Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwil newydd yn awgrymu bod y DU yn wynebu argyfwng o ran profedigaeth a galar hirdymor ar ôl y pandemig

15 June 2021

Mae ymchwil newydd wedi tynnu sylw at yr anawsterau a’r trallod a gafodd pobl wrth geisio cael cefnogaeth ar ôl marwolaeth rhywun annwyl iddynt yn ystod y pandemig, gyda mwy na hanner y bobl (51%) yn agored iawn i niwed yn eu galar. Mae’r rhai sy’n ceisio cymorth yn cael eu rhoi ar restrau aros am amser maith neu’n cael gwybod nad ydynt yn gymwys i gael cymorth.

Mewn arolwg a gynhaliwyd gan Ganolfan Ymchwil Gofal Lliniarol Marie Curie Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bryste, daeth i’r amlwg nad oedd tri chwarter (74%) y bobl a brofodd brofedigaeth ac oedd yn hynod agored i niwed yn cael gwasanaethau profedigaeth ffurfiol na chymorth iechyd meddwl.

Dywedodd mwyafrif y bobl a geisiodd gael cymorth ynghylch eu galar eu bod wedi cael trafferth cael gafael ar wasanaethau profedigaeth. Ymhlith y 40% a geisiodd gefnogaeth, profodd ychydig dros hanner anawsterau megis rhestrau aros hir, cael eu hysbysu eu bod yn anghymwys, neu ddiffyg cefnogaeth briodol.

Dywedodd pobl hefyd eu bod wedi teimlo’n anghyfforddus yn gofyn am help a’u bod yn ansicr ynghylch sut i gael gafael ar wasanaethau.

Mae cyhoeddi’r canlyniadau ar wefan MedRxiv cyn iddynt fynd i brint, yn cyd-fynd â digwyddiad panel rhithwir a gynhelir y prynhawn yma i gyhoeddi lansiad Comisiwn Profedigaeth newydd yn y DU. Mae'r data rhagarweiniol hwn yn ddadansoddiad o ymatebion 711 o bobl. Nid yw’r data wedi’i adolygu gan gymheiriaid eto na'i gyhoeddi mewn cyfnodolyn.

Yn yr arolwg cyntaf o'i fath ar draws y DU, dangosodd y canlyniadau y canlynol hefyd:

*Nododd pedwar o bob 10 a gymerodd ran (39%) eu bod wedi cael anawsterau wrth gael cefnogaeth gan ffrindiau a theulu;
*Yn sgîl llai o gyswllt cymdeithasol ac anawsterau cymdeithasol ehangach y pandemig, nododd chwarter y bobl (25%) nad oedd eu ffrindiau na'u teulu yn gallu eu cefnogi yn y ffordd yr oeddent yn dymuno;
*Dywedodd un o bob pump (19%) eu bod yn teimlo'n anghyfforddus wrth ofyn am help.

Daeth i’r amlwg yn yr astudiaeth bod y pandemig wedi cael effaith enfawr ar ansawdd y gefnogaeth i’r rhai sydd wedi cael profedigaeth. Roedd hefyd wedi amharu ar arferion galaru ar y cyd gan wneud iddynt deimlo’n fwy unig.

Dywedodd Dr Emily Harrop, o Ganolfan Ymchwil Gofal Lliniarol Marie Curie ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae’n peri llawer iawn o ofid cael gwybod bod pobl wedi wynebu anawsterau fel rhestrau aros hir neu gael gwybod eu bod yn anghymwys, hyd yn oed ar ôl ceisio cael cefnogaeth. Mae gwir angen i wleidyddion a llunwyr polisïau edrych yn fanwl ar sut y gallwn wneud newidiadau i gefnogi pobl cyn ac ar ôl marwolaeth yn y dyfodol.

“Mae canlyniadau’r arolwg yn dangos bod llawer o bobl wedi wynebu heriau sylweddol wrth ddelio â phrofedigaeth yn ystod y pandemig. Fe wnaeth dynnu sylw at sut y dylid gwneud pobl yn fwy ymwybodol o opsiynau cymorth, ac y dylai gwybodaeth am wasanaethau galar gael ei rhoi yn rhagweithiol yn dilyn marwolaeth ac iddi fod ar gael ar-lein ac yn y gymuned.”

Bu farw gŵr (Simon) a mam (Ethel) Sarah Candlish, 47, yn ystod ton gyntaf y pandemig. Aeth ei mam i’r ysbyty gyda Covid-19 a bu farw ar ei phen ei hun yno. Roedd gan ei phartner, Simon, ganser y bledren cam tri, a bu farw gartref gyda chymorth Nyrsys Marie Curie a Sarah wrth ei ochr.

“Ni chafodd y galar ei brosesu. Fe wnes i siarad â ffrindiau drwy negeseuon testun a thros y ffôn, ond doedd dim cofleidio na sgyrsiau wyneb yn wyneb. Mae’r ffaith nad oedd pobl gyda mi wyneb yn wyneb wedi gohirio fy ngalar. Mae wedi bod yn flwyddyn bellach ac rwy'n teimlo'n gaeth, ”meddai.

“I bobl sy’n delio â galar nawr, mae angen gallu cael gafael ar wasanaethau yn gyflymach. Mae’r amser aros yn rhy hir ac mae angen mwy o wybodaeth ysgrifenedig. Dylech chi gael rhywbeth gyda phopeth ynddo i’ch cyfeirio at y gwahanol wasanaethau.”
Fe wnaeth ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Bryste, gan gynnwys tîm o Ganolfan Ymchwil Gofal Lliniarol Marie Curie, gynnal yr ymchwil i roi llais i brofiadau'r bobl sydd wedi cael unrhyw fath o brofedigaeth yn y DU rhwng 16 Mawrth 2020 a 5 Ionawr 2021.

Ariennir yr ymchwil gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol fel rhan o ymateb cyflym Ymchwil ac Arloesedd y DU i COVID-19.

Rhannu’r stori hon