Ewch i’r prif gynnwys

Academydd o Gaerdydd ar restr fer gwobr lenyddol hanesyddol

22 Mehefin 2021

Mae llyfr a ysgrifennwyd gan Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Gyfraith a Gwleidyddiaeth wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Whitfield y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol ym maes Hanes Prydain ac Iwerddon eleni.

Mae llyfr Dr Thomas Leahy, The Intelligence War Against the Irish Republican Army (IRA), yn un o chwe theitl yn unig ar y rhestr fer ar gyfer y wobr eleni, sy'n cydnabod cyfraniad ysgolheigaidd ac ansawdd monograffau hanes rhagorol a gyhoeddwyd yn ystod 2020.

Mae Dr Leahy yn dysgu Gwleidyddiaeth Prydain ac Iwerddon/Hanes Cyfoes, ac mae ei lyfr yn ystyried a roddodd cudd-wybodaeth Prydain bwysau ar yr IRA i gytuno ar gadoediad yn ystod y 1970au ac yn y pen draw ar gyfaddawd gwleidyddol ym 1998.

Ers iddo astudio Gogledd Iwerddon yn y brifysgol yng Ngholeg Kings Llundain, mae Dr Leahy wedi ymchwilio i'r pwnc hwn ac i broses heddwch Gogledd Iwerddon. Mae ei lyfr yn ganlyniad blynyddoedd lawer o gyfweld â chyn garcharorion gweriniaethol Gwyddelig ac aelodau o lu diogelwch y DU ynghyd ag ymchwil i ddeunyddiau archifol  Gwyddelig/y DU a chofiannau o bob ochr i'r gwrthdaro. Canlyniad hyn yw cofnod rhanbarthol o'r hyn a ddigwyddodd a chofnod sy'n dangos er bod cuddwybodaeth y DU wedi cael sawl llwyddiant, y bu iddi ei methiannau hefyd.

Cewch ragor o wybodaeth am lyfr Thomas Leahy yn ei fideo rhestr fer.

Wrth sôn am y rhestr fer, dywedodd Dr Leahy, "Mae cael cydnabyddiaeth o unrhyw fath gan y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol yn uchafbwynt gwirioneddol i unrhyw waith hanesyddol ac awdur. Ynghyd ag adolygiadau cadarnhaol o'r llyfr, a'r ffaith ei fod yn gwerthu'n dda, mae'n braf gweld yr ymchwil yn apelio at academyddion a'r cyhoedd. Hoffwn ddiolch i fy nghydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd, cyn-gydweithwyr a mentoriaid mewn prifysgolion yn Iwerddon a'r DU, ochr yn ochr â staff yng Ngwasg Prifysgol Caergrawnt, archifwyr ac wrth gwrs y bobl y bûm i'n eu cyfweld a gyfrannodd at fy ymchwil."    

Sefydlwyd Gwobr Whitfield gan y Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol ym 1976 yn rhodd gan yr Athro Archibald Stenton Whitfield, oedd yn Gymrawd y Gymdeithas hyd at ei farwolaeth ym 1974. Bydd enillydd Gwobr Whitfield yn ennill £1000 a chaiff ei gyhoeddi ddydd Gwener 23 Gorffennaf 2021.

Cafodd Dr Leahy ganmoliaeth uchel yn ddiweddar hefyd gan banel Gwobr Medal Dillwyn Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Dyfernir y wobr bob blwyddyn i ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa, i gydnabod eu cyflawniadau a'u gwaith yn cyfrannu at brifysgolion Cymru.

Mae The Intelligence War Against the Irish Republican Army (IRA) ar gael gan Wasg Prifysgol Caergrawnt mewn clawr meddal a chlawr caled.

Rhannu’r stori hon