Ewch i’r prif gynnwys

Caerdydd yn cadw tarian Gornest y Prifysgolion

21 Ebrill 2016

Varsity 3

Mae Prifysgol Caerdydd wedi llwyddo i gadw tarian Gornest y Prifysgolion am y 15fed flwyddyn yn olynol, sy'n record newydd.

Gornest Prifysgolion Cymru yw'r digwyddiad chwaraeon blynyddol mwyaf i fyfyrwyr yng Nghymru, ac mae'n uchafbwynt yng nghalendr academaidd prifysgolion Caerdydd ac Abertawe.

Bu myfyrwyr o Gaerdydd ac Abertawe yn cystadlu mewn dros 35 o gystadlaethau ar draws amrywiaeth o chwaraeon, o saethyddiaeth i Tae Kwon Do, a chafodd Caerdydd fuddugoliaeth gyfforddus wrth ennill y darian, gyda sgôr derfynol o 25-12.

Penllanw'r dathliadau oedd gêm rygbi'r dynion yn Stadiwm Liberty, Abertawe. Er eu bod ar y blaen pan ganwyd y chwiban hanner amser, ni allai Caerdydd gynnal y sgôr. Cipiodd Abertawe'r blaen, a'r sgôr derfynol oedd 16-10.

Varsity 2

Dywedodd Stuart Vanstone, Pennaeth Chwaraeon: "Roedd yn wych gweld cynifer o fyfyrwyr yn cystadlu mewn amrywiaeth o chwaraeon, gyda rhai pherfformiadau anhygoel.

"Mae ennill tarian Gornest y Prifysgolion am 15 mlynedd yn olynol yn dipyn o gamp, ac mae'n dangos ein traddodiad cryf o ragoriaeth mewn chwaraeon.

"Roedd ein cefnogwyr wedi sicrhau awyrgylch arbennig, a phawb yn gweiddi'n groch dros Dîm Caerdydd."

Varsity

Dechreuodd y gystadleuaeth flynyddol rhwng Caerdydd ac Abertawe fel gêm rygbi ym 1997. Mae wedi tyfu'n sylweddol, ac erbyn hyn, dyma'r ail gystadleuaeth Gornest Prifysgolion fwyaf yn y DU (ar ôl Rhydychen a Chaergrawnt).

Teithiodd dros 10,000 o chwaraewyr a chefnogwyr o Gaerdydd i Abertawe i gymryd rhan yn nigwyddiadau'r diwrnod.

Rhannu’r stori hon