Ewch i’r prif gynnwys

Adolygiad pwysig o astudiaethau yn awgrymu y gallai aspirin leihau perygl marwolaeth cleifion canser 20%

2 Gorffennaf 2021

Mae adolygiad mawr o’r ymchwil sy'n bodoli eisoes yn awgrymu y gallai cleifion sy’n dioddef ystod eang o ganserau ac sy’n cymryd aspirin yn rhan o'u triniaeth fod 20% yn llai tebygol o farw.

Cynhaliodd academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd adolygiad systematig o 118 o astudiaethau arsylwadol cyhoeddedig yn achos cleifion â 18 o ganserau gwahanol.

Cyfunon nhw'r canlyniadau a chanfod bod hyn yn gysylltiedig â gostyngiad o tua 20% yn nifer y marwolaethau oherwydd canser o gyfanswm o tua 250,000 o gleifion â chanser a ddywedodd eu bod wedi cymryd aspirin.

Dywedodd yr adolygiad fod y corff o dystiolaeth sydd ar gael ynghylch ei effeithiolrwydd a'i ddiogelwch yn "cyfiawnhau’r defnydd ohono" fel triniaeth atodol mewn ystod eang o ganserau, ac y dylai cleifion gael gwybod am hyn.

Caiff eu hadolygiad ei gyhoeddi heddiw yn y cyfnodolyn mynediad agored eCancermedicalscience.

Dyma a ddywedodd y prif awdur, yr Athro Peter Elwood, Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd sydd wedi bod yn astudio effeithiau aspirin ers dros 50 mlynedd: "Dros y blynyddoedd diwethaf, rwyf i a fy nhîm ymchwil wedi cael ein synnu gan effaith aspirin ar y mecanweithiau biolegol sy'n berthnasol i ganser – ac mae'r rhain yr un fath mewn llawer o ganserau gwahanol yn ôl pob golwg.

"Felly, roedden i eisiau adolygu'r dystiolaeth wyddonol sydd ar gael ynghylch defnyddio aspirin fel triniaeth ychwanegol ar gyfer ystod eang o ganserau.

"Yn gyffredinol, unrhyw adeg ar ôl cael diagnosis o ganser, daeth i’r amlwg i ni fod tua 20% yn fwy o'r cleifion a fyddai’n cymryd aspirin yn parhau’n fyw, o gymharu â’r cleifion hynny nad oedden nhw’n cymryd aspirin."

Ystyriodd y tîm hefyd y peryglon yn sgîl cymryd aspirin ac ysgrifennon nhw at un o awduron pob un o'r papurau gan holi ynghylch pyliau o waedu yn y stumog neu achosion eraill o waedu.

Roedd nifer fach o gleifion wedi cael pwl o waedu, ond nid oedd tystiolaeth o unrhyw farwolaethau ychwanegol y gellir eu priodoli i achosion o waedu yn y cleifion yn sgîl cymryd aspirin, meddai'r adolygiad.

"Mae ein hymchwil yn awgrymu nid yn unig bod aspirin yn helpu i leihau perygl marwolaeth, ond mae hefyd wedi dangos ei fod yn lleihau lledaeniad canser yn y corff – lledaeniad metestatig fel y'i gelwir," meddai'r Athro Elwood.

"Erbyn hyn mae cryn gorff o dystiolaeth sy’n awgrymu gostyngiad sylweddol yn nifer y marwolaethau ymhlith cleifion â chanser sy'n cymryd aspirin – ac mae'n ymddangos nad yw'r budd hwnnw wedi ei gyfyngu i un neu ychydig o ganserau.

"Felly, mae'n ymddangos bod Aspirin yn haeddu ystyriaeth ddifrifol fel triniaeth gynorthwyol ar gyfer canser ac y dylai cleifion â chanser a'u gofalwyr gael gwybod am y dystiolaeth sydd ar gael.

"Fodd bynnag, mae'n rhaid inni bwysleisio hefyd nad yw aspirin yn driniaeth amgen yn lle unrhyw driniaeth arall."

Ym 1974, y tîm ymchwil dan arweiniad yr Athro Elwood a'r Athro Archie Cochrane yn yr Uned sydd gan y Cyngor Ymchwil Feddygol yng Nghymru oedd y cyntaf i ddangos bod cymryd tabled aspirin bob dydd yn lleihau nifer y marwolaethau o glefyd y galon a strôc tua 24%.

Cafodd yr adroddiad lawer o sylw yn fyd-eang ym 1990 ac yn ôl y BMJ, hwn oedd un o'r 50 astudiaeth ymchwil bwysicaf a gyhoeddwyd ers 1945.

Dywedodd yr Athro Elwood fod ei astudiaeth wreiddiol wedi ysgogi cyfnod newydd o waith ymchwil ar aspirin. Adeg yr adroddiad byddai tua 100 o astudiaethau ymchwil glinigol ar aspirin yn cael eu cyhoeddi bob blwyddyn – ond bellach mae mwy na 1,000 bob blwyddyn. Dywedodd fod nifer o dreialon clinigol newydd wedi eu sefydlu i brofi defnyddio aspirin fel triniaeth mewn sawl canser a dylai canlyniadau'r rhain roi rhagor o dystiolaeth glir yn hynny o beth.

"Mae'n amlwg y byddai rhagor o ymchwil i aspirin a chanser o werth mawr, a dylid annog astudiaethau newydd, yn enwedig os ydyn nhw’n canolbwyntio ar rai o'r canserau llai cyffredin," meddai'r Athro Elwood.

Rhannu’r stori hon