Ewch i’r prif gynnwys

Amddifadedd yng Nghymru ar ôl y pandemig

1 Gorffennaf 2021

Rhagwelir y bydd amddifadedd deirgwaith yn uwch yng Nghymru yn dilyn pandemig COVID-19, ond mae melin drafod blaenllaw yng Nghymru yn awgrymu y byddai cyflwyno system fudd-daliadau yn y wlad yn helpu i fynd i’r afael â’r broblem yn y dyfodol.

Gwnaeth Dr Victoria Winckler, cyfarwyddwr melin drafod yng Nghymru, Sefydliad Bevan, yr argymhelliad yn sesiwn hysbysu dros frecwast Ysgol Busnes Caerdydd y mis hwn, a oedd yn edrych ar raddau ac effeithiau amddifadedd yn y DU, ac yn benodol, effaith COVID-19 yng Nghymru.

Rhannodd Dr Winckler y llawr â Dr Elena Lisauskaite, economegydd yn y Sefydliad Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol Cenedlaethol (NIESR), a ddechreuodd y sesiwn gyda diffiniad o amddifadedd fel “tlodi eithafol, lle nad oes gan bobl bethau sylfaenol, anghenion sylfaenol yn eu bywyd [megis] dillad, bwyd, lloches.”

Mewn termau ariannol, mae hyn yn cyfateb i berson sengl yn goroesi ar lai na £70 yr wythnos. Os oes oedolyn ychwanegol ar yr aelwyd honno, byddai angen £30 yr wythnos yn ychwanegol ar yr aelwyd, a byddai angen i blentyn ychwanegol gael £20 yr wythnos arall i gael eu hystyried yn byw mewn “tlodi eithafol”.

Parhaodd Dr Lisauskaite trwy ddadansoddi'r darlun cyffredinol yn y DU yn seiliedig ar fodelau a gyflwynwyd gan y Dadansoddiad o Ddosbarthiad Incwm Oes (LINDA) ac amcanestyniadau o fodel macro-economaidd byd-eang blaenllaw NIESR (NiGEM).

Cafwyd darlun llwm iawn gan ragolygon y DU, gyda Dr Lisauskaite yn disgrifio’r sefyllfa fel un “torcalonnus.” Rhagwelir y bydd cyfradd ddiweithdra'r DU yn cynyddu o 3.9% (yn 2019/20) i 6.1% (yn 2022/23), gyda chynnydd o 54.8% mewn diweithdra ymhlith pobl ifanc 18 i 24 oed, a chynnydd syfrdanol o 65.2% ar gyfer y grŵp oedran 50+. Esboniodd Dr Lisauskaite y bydd y pandemig a Brexit yn gwaethygu darlun sydd eisoes yn ofidus, gydag effeithiau'n arbennig o ddifrifol mewn rhanbarthau ag amddifadedd hanesyddol sy'n bodoli eisoes. Yn ôl y data, bydd 1,011,500 o bobl yn byw mewn amddifadedd yn y DU erbyn 2022/23.

Dilynodd Dr Winckler gyflwyniad Dr Lisauskaite, gan adleisio ei chanfyddiadau a dweud bod Sefydliad Bevan wedi darganfod yr un taflwybr pryderus yng Nghymru yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.

Fodd bynnag, edrychodd Dr Winckler i'r dyfodol, er gwaethaf y rhagfynegiadau llwm, a dadlau dros system fudd-daliadau yng Nghymru sy'n dod â'r holl grantiau a lwfansau datganoledig sy’n amodol ar brawf modd at ei gilydd i sicrhau bod llai o bobl yn colli allan ar gronfeydd y maent yn gymwys ar eu cyfer, a’i bod yn haws cael gafael arnynt. Esboniodd Dr Winckler fod diwygio gwerth y grantiau a'r lwfansau a newid y meini prawf cymhwysedd yn unol ag anghenion pobl yn hanfodol.

Gwnaeth Dr Winckler argymhellion hefyd ar draws pum maes allweddol y mae Sefydliad Bevan yn credu a fydd yn helpu i leihau amddifadedd yng Nghymru:

  • Tai
  • Atal digartrefedd
  • Diwygio cymorth gyda'r dreth gyngor
  • Cymorth ar gyfer plant a phobl ifanc
  • Creu cronfa argyfwng newydd yng Nghymru.

Er bod angen diwygio system nawdd cymdeithasol y DU, cred Dr Winckler y gellir gwneud newidiadau yng Nghymru fel man cychwyn, fel y dangoswyd yn ystod y pandemig. Canmolodd Lywodraeth Cymru am arwain y ffordd gyda gwell darpariaeth o brydau ysgol am ddim ac ehangu'r Gronfa Cymorth Dewisol.

I gael rhagor o wybodaeth ac i glywed trafodaethau Dr Winckler a Dr Lisauskaite yn llawn, gallwch wylio recordiad o'r digwyddiad.

Mae Sesiynau Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd yn rhwydwaith o ddigwyddiadau sy’n galluogi cysylltiadau busnes i gael rhagor o wybodaeth am yr ymchwil a'r datblygiadau diweddaraf gan bartneriaid diwydiannol.

Oherwydd mesurau Llywodraeth Cymru i ymateb i bandemig COVID-19, mae Tîm Addysg Weithredol yr Ysgol yn cynnal y gyfres ar-lein.

Rhannu’r stori hon