Ewch i’r prif gynnwys

Rôl i ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd ynghylch sefydlu Cylch y Deunyddiau Mandyllog.

16 Mehefin 2021

3D-printed model of a MOF
3D-printed model of a MOF

Mae ymchwilwyr yn Ysgol Cemeg Caerdydd ymhlith enillwyr ‘Gwobr Pwyllgor Ysgogol 2021’ Cymdeithas Frenhinol Cemeg am eu rôl ynghylch sefydlu Cylch y Deunyddiau Mandyllog, gan alluogi gwyddonwyr academaidd a diwydiannol y maes hwnnw i gydweithio.

Yn aml, bydd cemeg yn fwyaf cynhyrchiol pan fo gwyddonwyr yn cydweithio mewn cymunedau sy’n anelu at yr un nod megis, yn yr achos hwn, deunyddiau mandyllog.

Fel mae’r enw’n awgrymu, mae tyllau mân mewn deunyddiau o’r fath fel y gallan nhw amsugno moleciwlau.

O achos y tyllau, mae arwynebedd deunyddiau mandyllog yn fwy o lawer fesul 1000oedd m2 y gram. Felly, gall arwynebedd 3g o’r deunyddiau mwyaf mandyllog fod yn ehangach na chaeau Stadiwm y Mileniwm a Wembley gyda’i gilydd!

Mae deunyddiau mandyllog o gymorth mawr i’n cymdeithas mewn sawl ffordd megis cyfnewid ionau, puro, catalysis a sychu lleithder ac enwi ond ychydig.

Er enghraifft, pan brynwch chi bâr o esgidiau chwaraeon newydd, fe fyddan nhw’n ffres am fod deunydd mandyllog wedi amsugno’r holl leithder oedd yn y bocs. Yn yr un modd, pan olchwch chi ddillad, bydd ym meddalydd y dŵr ddeunydd mandyllog cyfnewid ionau i amsugno unrhyw ionau a allai lynu wrth eich peiriant neu’ch dillad a’u staenio.

Ymhlith deunyddiau o’r fath mae seolitiau, polymerau, fframweithiau metel-organig, caetsys a fframweithiau cyfalent-organig.

Mae darganfyddiadau newydd a chyffrous yn digwydd yn y maes hwn, gan ystyried defnydd ehangach o’r deunyddiau hynod ddiddorol hyn. Er enghraifft, dyfeisio ffyrdd o arafu proses aeddfedu ffrwythau a llunio clytiau meddygol sy’n cynnwys deunyddiau mandyllog a fydd yn sbarduno’r iacháu trwy ollwng moddion i’r clwyf bob yn dipyn i’w gadw’n lân a chyflymu’r gwella.

Meddai’r Dr Timothy Easun, un o gymrodyr ymchwil brifysgol y Gymdeithas Frenhinol, sy’n gweithio yn Ysgol Cemeg Caerdydd,

“Mae’n dda gyda ni helpu i ddod â gwyddonwyr y maes hwn ynghyd a derbyn cydnabyddiaeth trwy Wobr Pwyllgor Ysgogol 2021 Cymdeithas Frenhinol Cemeg am sefydlu a datblygu Cylch y Deunyddiau Mandyllog.

Nod y cylch yw dod â gwyddonwyr ynghyd ar draws pob cam gyrfaol ym maes deunyddiau mandyllog a meithrin cysylltiadau rhwng y byd academaidd a’r diwydiannau.

Bydd yn cynnig rhagor o gyfleoedd i aelodau gwrdd, rhwydweithio a datblygu eu gyrfaoedd yng ngwyddorau’r deunyddiau mandyllog.

Dechreuodd yn 2018 trwy gynhadledd yn Lloegr lle y gwahoddwyd y Dr Timothy Easun (Prifysgol Caerdydd) i ymuno â’r tîm a threfnu Cynhadledd Deunyddiau Mandyllog 2019 y Deyrnas Gyfunol.

Roedd y gynhadledd yng Nghaerdydd yn un lwyddiannus iawn, rhoddwyd statws swyddogol Cylch Buddiannau Cymdeithas Frenhinol Cemeg iddyn nhw ac mae’r Dr Easun yn aelod o’r pwyllgor ers hynny.

Bellach, mae gan y cylch dros 300 o aelodau academaidd a diwydiannol ledled y byd ac mae’n cynnal Cyfres Gweminarau Deunyddiau Mandyllog Cymdeithas Frenhinol Cemeg ers 2020, gan ddenu 25 siaradwr o sawl cwr o’r byd a thros 2,500 o wylwyr mewn 40 o wledydd.

Yn 2021, bydd y cylch yn trefnu cynhadledd rithwir y Federation of European Zeolitic Associations ar y cyd rhwng 5ed a 9fed Gorffennaf.

Rhannu’r stori hon

Mae manylion llawn ar gyfer ein cyrsiau BSc a MChem, yn cynnwys sut i ymgeisio, ar gael yn ein chwiliwr cyrsiau.