Ewch i’r prif gynnwys

Pennaeth newydd wrth y llyw

11 Mehefin 2021

David Clarke

Mae Ysgol yr Ieithoedd Modern wedi penodi'r Athro David Clarke yn bennaeth newydd.

Mae'r Athro Clarke yn rhan o Ysgol yr Ieithoedd Modern ers ei benodi’n Athro Astudiaethau Almaeneg Fodern yn 2018. Wedyn, cafodd ei benodi’n Gyfarwyddwr Rhaglen y Diwylliannau Byd-eang ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Ymchwil gan helpu i baratoi cais Ysgol yr Ieithoedd Modern ac Ysgol y Gymraeg i Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil ar gyfer 2021.

Dechreuodd yr Athro Clarke ei bum mlynedd yn Bennaeth yr Ysgol ar 1af Mai 2021, ac mae'n cadw’r pandemig mewn cof wrth edrych tuag at y dyfodol.

Meddai, “Mae'r Brifysgol yn dal i ddod i delerau ag effeithiau parhaus pandemig Covid-19, a dyw ein Hysgol ddim yn eithriad i hynny. Er ein bod yn gweithio’n ddyfal o hyd i gynnal ein rhaglenni’n effeithiol, fy mlaenoriaeth fydd pwyso a mesur popeth rydyn ni wedi’i ddysgu eleni i weld sut y gall ein syniadau arloesol niferus fod o gymorth ynghylch addysgu ac ymchwil."

Mae'r Athro Clarke o’r farn bod cydweithio’n hanfodol i lwyddiant yr Ysgol ac mae’n awyddus i ddefnyddio cysylltiadau cyfredol ledled y sefydliad a’r tu hwnt.

“Rydyn ni’n cydweithio ag adrannau eraill yn y Brifysgol i gynnig graddau cydanrhydedd, cynnal ymchwil a goruchwylio ôl-raddedigion. Fy nod yw cryfhau a dyfnhau'r cysylltiadau hynny ac ystyried y posibiliadau cyffrous ynghylch llunio ar y cyd gyrsiau ffurfiol i ôl-raddedigion a meithrin rhwydweithiau ymchwil a phrosiectau cydweithio."

.

“Mae'n anrhydedd derbyn rôl Pennaeth yr Ysgol a bydda i’n gweithio'n ddyfal i gadw’r enw da mae’n llawn ei haeddu yn ysgol ragorol i astudio, addysgu a chynnal ymchwil ynddi. Mae cydweithwyr, myfyrwyr, cymuned hen fyfyrwyr a phartneriaid gwych gyda ni - maen nhw i gyd yn ymwneud â’n llwyddiant ac rwy’n edrych ymlaen at ddod i adnabod pawb. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at groesawu ein carfan newydd o fyfyrwyr yn yr hydref a'u helpu nhw yn ystod yr astudio ar gyfer gradd."

Yr Athro David Clarke Head of School and Professor in Modern German Studies

Cyn dod i Gaerdydd, bu'r Athro Clarke ym Mhrifysgol Johannes Gutenberg, Mainz, Prifysgol Nottingham Trent a Phrifysgol Caerfaddon ac mae wedi cyflwyno amrywiaeth helaeth o bynciau megis llenyddiaeth a sinema’r Almaen ac Ewrop, cymathu yn Ewrop, astudiaethau cyfieithu a gwleidyddiaeth y cof.

Dros y degawd diwethaf, mae ymchwil yr Athro Clarke wedi canolbwyntio ar ddiwylliant a gwleidyddiaeth y cof yn yr Almaen a’r tu hwnt a diplomyddiaeth ddiwylliannol.

Rhannu’r stori hon