Ewch i’r prif gynnwys

Her Sylwebwyr Cymru

21 Mehefin 2020

Chwaraewyr pêl-droed Cymru yn Ewro 2020
Bydd disgyblion ysgol yn cael cyfle i ddatblygu eu sgiliau sylwebu chwaraeon newyddiadurol dwyieithog.

I ddathlu tymor pêl-droed yr haf hwn, mae Cardiff City FC Foundation, Prifysgol Caerdydd a Chyngor Caerdydd wedi dod at ei gilydd i lansio’r her arbennig, Her Sylwebwyr Cymru.

Rydyn ni’n gwahodd ysgolion yng Nghaerdydd i weithio gyda disgyblion i greu darn o sylwebaeth 30 eiliad am eu hoff gôl o dymor pêl-droed yr haf hwn.

Bydd disgyblion yn cael y cyfle i brofi sut beth yw bod yn sylwebydd ar yr un pryd â datblygu eu sgiliau cyfathrebu llafar ac ysgrifenedig mewn ffordd hwyliog a chyffrous.

"Rydym yn falch o gael gyd-weithio gyda elusen swyddogol Clwb Pel Droed Caerdydd a phrosiect Plant Prifysgol Cyngor Caerdydd gan gyfrannu adnoddau digidol Cymraeg Jomec i'r cynllun peilot yma.Ma gan ddisgyblion y brifddinas gyfle i ddatblygu eu sgiliau sylwebu chwaraeon dwyieithog drwy gystadlu yng nghystadleuaeth 'Her Sylwebu Cymru".

Andrew Weeks, Darlithydd

Newyddiadurwr ITV, Beth Fisher, a Rhydian Bowen Phillips o S4C sydd wedi gosod yr her, a byddant yn dewis un enillydd Cymraeg ac un Saesneg.

Mae llawer o wobrau gwych i’w hennill, yn cynnwys crys Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi’i fframio a phrofiad diwrnod gêm Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd i’ch ysgol.

Watch the Rhydian Bowen Phillips introduce the competition and everything you need to apply

Rhaid cyflwyno’r ceisiadau ddim hwyrach na 25 Mehefin e-bost diogel i Tom.Knight@cardiffcityfc.org.uk. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Tom.Knight@cardiffcityfc.org.uk neu ffoniwch 07701 287 687.

Pob lwc!

Rhannu’r stori hon