Ewch i’r prif gynnwys

Seryddwyr Caerdydd yn ymuno â chenhadaeth ofod Twinkle

10 Mehefin 2021

Artist’s impression of the Twinkle spacecraft (Credit: Blue Skies Space)

Mae seryddwyr o’r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth wedi ymuno â Thîm Gwyddorau Ecsoblanedau cenhadaeth ofod Twinkle, telesgop gofod arloesol sy’n ceisio astudio atmosfferau ecsoblanedau (planedau sy'n troi o gwmpas sêr y tu hwnt i'n cysawd heulol).

Bydd Twinkle yn cael ei lansio yn 2024, a bydd ar waith am saith mlynedd, gan wneud mesuriadau sbectrosgopig gweladwy ac is-goch sensitif i ganfod moleciwlau yn atmosfferau planedau wrth iddyn nhw fynd heibio o flaen eu prif sêr.

Bydd yr arsylwadau hyn yn helpu seryddwyr i ddarganfod beth yw cyfansoddiad y planedau a sut y daethon nhw i fodolaeth, yn ogystal â deall sut mae ein cysawd heulol ein hunain yn rhan o’r darlun ehangach o systemau planedol yn ein galaeth.

Fel arfer, mae angen degawd neu fwy i ddylunio a chynhyrchu cenadaethau gofod oherwydd gofynion datblygu technolegau newydd a fydd yn goroesi'r lansiad ac amgylchedd garw'r gofod.

Bydd Twinkle yn defnyddio dull newydd, gan ddefnyddio dim ond y dechnoleg honno sydd eisoes wedi'i phrofi, a bydd rhaglen gyflym i adeiladu'r llong ofod. Bydd hyn yn caniatáu iddo gyrraedd y gofod o fewn ychydig flynyddoedd yn unig a bod yn rhagflaenydd gwyddonol a thechnegol ar gyfer lloeren Ariel Asiantaeth Ofod Ewrop, sy’n werth €600M ac i'w lansio yn 2029, y mae Prifysgol Caerdydd hefyd yn ymwneud yn fawr â hi.

Twinkle fydd y lloeren gyntaf i gael ei datblygu gan Blue Skies Space Ltd, cwmni yn y DU a sefydlwyd i ddylunio ac adeiladu lloerennau sy'n mynd i'r afael ag angen y gymuned wyddonol fyd-eang am ddata o ansawdd uchel o’r gofod yn ogystal â chenadaethau cost isel a hyblyg y gellir eu dylunio a'u hadeiladu'n llawer cyflymach na lloerennau traddodiadol.

Mae tîm Prifysgol Caerdydd eisoes wedi cyfrannu at ddatblygiad Twinkle drwy gynnig efelychydd soffistigedig o’r genhadaeth a'i gallu i ganfod presenoldeb moleciwlau yn atmosfferau ecsoblanedau.

Bydd Dr Subi Sarkar a'r Athro Matt Griffin o'r Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth bellach yn ymuno â'r tîm a fydd yn gwneud y gwaith manwl o gynllunio a pharatoi arolwg Twinkle o’r ecsoblanedau.

Dywedodd Dr Sarkar: “Cyfle gwych yw Twinkle ar gyfer gwyddorau ecsoblanedau. Drwy fynd y tu hwnt i atmosffer y Ddaear, bydd yn gallu gwneud mesuriadau hynod o sensitif a fydd yn arwain at naid enfawr yn ein dealltwriaeth o natur planedau y tu hwnt i Gysawd yr Haul.”

Dywedodd yr Athro Peter Smowton, Pennaeth yr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth: “Bydd astudio planedau y tu hwnt i’n cysawd heulol yn un o’r agweddau mwyaf cyffrous ac arwyddocaol ym maes seryddiaeth yn ystod y degawd nesaf. Rydyn ni’n hynod o falch y bydd seryddwyr Prifysgol Caerdydd ar flaen y gad o ran cynllunio a defnyddio'r genhadaeth loeren bwysig hon a fydd yn chwyldroi ein gallu i ddysgu am y bydoedd estron hyn.”

Dywedodd Dr Marcell Tessenyi, Prif Swyddog Gweithredol Blue Skies Space: “Mae Prifysgol Caerdydd wedi bod yn cefnogi cenhadaeth Twinkle ers dyddiau cynnar y gwaith dylunio technegol, ac rydyn ni’n falch iawn o weld bod y Brifysgol yn ymuno â’r Tîm Gwyddorau Ecsoblanedau fel un o’r aelodau sefydliadol ochr yn ochr â’r partneriaid rhyngwladol rydyn ni’n cydweithio a nhw.”

Rhannu’r stori hon