Ewch i’r prif gynnwys

Myfyriwr ôl-raddedig yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol yn ennill gwobr fawreddog am gyfrannu at brofiad myfyrwyr Prifysgol Caerdydd

10 Mehefin 2021

Isadora Sinha

Mae myfyriwr ôl-raddedig yn yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a’r Niwrowyddorau Clinigol wedi cael ei chydnabod am ei gwaith fel Swyddog Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig Undeb y Myfyrwyr eleni ac am ei hymdrech lwyddiannus flaenorol i wneud Undeb y Myfyrwyr o blaid dewis yn swyddogol.

Enwebwyd Isadora Sinha ar gyfer Gwobr Llywydd Undeb y Myfyrwyr, gwobr myfyrwyr sydd newydd ei chreu sy'n cyfateb i wobr fawreddog Gwobr yr Is-Ganghellor, ac mae'n rhan o'r Gwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr.

Gwobrau blynyddol yw'r Gwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr a grëwyd i gydnabod staff a myfyrwyr sy'n cyfrannu at y profiad a geir ym Mhrifysgol Caerdydd.

Fel Swyddog Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig Undeb y Myfyrwyr, dyluniodd Isadora fodiwlau hyfforddi newydd ar hil a chydraddoldeb sy'n cael eu gweithredu ar draws Undeb y Myfyrwyr.

Mae Isadora hefyd wedi lansio blog ymwybyddiaeth hil a chydraddoldeb misol ar gyfer Undeb y Myfyrwyr sy'n trafod pynciau fel adroddiad hil y llywodraeth; wedi cyflwyno sgyrsiau ar faterion sensitif sy’n seiliedig ar hil; wedi cychwyn Cymdeithas Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig Undeb y Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd; ac wedi cydweithio â Bwyta’n Dda, ymgyrch bwyta'n iach Undeb y Myfyrwyr, i gynnwys prydau diwylliannol amrywiol.

Ymhlith llawer mwy o fentrau, mae Isadora bellach yn gweithio ar wneud Undeb y Myfyrwyr yn aelod o Race Alliance Wales.

Yn 2019, arweiniodd hefyd gynnig i wneud i Undeb y Myfyrwyr gymryd safbwynt o blaid dewis ar erthyliad yn swyddogol a hi yw sylfaenydd a llywydd presennol Cymdeithas o Blaid Dewis Undeb y Myfyrwyr. Bellach mae gan yr undeb fandad i gynnal ymgyrchoedd o blaid dewis a chefnogi amgylchedd cyfartal, diogel a chynhwysol i fyfyrwyr.

Mae Isadora hefyd ar y Pwyllgor Gweithredol ar gyfer ymgyrch genedlaethol, Abortion Rights UK, ac mae ar y Panel Cynghori ar gyfer yr elusen newydd sy'n cael gwared ar y stigma ynghylch gofal iechyd atgenhedlu, Abortion Talk.

“Rwy’n teimlo cymaint o syndod ac rwyf mor hapus am y wobr annisgwyl hon. Mewn cyfnodau o gyfyngiadau symud ac i ffwrdd oddi wrth fy nghyfoedion, mae wedi bod yn anodd gweld a oedd fy ymdrechion fel Swyddog Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael unrhyw effaith. Felly, mae gweld bod myfyrwyr a swyddogion sabothol wedi sylwi ac wedi cael eu cymell gan fy ngwaith ac eisiau cydnabod fy ymdrechion yn swyddogol wedi golygu cymaint i mi," meddai Isadora.

Yn enedigol o Hong Kong, symudodd Isadora i'r DU pan oedd hi'n chwech oed. Aeth ymlaen i gwblhau ei gradd baglor mewn Geneteg ym Mhrifysgol Caerdydd, ac yna ei gradd meistr mewn Biowybodeg.

Mae hi bellach ym mlwyddyn gyntaf ei doethuriaeth yn Is-adran Meddygaeth Seicolegol a'r Niwrowyddorau Clinigol, yn ymchwilio i sut mae Grb10, genyn wedi’i imprintio, yn dylanwadu ar dwf yr ymennydd.

Mae'r pandemig wedi cael effaith sylweddol ar ei gwaith, ond mae'n edrych ymlaen at ddechrau yn y labordy cyn gynted ag y gallai, ac ar hyn o bryd mae'n ymarfer y dechneg ar gyfer y cam nesaf yn ei hymchwil.

Daeth Isadora i ben gan ddweud, "Mae cychwyn fy noethuriaeth mewn pandemig a'i jyglo gyda'r rolau amrywiol sydd gennyf wedi bod yn her, ond yn un werth chweil yr wyf yn falch fy mod wedi ymgymryd â hi."

Darllenwch flogiau Isadora ar Gydraddoldeb ac Ymwybyddiaeth Hil.

Rhannu’r stori hon