Ewch i’r prif gynnwys

Grisiau godidog sbarc | spark wedi’u datgelu

30 Mehefin 2021

L-R: Professor Damian Walford Davies, Deputy Vice-Chancellor, Cardiff University; Professor Sally Power, Director, Wales Institute of Social and Economic Research and Data; Professor Chris Taylor, Academic Director, SPARK, and Sally O'Connor, Operations Director, SPARK.

Mae grisiau arbennig sy'n cydgysylltu adeilad sbarc | spark newydd Prifysgol Caerdydd wedi’u gosod ar Gampws Arloesedd y ddinas.

Grisiau’r ‘Oculus’ yw’r cyntaf o’u math i gael eu hadeiladu yn y DU, ac maent yn ganolog i’r gwaith o adeiladu Campws Arloesedd Caerdydd.

Gweithiodd y penseiri Hawkins\Brown gyda Taunton Fabrications ac adeiladwyr y campws, Bouygues UK, i ddylunio a gosod y nodwedd, sy'n dechrau ar y llawr gwaelod fel ‘staer gymdeithasol’ ac yn ffurfio mannau ar gyfer grwpiau bach ar bob llawr o’r adeilad.

Mae’r ‘Oculus’ – sy’n golygu ‘llygad’ – yn risiau cerfluniol ac agored sy'n teithio drwy wagle goleddfol. Mae ei ddyluniad yn cynrychioli llygad sy'n galluogi golau i lifo i mewn i le. Ei nod yw ysgogi staff o wahanol adrannau ac sy’n defnyddio’r adeilad i ymgysylltu â chydweithio â’i gilydd.

Dywedodd yr Athro Damian Walford Davies, Rhag Is-Ganghellor Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol: “Yr ‘Oculus’ yw calon ein hadeilad. Mae’n symbol gweladwy o’r cysylltiadau a’r cyfluniadau rhwng pobl a phrosiectau y mae’r gofod hwn yn eu galluogi mewn modd hardd. Ar ben hyn mae’n dramwyfa ymarferol.”

Mae'r Campws Arloesedd yn cael ei adeiladu ar safle hen reilffordd ac yn cynnwys dau adeilad.

Bydd sbarc | spark – sydd i fod i agor y gaeaf hwn – yn gartref i’r parc cyntaf yn y byd ar gyfer Ymchwil y Gwyddorau Cymdeithasol, yn ogystal ag Arloesedd Caerdydd@sbarc, man creadigol Prifysgol Caerdydd ar gyfer busnesau newydd, cwmnïau deillio a phartneriaethau.

Drws nesaf, bydd y Ganolfan Ymchwil Drosiadol yn gartref i ddau sefydliad ymchwil wyddonol blaenllaw, sef y Sefydliad Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a Sefydliad Catalysis Caerdydd.

Dywedodd Mike Baynham, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Bouygues UK yng Nghymru ac arweinydd prosiect ar Gampws Arloesedd Caerdydd: “Mae'n anhygoel fy mod wedi bod yn dyst i'r grisiau hyn yn ymffurfio dros yr ychydig fisoedd diwethaf. Mae arbenigedd Taunton Fabrications a gweledigaeth anhygoel Hawkins\Brown i gyd wedi dod ynghyd i greu sbectacl yn yr adeilad hwn, sy’n wirioneddol unigryw.

“Cafodd y grisiau eu hadeiladu mewn ffordd unigryw iawn, hefyd. Ni chafodd y grisiau eu gosod yn union uwchben ei gilydd, fel sy'n digwydd yn draddodiadol. Yn hytrach, maent wedi’u darwahanu ar bob llawr. Mae nifer o ddulliau gosod wedi'u hadolygu dros y misoedd i nodi’r ffordd orau o osod y grisiau’n ofalus ac yn ymarferol.”

Esboniodd Mike: “Gwnaeth ein tîm gwych yma yn Bouygues UK gynnig gosod pob staer ar ôl i’r llawr gael ei adeiladu ac yna adeiladu’r llawr nesaf uwchben y staer drwy gyfluniad hollti. Cafodd y gwaith dros dro hwn ei ddylunio gan Taunton Fabrications a'r contractwr fframiau dur wedi’i atgyfnerthu, 4D Structures. Cafodd hyn ei wneud ar bob llawr. Mae'n brosiect adeiladu cymhleth ond cyffrous, ac mae'n anhygoel ei weld yn dwyn ffrwyth.”

Dywedodd Julia Roberts, Partner ac Arweinydd Sector Addysg ac Ymchwil Hawkins\Brown: “Cafodd grisiau’r ‘Oculus’ eu dylunio i fod yn lle ysgogol sy'n annog ymchwilwyr, ymarferwyr a llunwyr polisïau i gydweithredu. Er mwyn datblygu’r dyluniad hwn, gwnaethom weithio gyda'n Tîm Dylunio Cyfrifiadol a chynhyrchu sgript, a’n galluogodd i greu model parametrig o wagle’r grisiau i gydgysylltu â strwythurau a thimau Dylunio Mecanyddol a Thrydanol.

“Gwnaeth hyn hefyd ein galluogi i greu taith gerdded drwy ddefnyddio technoleg peiriannau gêm, i’w phrofi drwy ddefnyddio set pen VR. Roedd yn adnodd datblygu dyluniadau pwerus a wnaeth gynnwys y Brifysgol a defnyddwyr yr adeilad yn y broses ddylunio. Dyma’r tro cyntaf i ni ddefnyddio technoleg peiriannau gêm ar brosiect, ac mae'n bleser ei gweld yn trosglwyddo i’r safle.”

Mae rhagor o wybodaeth am weledigaeth Hawkins\Brown ar gyfer yr ‘Oculus’ a sbarc | spark, ynghyd â ffilm i gyflwyno’r adeilad, ar gael yma.

[Gwyliwch y ffilm yma]

Rhannu’r stori hon