Astudiaeth a gynhelir yng Nghymru i drawsnewid treialon tiwmor yr ymennydd yn y DU i ddod o hyd i therapïau 'mwy caredig'
9 Mehefin 2021
Mae astudiaeth newydd a gynhelir yng Nghymru yn ceisio chwyldroi sut mae treialon clinigol yn mesur effaith cyffuriau newydd ar gyfer tiwmor yr ymennydd ar les corfforol ac emosiynol claf, ochr yn ochr ag asesiad o'u goroesiad.
Dan arweiniad yr Athro Anthony Byrne o Brifysgol Caerdydd, ac mewn cydweithrediad â'r Athro Melanie Calvert o Brifysgol Birmingham, bydd yr ymchwil yn cynnig consensws fydd yn diffinio'r deilliannau pwysicaf i'w mesur, yn ôl cleifion tiwmor yr ymennydd, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.
Mae'r astudiaeth wedi cael dros £150,000 gan The Brain Tumour Charity. Croesawyd yr ymchwil newydd gan gleifion gan ddweud ei bod yn hanfodol cael gwell dealltwriaeth o'r ffactorau sy'n dylanwadu ar ansawdd bywyd a goroesiad.
Yn draddodiadol, mae treialon clinigol ar gyfer tiwmorau yr ymennydd yn canolbwyntio ar sut mae tiwmor claf yn ymateb i driniaeth newydd, ac a oes modd i'r claf fyw'n hwy neu ohirio datblygiad y clefyd. Yn ôl yr elusen, bydd integreiddio'r canfyddiadau newydd hyn mewn treialon clinigol ledled y DU yn sbarduno gwelliannau ym mywydau pobl ar ôl cael diagnosis o diwmor yr ymennydd, y driniaeth a'r gofal ar ei gyfer.
Dywedodd yr Athro Anthony Byrne, Cyfarwyddwr Clinigol Canolfan Ymchwil Marie Curie ym Mhrifysgol Caerdydd: “Yn y tymor byr, bydd y prosiect hwn yn helpu’r bobl â thiwmor yr ymennydd sy’n cyfrannu at yr ymchwil hon trwy eu sicrhau ein bod yn gwrando ar eu barn ac yn ystyried eu hanghenion. Bydd hefyd yn eu galluogi i gael effaith gadarnhaol ar ddyfodol ymchwil am ansawdd bywyd.
“Yn y tymor hwy, bydd yn golygu y bydd deall yr hyn sy’n gweithio o safbwynt y claf a’r gofalwr yn cael blaenoriaeth uwch wrth asesu buddion triniaethau newydd posibl.”
Mae Andrew Dean-Young, ffisiolegydd o'r GIG yng Nghaerdydd, a gafodd ddiagnosis o diwmor yr ymennydd yn 2016, yn cefnogi'r ymchwil.
“Yn 2016, roeddwn i o’r diwedd yn gweithio ac yn byw yn yr un ddinas, ac yn meddwl bod popeth yn ei le yn fy mywyd. Fodd bynnag, cefais ryw fath o drawiad wrth loncian, a'r peth nesaf roeddwn i ar y llawr. Cefais fy rhuthro i’r ysbyty lleol ac ar ôl llawer o brofion, daeth i'r amlwg maes o law fod gen i diwmor ar yr ymennydd,” meddai.
“Newidiodd hyn fy mywyd yn llwyr, nid oeddwn bellach yn cael gyrru, roeddwn wedi mynd o fod yn ddyn ffit ac iach, bron yn 30 oed, gydag amseroedd cyffrous o fy mlaen, i gael y cyflwr difrifol hwn a drodd fy mywyd wyneb i waered.”
Ychwanegodd Andrew, a gafodd y diagnosis bum mlynedd yn ôl: “Rwy'n credu bod yr ymchwil newydd hon gan Dr Byrne sy'n edrych i mewn i ansawdd bywyd pobl â thiwmorau ar yr ymennydd yn ddarn o waith hanfodol gan fy mod i'n teimlo bod hyn yn rhywbeth nad yw pobl yn ei ddeall. Er mod i wedi cwblhau triniaeth ac yn edrych yn iach ar yr wyneb, mae llawer o'r prif ddyheadau oedd gen i yn fy mywyd naill ai wedi diflannu neu wedi cael eu gohirio erbyn hyn, ac mae wedi cymryd pum mlynedd i mi gael fy nghefn ataf yn feddyliol ac yn emosiynol.
“Mae unrhyw ymchwil sy'n cefnogi a gwella ansawdd bywyd cleifion tiwmor yr ymennydd yn hanfodol gan fod y salwch bron fel canser nad oes modd ei weld i lawer oherwydd y diffyg creithiau gweladwy.”
Bydd yr Athro Byrne a'i dîm yn archwilio'r pethau sydd bwysicaf i bobl sy'n byw gyda thiwmor yr ymennydd. Yn benodol, byddant yn siarad â chynrychiolwyr o wahanol grwpiau o'r gymuned niwro-oncoleg gan gynnwys pobl â thiwmor ymennydd glioma (graddau II-IV) a'u teuluoedd.
Byddant yn coladu'r wybodaeth y byddant yn ei chasglu ag ymchwil gan ymchwilwyr eraill ym maes tiwmor yr ymennydd i ffurfio rhestr hir o Ddeilliannau a Adroddwyd gan Gleifion (PROs) a allai fod yn bwysig. Defnyddir y deilliannau hyn mewn treialon clinigol i gofnodi profiad unigolyn o'i glefyd a'i driniaeth.
Bydd y rhestr hir hon yn cael ei chyfyngu i dynnu sylw at yr agweddau pwysicaf ar oroesi “da” yn ôl y bobl sydd â phrofiad byw. Bydd hefyd yn diffinio cyfres o ganlyniadau craidd (COS) fydd yn cael ei hyrwyddo i'w defnyddio ar draws treialon clinigol tiwmor yr ymennydd yn y DU yn y dyfodol.
Meddai Dr David Jenkinson, Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro yn The Brain Tumor Charity: “Mae angen dulliau mesur cyson a phriodol er mwyn cynnal ymchwil gywir ac effeithiol i sut mae tiwmorau yr ymennydd a’u triniaethau yn effeithio ar ansawdd bywyd. Rydym yn y camau sylfaenol o sicrhau y gellir defnyddio'r holl ddata am ansawdd bywyd mewn treialon clinigol tiwmor yr ymennydd i ddylanwadu ar ymchwil yn y dyfodol.
“Bydd yr astudiaeth hon yn diffinio cyfres graidd o ddeilliannau sy'n cwmpasu'r mesurau sydd fwyaf ystyrlon i bobl â thiwmorau yr ymennydd, a'r rhai sydd bwysicaf iddynt.”