Ewch i’r prif gynnwys

Prifysgol Caerdydd yn dal i fod yn ddarparwr addysg gofal iechyd blaenllaw yng Nghymru

9 Gorffennaf 2021

Mae canlyniadau tendr comisiynu diweddaraf Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) yn ailgadarnhau statws Prifysgol Caerdydd fel y prif ddarparwr addysg gofal iechyd cyn-gofrestru yng Nghymru.

Mae Prifysgol Caerdydd wedi ennill contractau gan AaGIC i ddarparu addysg gofal iechyd cyn-gofrestru ar draws nifer o ddisgyblaethau am hyd at ddeng mlynedd.

Mae’r canlyniad llwyddiannus yn golygu y bydd Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Caerdydd, yn parhau i addysgu a hyfforddi myfyrwyr ym meysydd Nyrsio Oedolion, Nyrsio Iechyd Meddwl, Nyrsio Plant, Bydwreigiaeth, Ffisiotherapi, Therapi Galwedigaethol, Radiograffeg Ddiagnostig a Delweddu a Radiotherapi ac Oncoleg.

Bydd y contractau a ddyfarnwyd yn galluogi Prifysgol Caerdydd i barhau ei chysylltiadau gwaith gwerthfawr â’i phartneriaid ledled Cymru, gan gynnwys Byrddau Iechyd Caerdydd a’r Fro ac Aneurin Bevan a Chanolfan Ganser Felindre.

Dywedodd yr Athro David Whitaker, Pennaeth Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd:

“Mae'r canlyniadau gwych yn adlewyrchu gwaith caled ac ymroddiad ein hacademyddion a’n staff proffesiynol. Rydym yn hynod falch o’r myfyrwyr sy’n dod trwy ein drysau, ac mae'n anrhydedd gallu eu helpu ar eu taith i ddod yn weithwyr iechyd proffesiynol. Rydym hefyd yn falch o’r cysylltiadau sydd gennym â’n partneriaid, a byddwn yn parhau i gydweithio i sicrhau ein bod yn darparu’r addysg a’r hyfforddiant gorau ac yn parhau i ddiwallu anghenion y GIG a’i gleifion.”  

Cafodd canlyniadau’r tendr eu cyhoeddi ddydd Llun, 28 Mehefin 2021, ac mae’r cyfnod segur a ddilynodd o ddeg diwrnod yn dod i ben heddiw. Bydd contractau’n cael eu cyhoeddi’n ffurfiol yn barod ar gyfer dechrau addysgu ym mis Medi 2022.

Mae AaGIC yn awdurdod iechyd arbennig sy’n rhan o’r GIG yng Nghymru. Mae'n eistedd ochr yn ochr â byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd ac yn chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o addysgu, hyfforddi, datblygu a llywio’r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru.

Rhannu’r stori hon