Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil gydweithredol yn ceisio helpu cefn gwlad Cymru i ymdopi’n well â stormydd

14 Gorffennaf 2021

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd ar fin helpu cymunedau gwledig yng Nghymru i ymdopi’n well â stormydd mwy dwys sy’n deillio o’r newid yn yr hinsawdd.

Mae gan ffermwyr Cymru rôl hanfodol er mwyn cynnal gwasanaethau ecosystem sy’n darparu cynefinoedd, aer a dŵr glân, yn ogystal â chynhyrchu bwyd. Yn ogystal â’r pwysau i gynhyrchu bwyd yn rhad, mae ffermwyr yn agored i effeithiau negyddol y newid yn yr hinsawdd sydd eisoes yn gwneud stormydd yr haf yn fwy dwys a chynhyrchu gwaddodion ffo.

Er mwyn helpu ffermwyr i ymdopi â’r newidiadau hyn, mae Prifysgol Caerdydd yn cydweithio ag NFU Cymru er mwyn hyrwyddo rhagor o gamau cynaliadwy o reoli tiroedd mewn cymunedau ffermio gwledig.

Bydd Dr Elizabeth Follett a Dr Catherine Wilson, Canolfan Ymchwil Hydro-Amgylcheddol, yr Athro Jo Cable, Ysgol y Biowyddorau, a’r ysgolhaig Lorna Davis o Ymddiriedolaeth Ffermio Nuffield, yn gweithio gyda ffermwyr o Gymru er mwyn rhoi hwb i gydnerthedd amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd cymunedau gwledig Cymru.

Bydd y prosiect hwn a ariennir gan Gyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol (NERC) yn cyflwyno cyfres o weithdai, gweithgareddau ymgysylltu ac allgymorth cyhoeddus, gan gynnwys arddangosfeydd byw a chelf gyfranogol mewn partneriaeth â’r dylunydd Penny Turnbull. Bydd y gweithdai’n rhoi’r cyfle i ymchwilwyr a ffermwyr gyd-gynhyrchu pecyn rheoli pridd a rhoi cyfarwyddyd ymarferol y gall ffermwyr ei ddefnyddio i roi cysyniadau cynaliadwy o reoli tir ar waith ar eu ffermydd.

Drwy weithgareddau allgymorth ac ymgysylltu cyhoeddus, nod yr ymchwilwyr yw galluogi cymunedau ffermio i gynnal systemau ecosystem a gwneud penderfyniadau fydd yn rheoli eu tiroedd mewn ffyrdd mwy cynaliadwy.

Ariennir y prosiect gan NERC yn rhan o Arddangosfa NERC Cymru 2021. Ei nod yw annog academyddion ac cyhoedd yng Nghymru i weithio ar y cyd ar brosiectau ymchwil.

Cymerwch ran yn y prosiect

Rydym yn chwilio am bobl sy’n fodlon cymryd rhan mewn dau weithdy ar-lein, 1.5 awr o hyd, yn ystod wythnosau 19-23 Gorffennaf a diwedd Medi i ddechrau Hydref, yn ogystal ag ymweliad fferm 1:1.

Cewch ragor o fanylion ar wefan prosiect cydnerthedd amgylcheddol ar gyfer dŵr yng nghefn gwlad Cymru.

Rhannu’r stori hon