Ewch i’r prif gynnwys

Gwyddonwyr yn lansio treial i brofi a allai ymarfer yr ymennydd helpu pobl i golli pwysau

28 Mehefin 2021

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi lansio ap newydd o’r enw “Restrain” i weld a yw’n bosibl colli pwysau trwy fath o ymarfer ymennydd sy’n cynnwys gemau syml.

Mae'r tîm o Ganolfan Ymchwil Delweddu’r Ymennydd y Brifysgol (CUBRIC) yn galw am wirfoddolwyr i gymryd rhan yn y treial, sef yr astudiaeth fwyaf o'i math erioed.

Maen nhw'n gobeithio recriwtio miloedd o wirfoddolwyr sydd dros bwysau neu'n byw gyda gordewdra i ddefnyddio'r ap, sy'n gweithio trwy ofyn i ddefnyddwyr gwblhau tasgau byr a syml yn ddyddiol.

Dywedodd arweinydd y prosiect, yr Athro Chris Chambers: “Mae ymchwil flaenorol wedi awgrymu y gallai ymarfer ymennydd fod yn ffordd effeithiol o golli pwysau - fodd bynnag, mae’r rhan fwyaf o’r ymchwil hwn wedi cynnwys grwpiau bach o bobl sydd o fewn pwysau iach.

“Nawr, rydyn ni am weld a all hyn weithio yn y byd go iawn a helpu'r rhai sydd dros bwysau neu'n byw gyda gordewdra. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar hyn o bryd gan fod cynifer o bobl wedi cael trafferth cynnal pwysau iach yn ystod y pandemig.

“Er mwyn gweld a all hyfforddiant gwybyddol newid agweddau pobl tuag at fwyd a cholli pwysau, rydym yn bwriadu recriwtio miloedd o bobl ledled y byd i ddefnyddio ap a ddyluniwyd yn arbennig at y pwrpas hwn. Hon fydd yr astudiaeth fwyaf o'i math. ”

Mae'r ap newydd, ar gyfer dyfeisiau ffôn clyfar a llechi, wedi'i gynllunio fel bod defnyddwyr yn gallu defnyddio’r ap am gyfnodau byr iawn, pryd bynnag sy'n gyfleus iddyn nhw. Bydd gofyn i ddefnyddwyr gwblhau gwahanol dasgau byr bob dydd, dros gyfnod o dri mis. Bydd pob sesiwn ddyddiol yn para 10-15 munud.

Dywedodd yr ymchwilydd Mark Randle: "Mae tasgau'r ap wedi'u dylunio i wyro meddyliau ac ymddygiadau'r defnyddiwr tuag at fwydydd iach ac oddi wrth fwydydd gwael.

“Os ydyn nhw'n llwyddo i arddel arferion bwyta iach, gallai'r hyfforddiant hwn ddod yn ffordd ddefnyddiol o golli pwysau, yn enwedig i bobl sy'n cael trafferth gydag ymarfer corff neu ddilyn deiet.”

Ychwanegodd yr ymchwilydd Ines Duarte: “Un o fanteision posib hyfforddiant o’r fath yw nad yw’n golygu buddsoddi llawer o amser nac ymdrech - ei fwriad yw ailraglennu perthynas unigolyn â bwyd, yn hytrach na dibynnu ar rym ewyllys neu gorfodi rhywun i newid eu ffordd o fyw yn sylweddol.”

Gall y rhai sy’n cymryd rhan bersonoli eu profiad trwy ddewis cynnwys bwydydd y maen nhw eisiau bwyta mwy a llai ohonynt yn rhan o’u hyfforddiant.

Bydd disgwyl hefyd i’r defnyddwyr bwyso eu hunain unwaith yr wythnos a nodi pa fwydydd y maent wedi'u bwyta. Bydd y tîm ymchwil hefyd yn mesur agweddau tuag at fwydydd, crefu ac ymarfer corff i weld sut mae'r rhain yn newid gyda hyfforddiant.

I fod yn gymwys i gymryd rhan yn y treial, mae’n rhaid i bod dros 18 oed, ag indecs màs y corff o 25 neu fwy, heb fod ag anhwylder bwyta yn y gorffennol neu ar hyn o bryd, ddim yn feichiog a heb fod yn dilyn diet sy'n cyfyngu (e.e. ffrwythfwytäwr, figan amrwd).

Gallwch lawrlwytho ap Restrain yn Google Play. Mae'r ap ar gael ar hyn o bryd ar gyfer defnyddwyr Android yn unig.

Cefnogir y prosiect gan arian gan Gyngor Ymchwil Ewrop.

Rhannu’r stori hon