Ewch i’r prif gynnwys

Athrawon Prifysgol Caerdydd yn cael eu hethol i Gymdeithas Ddysgedig Cymru

21 Ebrill 2016

Y Prif Adeilad o Rodfa'r Amgueddfa
Y Prif Adeilad o Rodfa'r Amgueddfa

Mae un ar bymtheg o Athrawon o Brifysgol Caerdydd wedi'u hethol i'r gymdeithas mawr ei bri, Cymdeithas Ddysgedig Cymru, sef anrhydedd uchel iawn ei pharch sy'n cydnabod rhagoriaeth academaidd.

Roedd yr academyddion o Brifysgol Caerdydd ymysg 46 o Gymrodyr newydd i gael eu derbyn i'r Gymdeithas, gan gynrychioli amrywiaeth eang o ddisgyblaethau academaidd, gan gynnwys Seicoleg, Mathemateg, Hanes a Chemeg.

Mae gan y Gymdeithas dros 420 o Gymrodyr bellach, sef dynion a menywod nodedig o bob maes dysgu, sy'n ffigurau blaenllaw yn eu proffesiwn neu ddisgyblaeth academaidd.

Dywedodd Syr Emyr Jones Parry, Llywydd y Gymdeithas: "Mae'n bleser gennyf groesawu amrywiaeth mor eang o unigolion eithriadol i'r Gymrodoriaeth eleni. Caiff pob Cymrawd newydd ei ethol ar sail teilyngdod nodedig ei waith. Bydd y Cymrodyr newydd hyn yn helpu i gryfhau ein gallu i gefnogi rhagoriaeth ar draws pob maes academaidd ac ar draws bywyd cyhoeddus, yng Nghymru a thramor."

Mae'r Gymdeithas yn defnyddio arbenigedd y Gymrodoriaeth i hyrwyddo ymwybyddiaeth o sut mae'r gwyddorau a'r celfyddydau, y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol o fudd i gymdeithas. Mae Cymrodyr yn cynorthwyo gwaith y Gymdeithas yn hyn o beth drwy gymryd rhan yn ei phwyllgorau a'i gweithgorau, a thrwy ei chynrychioli'n genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Mae pum cam yn y broses ethol drylwyr er mwyn cael eich ethol i Gymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Yr academyddion a gafodd eu hethol o Brifysgol Caerdydd yw:

  • Yr Athro Syr Mansel Aylward, Cadeirydd Iechyd Cyhoeddus Cymru; Cyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Ymchwil Seicogymdeithasol, Iechyd Galwedigaethol ac Iechyd Meddygon
  • Yr Athro Gillian Bristow, Deon Ymchwil; Athro Daearyddiaeth Economaidd
  • Yr Athro Nora de Leeuw, Dirprwy Is-Ganghellor (Rhyngwladol ac Ewrop) ac Athro Cemeg Gyfrifiadurol
  • Yr Athro Merideth Gattis, Athro Seicoleg
  • Yr Athro Abderrahmane Haddad, Sylfaenydd Gyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Uwch-foltedd Uchel
  • Yr Athro Paul Harper, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol Mathemateg
  • Yr Athro Shi-min Hu, Athro Cyfrifiadureg
  • Yr Athro Diana Huffaker, Athro Uwch-ddeunyddiau a Pheirianneg Sêr Cymru
  • Yr Athro David Jiles, cyn Gyfarwyddwr Canolfan Magneteg Wolfson yng Nghaerdydd, ac Athro Nodedig Anson Marston ym Mhrifysgol Talaith Iowa ar hyn o bryd
  • Yr Athro J Gwynfor Jones, Athro Emeritws Hanes
  • Yr Athro Urfan Khaliq, Athro'r Gyfraith Ryngwladol a Chyhoeddus a Chyfraith yr Undeb Ewropeaidd
  • Yr Athro Marco Marletta, Dirprwy Bennaeth yr Ysgol Mathemateg
  • Yr Athro Gavin Wilkinson, Athro Firoleg Foleciwlaidd
  • Yr Athro Christopher Williams, Athro Hanes a Phennaeth yr Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd.
  • Yr Athro Daniel Wincott Blackwell, Athro'r Gyfraith a Chymdeithas a Phennaeth Ysgol y Gyfraith
  • Yr Athro Thomas Wirth, Athro Cemeg Organig

Rhannu’r stori hon