarferwyr wrth feddwl am heriau a chyfleoedd y dyfodol. Bydd tri chyflwyniad byr yna trafodaeth banel a chynulleidfa.

Bydd y weminar gyntaf, a gynhelir ar 15 Gorffennaf 2 pm-3.15pm yn cynnwys tri chyflwyniad byr yna trafodaeth banel a chynulleidfa. Ymhlith y cyflwyniadau mae:

  • 'Canol Dinas Fywiog yn 2040', Judith Everett, Cyfarwyddwr Gweithredol Pwrpas, Cynaliadwyedd a Rhanddeiliaid, Ystad y Goron
  • 'Ail-ddychmygu canol y ddinas' Lev Kushner, Partner Sefydlu, Department of Here
  • 'Gwneud i Ganol Dinas y Dyfodol Weithio i Bawb' Dr Mhairi McVicar, Arweinydd Prosiect Porth Cymunedol, Prifysgol Caerdydd

Cadeirir y digwyddiad gan yr Athro Peter Madden, OBE, o'r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, Prifysgol Caerdydd, a bydd Dr Juliet Davis, pensaer ac ysgolhaig trefol o Ysgol Pensaernïaeth Cymru hefyd yn ymuno ag ef.

Yn y digwyddiad byddwn yn trin a thrafod: Sut le fydd y swyddfa yn 2040? Beth fydd hyn yn ei olygu i'r CBD a'i ficro-economi? Beth mae hynny’n ei olygu am y daith i’r gwaith? A fydd canol y ddinas yn cynnwys cymunedau cymysg newydd? Os felly, pwy fydd yn eu llywio a sut bydd dinasyddion yn ymgysylltu? Yng ngoleuni hyn, sut beth fydd strategaeth ganol dinas a ddiogelir yn y dyfodol?

Y ddau ddigwyddiad arall yn y gyfres hon yw:

‘Y Ddinas yn 2040: Llywodraethu Dinas y Dyfodol', 16 Medi 2021
‘Y Ddinas yn 2040: Bwydo Dinas y Dyfodol', 30 Medi 2021

I fynychu'r digwyddiad cyntaf ar 15 Gorffennaf, cofrestrwch trwy Zoom:

Cofrestrwch nawr

Rhannu’r stori hon