Ewch i’r prif gynnwys

Ysgol yn dathlu prosiectau peirianneg ysbrydoledig

13 Gorffennaf 2021

Inspired Engineers Award

Mae chwe phrosiect peirianneg arloesol, gan gynnwys cladin gwrth-dân hunan-weithredol a blwch offer digidol, ymhlith yr enillwyr yng Ngwobr Peirianwyr Ysbrydoledig 2021.

Mae'r Wobr Peirianwyr Ysbrydoledig yn annog meddwl entrepreneuraidd a masnachol ymysg myfyrwyr peirianneg, gan ddathlu myfyrwyr y mae eu prosiectau'n datrys problem yn y byd go iawn neu sy’n dangos parodrwydd technolegol a chydweithrediad â diwydiant.

Mae'r Wobr yn cael ei chynnig gan Dîm Menter a Dechrau Busnes y Brifysgol, gyda chefnogaeth nawdd y Gymrodoriaeth Peirianwyr mewn Busnes. Mae staff academaidd o'r Ysgol Peirianneg hefyd yn bartneriaid yn y wobr hon.

Mae 6 gwobr o £500, dwy ar gyfer pob un o’r adrannau yn yr Ysgol Peirianneg.

Peirianneg Bensaernïol, Peirianneg Sifil a Pheirianneg Sifil ac Amgylcheddol

Ymchwiliodd Stephanie Muller i effaith dwy set unfath o dyrbinau echelin-fertigol ar hydrodynameg wêc a symudiad pysgod gan ddefnyddio arbrofion labordy. Mae tyrbinau echelin-fertigol hydrocinetig yn harneisio ynni o afonydd ac aberoedd sy'n llifo'n rhydd, gan gynnig dewis ynni dŵr amgen ar raddfa fach sy'n fwy ecogyfeillgar na pheirianwaith ynni dŵr mawr traddodiadol.

Datblygodd Jack Willepotte gysyniad cladin gwrth-dân hunan-weithredol gan ddefnyddio dŵr glaw wedi'i storio fel dull atal tân i'w ddefnyddio ar adeiladau mawr, uchel. Ymgorfforodd y prosiect system bibellau mewn cladin adeiladau hawdd-ei-osod, anllosgadwy, i ddarparu datrysiad i'r problemau cyfredol o ran tanau mewn adeiladau uchel.

Peirianneg Fecanyddol a Meddygol

Datblygodd tîm yn cynnwys Max Durow, Nathan Sturges, Joseph Sealey, Samuel Lewis, Charlie Ringrose, Azibataram Orubo ac Arrmeila Jeyanatha y cysyniad ap Plant Pal i fesur iechyd planhigion mewn amser real tra ar yr un pryd yn helpu i wella lles meddyliol y defnyddiwr trwy awgrymu gweithgareddau ffordd iach o fyw, fel yfed dŵr.

Creodd tîm yn cynnwys Jasper Gaskin, Jesus Lancianese, Ellin Anegkana, Chris Mark a Benjamin Thornley y Dyno Bag, sy'n galluogi bwyd i gael ei wresogi yn y tymor hir wrth gael ei gludo ar feic. Ar hyn o bryd, mae 80% o asiantau Deliveroo yn defnyddio beic, ac mae 36% o gwsmeriaid yn cwyno bod eu bwyd yn cyrraedd yn oer neu ddim yn ffres. Mae'r Dyno Bag yn cynnig datrysiad gwresogi adnewyddadwy ar gyfer bagiau dosbarthu trwy bâr o ddynamos a batri.

Peirianneg Drydanol, Electronig ac Integredig

Roedd tîm yn cynnwys Peter Marji, Rory Stuart, Ioannis Efthymiou, Daniel Ellis, Ahmed Kamal ac Ahmed Yacob yn rhan o brosiect cydweithredol rhwng Prifysgol Caerdydd ac Arolwg Antarctig Prydain. Nododd y prosiect atebion posibl ar gyfer datgarboneiddio cynhyrchiant ynni a thrafnidiaeth yn nhiriogaethau Antarctig y DU. Roedd hyn yn cynnwys trosglwyddo i ficrogridiau annibynnol net-sero sy'n defnyddio hyd at 90% o ffynonellau adnewyddadwy wrth gynnal diogelwch y cyflenwad. Dyluniwyd y microgrid i gynnwys batris NMC, tyrbinau gwynt mewn cewyll wedi'u gorchuddio a thechnolegau ffotofoltäig, gyda strategaeth osgoi, newid a gwella trafnidiaeth wedi'i sefydlu.

Datblygodd Povilas Dumcius yr Automify: cysyniad Blwch Offer Digidol sy'n ceisio helpu gweithgynhyrchwyr i dracio a storio offer yn effeithlon. Mae Automify yn monitro mynediad i flwch offer, yn ogystal â pha offer ac asedau sydd wedi'u cymryd. Gobaith y syniad yw helpu gweithgynhyrchwyr i atal eitemau rhag cael eu colli neu eu dwyn a, thrwy integreiddio data byd go iawn, ei nod yw gwella diogelwch a sicrhau cydymffurfiaeth â'r gofynion rheoliadol sy'n cynyddu o hyd.

Bydd prosiectau'n cael eu beirniadu, gan ddefnyddio meini prawf penodol, gan banel o feirniaid sy'n cynnwys staff Academaidd o’r Ysgol Peirianneg, y Tîm Menter, y Tîm Arloesedd a'r gymuned fusnes.

Mae'r wobr hon yn cyd-fynd â gwaith prosiect a wnaed eisoes gan fyfyrwyr blwyddyn tri a phedwar, ond mae'r wobr hefyd yn agored i fyfyrwyr sydd â syniad y tu hwnt i'w gwaith prosiect, felly gall unrhyw fyfyriwr peirianneg ar unrhyw lefel wneud cais.

Ymunwch â ni yn llongyfarch yr holl enillwyr ar y cyflawniad hwn.

Rhannu’r stori hon