Ewch i’r prif gynnwys

Cyhoeddi adroddiad ar Ysgolion Busnes a Lles y Cyhoedd

5 Gorffennaf 2021

CABS public value report cover

Mae adroddiad newydd yn amlygu'r ffyrdd niferus ac amrywiol y mae ysgolion busnes yn cyflawni lles y cyhoedd drwy addysgu, ymchwil ac ymgysylltu.

Mae Tasglu Cymdeithas Siartredig yr Ysgolion Busnes (ABS) wedi cyhoeddi ei adroddiad ‘Business Schools and the Public Good’.

Cyd-gadeiryddion y Tasglu yw'r Athro Martin Kitchener, cyn Ddeon Ysgol Busnes Caerdydd, yr ysgol busnes gwerth cyhoeddus gyntaf yn y byd, a Tom Levitt, awdur ar gynaladwyedd busnes, ac mae'n cynnwys aelodau o gefndir academaidd, diwydiant a pholisi.

Sefydlwyd y Tasglu i ystyried sut mae ysgolion busnes yn deall ac yn cyflawni 'lles y cyhoedd', gyda'r nod o fapio agweddau at les y cyhoedd yn ysgolion busnes y DU; awgrymu ffyrdd o gefnogi lledaenu arferion addawol; ac ehangu'r naratif cyhoeddus ar bwrpas ysgolion busnes.

Ceir 20 astudiaeth achos o arferion addawol mewn ysgolion busnes yn yr adroddiad, gan gynnwys astudiaeth o Fwrdd Rheoli Cysgodol Ysgol Busnes Caerdydd. Daw'r dull blaengar hwn â chyfuniad o aelodau iau ac uwch o’r gyfadran a staff gwasanaethau proffesiynol o bob rhan o'r Ysgol at ei gilydd i ddatblygu strategaeth; craffu ar yr uwch dîm rheoli; hwyluso cyfranogiad mwy amrywiol ym mhrosesau penderfynu'r Ysgol; a chreu ffyrdd arloesol o wreiddio cyflwyno gwerth cyhoeddus ar draws gweithgareddau'r Ysgol.

Datgelodd yr adroddiad bod Ysgolion Busnes yn dechrau mabwysiadu dull arwain pwrpasol, yn seiliedig ar feithrin ymdeimlad uwch a chliriach ymhlith cydweithwyr o'u cyfraniad at yr hyn y mae eu hysgol yn ei wneud a pham. Canfu'r Tasglu fod pwrpas yn arwain nifer cynyddol o ysgolion busnes y DU a'u bod yn mynegi golwg glir ar eu cyfraniad i les y cyhoedd gan ddefnyddio hyn i arwain datblygiad ar draws pedwar prif faes gweithgaredd allweddol.

Mae'r adroddiad yn cynnig argymhellion ar sut y gall ysgolion busnes, ynghyd â myfyrwyr, llunwyr polisi a diwydiant, fynd ymhellach i sicrhau lles y cyhoedd i gymdeithas. Mae'r rhain yn cynnwys datganiad o bwrpas sy'n cynnwys rhanddeiliaid ac sy'n cyfleu ymdeimlad clir o les y cyhoedd; sefydlu swyddogaeth benodol i gydlynu cyflwyno pwrpas ar draws y pedwar prif faes gweithgaredd a nodwyd (addysgu, ymchwil, gweithrediadau ac ymgysylltu); ac adrodd ar gynnydd at gyflawni lles y cyhoedd.

Mae'n galonogol iawn gweld cynifer o ysgolion busnes y DU yn cyfrannu at les y cyhoedd mewn amrywiol ffyrdd, fel y dangosir gan y 20 astudiaeth achos o arferion addawol yn yr adroddiad. Yr hyn oedd yn glir oedd pwysigrwydd dulliau arwain sy'n defnyddio mynegiant clir o bwrpas ysgol fel sail ar gyfer gwneud penderfyniadau strategol. Rwy'n gobeithio mai'r hyn rydym ni'n ei weld yw dechrau dychwelyd at lywodraethu pwrpasol mewn addysg uwch.

Yr Athro Martin Kitchener Athro Rheolaeth a Pholisi’r Sector Cyhoeddus

Dywedodd yr Athro Calvin Jones, Dirprwy Ddeon Gwerth Cyhoeddus yn yr Ysgol Busnes: "Yn 2015, Ysgol Busnes Caerdydd oedd yr ysgol busnes gyntaf yn y byd i ganolbwyntio ar werth cyhoeddus. Ers hynny, mae ein hethos o gyflawni amcanion cymdeithasol yn ogystal ag economaidd, a'n ffocws ar ddod yn Ysgol sy'n amgylcheddol gyfrifol ac sy'n canolbwyntio ar bobl, wedi lliwio popeth a wnawn ar draws dysgu ac addysgu, ymchwil, ymgysylltu a'n llywodraethu ein hunain. Byddwn ni wrth ein bodd os bydd ein dull yn helpu'r sector yn fwy cyffredinol i ymgodymu â'r ffordd y mae'n mynd i'r afael â heriau cymdeithasol."

Darllen adroddiad terfynol y Tasglu.

Rhannu’r stori hon

Ni yw'r Ysgol Busnes Gwerth Cyhoeddus gyntaf yn y byd. Rydym yn poeni am fwy na llwyddiant economaidd, rydym am ymgorffori dynoliaeth, cynaliadwyedd, haelioni ac arloesedd yn y sector busnes.