Ewch i’r prif gynnwys

Bydd Seminar yn archwilio rôl rheng flaen llywodraeth leol yng Nghymru yng ngoleuni Brexit a Covid-19

14 Mehefin 2021

Bydd yr Athro Daniel Wincott o Ganolfan Llywodraethiant Cymru Prifysgol Caerdydd yn cynnal seminar academaidd ar Lywodraethu Lleol a Pholisi Cyhoeddus yng Nghymru.

Y cyntaf o'r hyn sydd ar y gweill fel cyfres barhaus a gynhelir gan yr Athro Wincott i effaith Brexit a Covid-19 ar draws gwahanol haenau o lywodraeth diriogaethol, mae'r seminar hon yn dwyn ynghyd arbenigwyr blaenllaw - Dr Christala Sophecleous (WISERD), yr Athro Steve Martin (Canolfan Cymru dros Bolisi Cyhoeddus) a'r Athro James Downe (WCPP) - i drafod llywodraethu lleol yng Nghymru.

Dywedodd Daniel Wincott:

“Mae Covid-19 wedi rhoi premiwm ar allu llywodraethau i ddarparu bwndel cydlynol o wasanaethau i bobl ble bynnag maen nhw'n byw. O adeiladu darpariaeth ysbytai brys ar raddfa fawr, i fonitro iechyd y cyhoedd o fewn gofal cymdeithasol preswyl a domestig, a darparu rhaglenni profi ac olrhain a brechu, bu brys newydd ynghylch llywodraethu a darparu gwasanaethau cymdeithasol a chyhoeddus ledled Cymru.

“Ond er bod Brexit a Covid wedi canolbwyntio sylw ar wahaniaethau rhwng Llywodraethau datganoledig a Llywodraethau’r DG, mae rôl awdurdodau lleol wedi denu llawer llai o sylw. A gellir dadlau bod llywodraeth leol eisoes wedi'i hesgeuluso mewn ymchwil academaidd cyn y pandemig.

“Bydd y seminar yn dwyn ynghyd arbenigwyr blaenllaw ar bolisi cymdeithasol a chyhoeddus ac ar lywodraethu lleol yng Nghymru i fyfyrio ar ble rydyn ni, sut wnaethon ni gyrraedd yma a beth yw'r heriau sydd ar ddod."

Bydd y digwyddiad ar Fehefin 30ain ar ffurf seminar academaidd gan ddefnyddio Zoom, gyda'r cyfranogwyr yn gallu cyfrannu neu wrando yn ôl eu dewis. Mae croeso i bawb sydd â diddordeb yn y pwnc ddod, ond bydd y seminar yn benodol ddefnyddiol i ymchwilwyr, gweision sifil, llunwyr polisïau a myfyrwyr ôl-raddedig.

Gallwch gofrestru drwy glicio'r ddolen hon.

Rhannu’r stori hon