Ewch i’r prif gynnwys

Mae morwyr yn cael cefnogaeth anhepgor gan gaplaniaid porthladdoedd, yn ôl canfyddiadau ymchwil

9 Gorffennaf 2021

Photograph by Helen Sampson

Mae morwyr o wahanol gredoau, a dim ffydd o gwbl, yn dibynnu ar gefnogaeth caplaniaid porthladdoedd i ymdopi â'r hyn sydd yn aml yn waith peryglus mewn gweithleoedd sefydliadol peryglus, yn ôl ymchwil gan Brifysgol Caerdydd.

Ar fwrdd y llong, bydd credoau ac agweddau crefyddol yn rhai preifat ond datgelodd morwyr i'r tîm y ffyrdd y mae llawer sydd â ffydd yn llunio eu set eu hunain o gredoau crefyddol er mwyn ymdopi'n well â’r amodau byw a gweithio.

Ymchwiliodd yr astudiaeth, dan arweiniad Canolfan Ymchwil Ryngwladol y Morwyr (SIRC) ac a ariannwyd gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC), i gredoau a lles morwyr ar fwrdd dau long nwyddau sy'n cludo criwiau rhyngwladol.

Ar ben hynny, treuliodd yr ymchwilwyr 6 mis mewn dau borthladd yn y DU yn astudio gwaith caplaniaid y porthladdoedd, y staff sy’n derbyn tâl a’r gwirfoddolwyr sy’n rhoi gwasanaethau lles i forwyr o bob ffydd mewn canolfannau pwrpasol ar gyfer morwyr. Gwrandawon nhw ar y gorchestion rhyfeddol y mae pobl sy'n rhoi'r gwasanaethau hyn yn eu cyflawni er mwyn cefnogi morwyr er gwaethaf diffygion mewn cyllid. Disgrifiodd llawer o gaplaniaid eu bod yn treulio hanner eu hamser yn codi arian er mwyn gallu rhoi gwasanaethau mewn ffordd effeithiol.

Esboniodd yr Athro Helen Sampson, Cyfarwyddwraig Canolfan Ymchwil Ryngwladol y Morwyr (SIRC) ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae morio yn alwedigaeth hynod beryglus a darganfuon ni fod gan forwyr brofiad o deimlo ofn mawr ar fwrdd llong ar ryw adeg yn ystod eu gyrfa. Pan roedden nhw’n teimlo'n arbennig o ddiobaith, roedd llawer wedi troi at eu duwiau am gymorth.

“Ar yr un pryd, roedd llawer yn teimlo eu bod yn cael eu rhyddhau mewn rhyw ffordd rhag dilyn rhai o’r arferion a fyddai’n arwydd o dduwioldeb gartref. Roedden nhw’n caniatáu peth rhyddid iddyn nhw eu hunain gan eu bod o’r farn y byddai eu duw yn ei ddeall ac yn ei faddau oherwydd eu bod, wedi'r cyfan, ar fwrdd llong ac yn aberthu llawer iawn i wneud bywoliaeth ariannol ar gyfer eu teuluoedd.”

Ychwanegodd: “Mae ein hymchwil hefyd yn dangos y rôl bwysig sydd gan gaplaniaid porthladdoedd a phobl eraill wrth gynnig cymorth lles mewn canolfannau i forwyr. Mae’r gwaith hwn yn hynod o bwysig ac yn arbennig felly wrth i forwyr barhau i ddelio â'r pryderon a'r ansicrwydd ychwanegol yn sgîl y pandemig.”

Disgrifir canfyddiadau'r ymchwil yn fyw mewn ffilm newydd sy'n taflu goleuni ar y ffordd mae morwyr yn mynegi ac yn tynnu ar eu ffydd ac ar gefnogaeth caplaniaid porthladdoedd wrth ymdopi â'r straen yn sgîl bod oddi cartref am fisoedd ar y tro, a hynny ymhell i ffwrdd o’u cymunedau a'u rhwydweithiau.

Yn fyd-eang, amcangyfrifir bod y diwydiant llongau yn cyflogi 1.6 miliwn o forwyr. Mae llawer yn cael eu cyflogi ar gontractau ansicr sy'n ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw fod oddi cartref am hyd at 12 mis ar y tro.

[Rhowch y ffilm yma ar wefan Prifysgol Caerdydd]

Mae'r ffilm yn cynnwys myfyrdodau'r tîm ymchwil yn ogystal â barn rhanddeiliaid allweddol.

Dyma a ddywedodd Andrew Linington, Uwch Gynghorydd Polisi yn Nautilus International UK, a gafodd ei gyfweld ar gyfer y ffilm: “Mae'r ymchwil hon yn hynod o bwysig gan ei bod yn ymddangos ar adeg dyngedfennol yn hanes lles morwyr.

“Yn ystod yr ychydig o flynyddoedd diwethaf, mae llawer mwy o ymwybyddiaeth wedi bod ynghylch anghenion seicolegol wrth i’r diwydiant newid yn ddirfawr a chymhlethdod yr anghenion hefyd yn sgîl hyn.

“Os byddwn ni’n manteisio ar y newidiadau hynny, yn pwysleisio’r angen am ailstrwythuro gwasanaethau ac yn ailwerthuso’r hyn y mae ei angen ar forwyr drwy ofyn cwestiynau i’r morwyr eu hunain, yna bydd gennym y seiliau ar gyfer yr hyn a allai fod yn newid enfawr o ran lles morwyr.”

Tîm rhyngddisgyblaethol o ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol Chichester, a Phrifysgol Brandeis yn UDA a oedd wedi ymgymryd â’r prosiect. Cyhoeddwyd nifer o bapurau yn sgîl yr astudiaeth ac mae rhagor ar y gweill. Ymhlith y rhain y mae: ·

Sefydlwyd SIRC ym 1995 er mwyn ymchwilio i forwyr. Mae gan y Ganolfan bwyslais penodol ar les morwyr a materion iechyd a diogelwch galwedigaethol. Dyma'r unig gyfleuster ymchwil rhyngwladol o'i fath ac mae ganddo brofiad digyffelyb o ymchwil yn y maes

Rhannu’r stori hon