Ewch i’r prif gynnwys

Cylchlythyr Chwarter 1 2019

31 Ionawr 2019

The CBS team

Croeso i’r Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog

Rydym yn Gyfleuster Technoleg ym Mhrifysgol Caerdydd wedi’i ardystio hyd at lefel ISO 9001:2015. Rydym yn cynnig mynediad i offer a methodolegau ymchwil y gwyddorau bywyd, sy’n canolbwyntio ar Ddadansoddi/Delweddu Celloedd, Genomeg/Biowybodeg a Phroteinau/Diagnosteg. Mae ein tîm o arbenigwyr gwyddonol yn cynnig gwasanaeth cynhwysfawr gan gynnwys cyngor ar ddylunio arbrofol, paratoi samplau, cynhyrchu a dadansoddi data. Rydym hefyd yn croesawu cwmnïau ac yn cynnig cyfleusterau labordy, cefnogaeth technolegol, ymgynghoriaeth academaidd a mynediad at adnoddau eraill Prifysgol Caerdydd.

Rydym yn croesawu cwsmeriaid o Brifysgol Caerdydd, sefydliadau academaidd eraill a diwydiant. Rydym i gyd wedi ein lleoli ar gampws Parc y Mynydd Bychan Prifysgol Caerdydd, yn Adeilad Henry Wellcome yn bennaf.

Mae ein gwefan bellach yn fyw!

Rydym yn gyffrous iawn bod ein gwefan newydd ar waith. Cewch ragor o wybodaeth amdanom ar www.caerdydd.ac.uk/central-biotechnology-services. Yma cewch wybodaeth am ein gwasanaethau, sut i weithio gyda ni a sut i gysylltu â ni. Byddwn yn rhannu ein holl newyddion a’n digwyddiadau yno hefyd.

Cyrsiau InCytometry

Diolch i’r llu ohonoch ddaeth i’n cyrsiau hyfforddiant ar gyfer cytometreg Flow, meddalwedd FlowJo a meddalwedd IDEAS® ar gyfer ImageStream®, a gynhaliwyd gan InCytometry fis Tachwedd a fis Rhagfyr. Hefyd, gwnaethom gynnal ein clinig FlowJo cyntaf i gefnogi pawb ym Mhrifysgol Caerdydd sy’n defnyddio meddalwedd FlowJo ym mis Ionawr. Byddwn yn trefnu rhagor o gyrsiau hyfforddiant InCytometry cyn bo hir...
Cadwch lygad ar ein gwefan am fwy o fanylion!

Dewch i’n seminar Darganfod Graddfa Meso (MSD)!

Rydym yn cynnal seminar MSD ddydd Mawrth 5 Chwefror, 10 - 11am yn UG14 yn Adeilad Henry Wellcome. Dewch i ddysgu beth all y dechnoleg hawdd ei defnyddio hon ei wneud drosoch chi. Bydd yr arbenigwyr MSD ar gael ar ôl y seminar i gynnig cyngor unigol. Cysylltwch â Jane Chappelle drwy ebostio chappellej@caerdydd.ac.uk am fwy o wybodaeth. Nid oes angen cadw lle ymlaen llaw.

Rhannu’r stori hon

Gallwch gael diweddariadau chwarterol gan y Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog yn uniongyrchol i'ch mewnflwch.