Prosiect newydd mawr i ymchwilio i boen gronig
30 Mehefin 2021
Bydd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn ffurfio rhan o gonsortiwm newydd i fynd i'r afael â'r ffactorau seicolegol a chymdeithasol a all ddylanwadu ar boen gronig.
Bydd Prifysgol Caerfaddon yn arwain y consortiwm, prosiect pedair blynedd gwerth £3.8m, sydd hefyd yn cynnwys ymchwilwyr o brifysgolion Caerfaddon, Bath Spa, Bryste, Keele, Royal Holloway, Coleg Prifysgol Llundain, a Phrifysgol Gorllewin Lloegr.
Mae'r prosiect yn rhan o fuddsoddiad ehangach o £14m gan Ymchwil ac Arloesedd y DU a'r elusen Versus Arthritis i gynyddu ymchwil i boen gronig. Bydd y Llwyfan Darganfod Poen Uwch yn gweld pedwar consortia ymchwil newydd a chanolbwynt data poen gronig cenedlaethol yn cael ei sefydlu.
Bydd y consortiwm a arweinir gan Gaerfaddon yn astudio’r ffactorau seicolegol a chymdeithasol sy’n dylanwadu ar brofiad pobl o boen. Hyd yma, prin fu'r ddealltwriaeth o'u pwysigrwydd.
Bydd yr Athro Ernest Choy, o'r Adran Rhewmatoleg ym Mhrifysgol Caerdydd, yn sefydlu Cofrestrfa Poen Barhaus i ddeall sut mae ffactorau seicogymdeithasol yn effeithio ar ddatblygiad poen barhaus dros amser.
“Bydd yr ymchwil hon yn gwella gofal unigolion â phoen gronig trwy fynd i’r afael â’r materion allweddol yn ymwneud â sut a pham y mae’n gafael,” meddai.
Dywedodd arweinydd y consortiwm a phrif ymchwilydd, yr Athro Ed Keogh o Ganolfan Ymchwil Poen ym Mhrifysgol Caerfaddon: “Mae poen gronig yn anhygoel o gyffredin a gall fod yn rhwystr mawr. Gydag un o bob pump ohonom yn profi poen gronig, mae'r cyllid ymchwil newydd hwn yn rhoi cyfle amserol mawr ei angen i ddeall yn well sut mae poen gronig yn datblygu ac yn cael ei chynnal."
Bydd ymchwilwyr yn canolbwyntio ar sut mae pobl yn meddwl ac yn teimlo am eu poen eu hunain, sut mae pobl eraill yn effeithio ar eu profiadau poen, a'r dylanwadau cymdeithasol ac amgylcheddol ehangach. Ar bob cam o'r prosiect bydd ymchwilwyr yn gweithio gyda phrofiadau pobl sy'n byw gyda phoen ac yn cael eu harwain ganddynt.
Dywedodd un dioddefwr poen cronig, Colin Wilkinson: “Mae'r ymchwilwyr yn gweithio gyda phobl sy'n byw gyda phoen bob cam o'r ffordd. Mae'r bartneriaeth honno'n golygu y bydd yr hyn rydyn ni'n ei ddysgu wedi'i seilio ar brofiadau pobl, felly mae'n llawer mwy pwerus wrth bwyntio'r ffordd at atebion gwell ar gyfer poen.”
Mae rhagor o wybodaeth am y prosiect ar gael yma.