Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwilwyr Caerdydd yn derbyn Gwobr Robert Mitchum

14 Gorffennaf 2021

hydrothermal vents

Llongyfarchiadau i Chantelle Roelofse, Dr Tiago Alves a Kamaldeen Omosanya ar dderbyn Gwobr Robert Mitchum 2021 am y papur gorau a gyhoeddwyd yn Basin Research.

Mae’r ymchwilydd Chantelle Roelofse o Brifysgol Caerdydd a’r cyd-awduron Dr Tiago Alves a Kamaldeen Omosanya wedi derbyn Gwobr Robert Mitchum 2021 am eu papur "Reutilisation of hydrothermal vent complexes for focused fluid flow on continental margins (Modgunn Arch, Norwegian Sea)”, a gyhoeddwyd yng nghyfrol 33 o Basin Research ym mis Mawrth 2021.

Mae Cymdeithas Geowyddonwyr a Pheirianwyr Ewrop (EAGE) yn cyflwyno Gwobr Robert Mitchum yn flynyddol i awdur y papur gorau a gyhoeddwyd yn Basin Research yn ystod y flwyddyn galendr flaenorol. Rhaid i'r papur buddugol fodloni safonau gwyddonol uchel, a dylai gyfrannu’n sylweddol at un neu fwy o'r disgyblaethau a gynrychiolir gan y cyfnodolyn.

Mae'r ymchwil arobryn yn pwysleisio pwysigrwydd nodweddu strwythurau magmatig hynafol, am fod strwythurau fentiau a chwndidau hydrothermol yn arfer cael, ac wrthi’n cael (o bosibl), eu hailddefnyddio fel llwybrau llif hylif ffafriol i strata bas. Defnyddiodd yr astudiaeth ddata seismig tri dimensiwn i ddehongli amseriad cymharol a dosbarthiad gofodol ymwthiadau a chymhlygau fentiau hydrothermol cysylltiedig ar Fwa Modgunn. Cafodd y gwaith yn rhan o’r astudiaeth hon ei wneud yn ystod astudiaeth PhD a gynhaliwyd drwy Ganolfan Hyfforddiant Doethurol Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol. Fe'i noddir gan Brifysgol Caerdydd ac Arolwg Daearegol Prydain drwy’r Fenter Ariannu Prifysgol.

Bydd y seremoni wobrwyo’n cael ei chynnal ar y cyd â’r 82ain Gynhadledd ac Arddangosfa Flynyddol EAGE, y bwriedir ei chynnal ar 18-21 Hydref 2021 yn Amsterdam.

Ymunwch â ni i longyfarch Chantelle, Kamal a Tiago ar y cyflawniad hwn, a gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen eu cyhoeddiad buddugol.

Rhannu’r stori hon