Ewch i’r prif gynnwys

Prosiect ymchwil newydd gwerth £2.8m i astudio deilliannau iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc mewn gofal

28 Mehefin 2021

Bydd prosiect ymchwil newydd yn ymchwilio i’r ffactorau sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl a lles pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.

Mae’r rhaglen pedair blynedd yn cael ei harwain gan dîm rhyngddisgyblaethol o Brifysgol Caerfaddon a Rhydychen, ar y cyd â chydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bryste.

Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar ddau gyfnod pontio, sef symud o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd ac yna symud o lencyndod i fod yn oedolyn.

Nod y tîm ymchwil fydd adnabod y prosesau allweddol sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl a lles pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, gan ganolbwyntio’n benodol ar y broses seicolegol a rôl systemau a gwasanaethau cefnogi, a hynny er mwyn adnabod targedau ar gyfer rhaglenni ymyrraeth ac atal yn y dyfodol.

Dyma a ddywedodd yr Athro Katherine Shelton, arbenigwraig mewn seicoleg ddatblygiadol yn Ysgol Seicoleg Prifysgol Caerdydd: “Ein bwriad yw y bydd yr ymchwil hon yn gam mawr ymlaen o ran ein dealltwriaeth o broffil seicolegol pobl ifanc sydd â phrofiadau o ofal yn ystod adegau allweddol yn eu plentyndod. Mae'n arbennig o gyffrous bod y prosiect hwn yn rhychwantu Cymru a Lloegr.”

Bydd Adoption UK a Coram Voice yn cefnogi’r gwaith, yn ogystal â thri phanel o bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.

Drwy gynnwys pobl ifanc sydd â phrofiad uniongyrchol o ofal maeth, gofal preswyl a/neu fabwysiadu, mae'r ymchwilwyr eisiau datblygu dealltwriaeth ddyfnach o brofiadau unigolion cyn iddyn nhw dderbyn gofal, eu profiadau tra eu bod yn yr ysgol, a sut mae unigolion yn gweld eu hunain ac yn rheoli eu hemosiynau.

Bydd un o bob 30 o blant yn y DU yn cael ei roi mewn gofal rywbryd cyn ei ben-blwydd yn 18 oed. Mae llawer o'r bobl ifanc hyn wedi cael eu cam-drin a’u hesgeuluso ac maen nhw wedi wynebu anawsterau eraill. Unwaith eu bod mewn gofal, yn aml byddan nhw’n cael eu gwahanu oddi wrth frodyr a chwiorydd ac yn byw gyda sawl gofalwr, a gall yr ansefydlogrwydd parhaus hwn waethygu eu profiadau cynnar a dwyn canlyniadau tymor hir.

Gobaith y tîm ymchwil yw y bydd eu canfyddiadau yn arwain at well dealltwriaeth o anghenion pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, yn ogystal â gwell canlyniadau, ochr yn ochr â chefnogaeth fwy ymarferol ar gyfer gweithwyr cymdeithasol, athrawon, gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl, rhieni sy’n mabwysiadu a gofalwyr maeth.

Bydd yr ymchwil yn defnyddio data cenedlaethol sy’n bodoli eisoes gan oddeutu 14,000 o bobl ifanc sydd â phrofiad o ofal a bydd hefyd yn cynnwys astudiaethau hydredol newydd fydd yn cynnwys 600 o bobl ifanc rhwng 10-18 oed, eu gofalwr (gofalwyr), eu rhiant (rhieni) mabwysiadol a/neu weithwyr cymdeithasol.

Clustnodwyd £2.2m ar gyfer y prosiect hwn yn sgîl cyllid uniongyrchol gan UKRI, a daeth y gweddill o'r prifysgolion dan sylw.

Rhannu’r stori hon