'Fy mreuddwyd yw na ddylai unrhyw un â syndrom Down orfod teithio i ddod o hyd i ofal llygaid arbenigol'
22 Mehefin 2021
Wrth i'r clinig llygaid cyntaf ar gyfer pobl â syndrom Down gael ei lansio yn Lloegr, mae'r fenyw a ysbrydolodd y clinig newydd yn sgîl ei gwaith arloesol yng Nghaerdydd yn siarad am yr hyn y mae'n ei olygu.
Mae'r clinig llygaid arbenigol cyntaf yn Lloegr ar gyfer pobl â syndrom Down wedi ei lansio i helpu plant sy'n cael trafferth gyda phrofion llygaid traddodiadol.
Mae Prifysgol Portsmouth wedi sefydlu'r gwasanaeth, sy'n cynnig cyfarpar a staff arbenigol sydd wedi'u hyfforddi i ddiwallu anghenion pobl sydd â'r cyflwr.
Ysbrydolwyd y gwasanaeth gan glinig o dan ofal Dr Margaret Woodhouse, pennaeth Uned Ymchwil Golwg Syndrom Down ym Mhrifysgol Caerdydd.
Mae Dr Woodhouse wedi datblygu profion i asesu golwg pobl ac mae ganddi hi ddiddordeb yn y ffordd y mae nam ar y golwg yn effeithio ar addysg a sgiliau byw bob dydd, gan arwain y ffordd wrth ymchwilio a thrin problemau golwg mewn plant sydd â syndrom Down. Yn 2017, enillodd yr Uned wobr academaidd amlycaf y DU, sef Gwobr Pen-blwydd y Frenhines, am ei gwaith arloesol ac mae'r tîm yn parhau i ymchwilio’r gwasanaeth a’i ehangu.
Bu Dr Woodhouse yn siarad â ni am ei thaith - ac yn egluro beth mae'n ei olygu iddi i weld clinigau eraill yn dilyn yr un llwybr:
“Dechreuodd ein clinig fel clinig pediatreg ddiwedd yr 1980au. O'r cychwyn cyntaf, byddai plant ag anableddau dysgu yn dod i’r Uned, felly roedd yn rhaid imi a fy nghydweithwyr ddysgu’n gyflym iawn gan nad oedd gennym brofiad blaenorol o dechnegau eraill ar gyfer profion llygaid. Roedd yn rhaid inni ddatblygu ein technegau ein hunain, a defnyddion ni’r rhain i ddatblygu ein hymchwil. Felly, datblygwyd Prawf Craffter Golwg Caerdydd, sef prawf sydd ar gael yn fasnachol (gan arwain at nifer o brofion eraill sy’n deillio ohono) yn sgîl yr angen i fesur golwg plant nad oedden nhw’n gallu enwi lluniau, er enghraifft. Mae fy ymchwil yn canolbwyntio’n bennaf ar blant sydd â syndrom Down, a deilliodd hyn yn sgîl ein harsylwadau yn y clinig, yn enwedig y ffaith bod llawer o blant yn cael trafferth canolbwyntio ar dasgau agos.
“Y gwir amdani yw i’r clinig dyfu ar dafod leferydd. Mae ymweld â chlinigau llygaid yn yr ysbyty yn peri gofid i lawer o blant ac oedolion ag anghenion arbennig, ac mae’n gallu eu brawychu hyd yn oed, felly daeth rhieni’r plant bach nad oedden nhw’n gallu cydweithredu yn yr ysbyty â'r plant aton ni, ac yna aeth y gair ar led. Clinig ydyn ni ar gyfer cleifion o bob oed sydd â phob math o anabledd, ond yn sgîl fy ymchwil, rwy'n tueddu i weld plant â syndrom Down yn bennaf. Ond mae croeso i unrhyw un.
“Yr hyn rydyn ni wedi’i gyflawni yw gwasanaeth i’r DU i gyd ac nid y gymuned leol yn unig; mae llawer o'n cleifion yn teithio pellter hir iawn. Ar ben hynny yn amlwg, rydyn ni’n cynnig adnodd addysgu, a bydd ein myfyrwyr israddedig yn dysgu'r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen i drin cleifion ag anghenion arbennig, gan gynnwys ffyrdd o gyfathrebu â chleifion dieiriau. Rydyn ni’n unigryw yng Nghymru a Lloegr o ran addysgu didactig a phrofiad ymarferol o optometreg anghenion arbennig ar y lefel israddedig ac ôl-raddedig fel ei gilydd.
“Rydyn ni hefyd yn cynnig profiad i weithwyr proffesiynol sydd â diddordeb; y tu allan i'r tymor, yn aml bydd athrawon arbenigol, pediatregwyr, gweithwyr cymdeithasol, swyddogion adsefydlu, therapyddion ac ati sydd eisiau dysgu mwy am ofal llygaid yn ymuno â mi yn fy nghlinig. Heb anghofio wrth gwrs fod cannoedd o blant ac oedolion ag anghenion arbennig bellach sy’n gweld yn glir neu y mae eu problemau gweledol yn cael eu rheoli'n briodol yn sgîl ein profion llygaid.
“Rwy’n credu bod ein clinig wedi cael dylanwad ehangach ym maes optometreg, nid yn unig wrth baratoi ein myfyrwyr sydd ag ymwybyddiaeth o’r maes hwn a ddiddordeb ynddo, ond hefyd wrth godi ymwybyddiaeth yn y proffesiwn yn gyffredinol ac annog optometryddion sy’n ymarfer i ddatblygu sgiliau yn y maes hwn. Erbyn hyn mae clinigau optometreg ledled y DU lle gall plant ac oedolion ag anghenion arbennig gael gofal llygaid da ac rwy’n gyfrifol ryw fymryn bach am y datblygiad hwnnw. Yn sgîl yr ymchwil, rydyn ni wedi gwneud gwahaniaeth sylweddol i addysg plant â syndrom Down drwy ddarparu sbectol a thrwy dynnu sylw rhieni ac athrawon at y problemau golwg sydd gan y plant.
“Mae’r pandemig wedi bod yn anodd. Roedd yn rhaid inni ganslo apwyntiadau ar gyfer mwy na 300 o gleifion yn ystod y cyfnod clo cyntaf. Mae llawer o blant nad ydyn nhw wedi gallu cael eu prawf llygaid blynyddol ac rydyn ni bellach wedi cadw lle ar eu cyfer ar ôl gorfod aros am ddwy flynedd (yn hytrach na’r flwyddyn arferol).
“Fy mreuddwyd yw i bob ardal yn y DU gael o leiaf un clinig optometreg y gall teuluoedd ei gyrraedd yn rhwydd, felly ni fydd yn rhaid i unrhyw un deithio i Gaerdydd i gael gofal llygaid arbenigol. Rwy'n gweld cleifion a fyddai’n dod ata i yn fabanod bach ac sydd bellach yn oedolion - ac rwy'n hoff iawn o bob un o'n cleifion. Byddwn i’n gweld eu heisiau pe bydden nhw’n dod o hyd i ofal llygaid yn lleol, ond rwy’n gwybod mai dyna fyddai’r peth gorau iddyn nhw. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at y ffaith y bydd clinig newydd yn Portsmouth, ac yn falch o fod yn gysylltiedig ag ef. Yn ei dro, gobeithio y bydd cyfleusterau eraill yn dilyn yr un llwybr.”