Ewch i’r prif gynnwys

Cylchlythyr Chwarter 3 2019

31 Gorffennaf 2019

Data clinic

Bellach mae gennym achrediad am Ymarfer Labordy Clinigol Da!

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod gennym bellach, yn dilyn archwiliad llwyddiannus ym mis Ebrill 2019, achrediad Ymarfer Labordy Clinigol Da (GCLP) i gyd-fynd â’n hardystiad ISO 9001:2015.

System ansawdd ryngwladol wedi hen sefydlu ar gyfer labordai yw GCLP, sy’n dadansoddi samplau o dreialon clinigol yn unol â’r rheoliadau Ymarfer Clinigol Da (GCP) byd-eang, gan sicrhau ansawdd a dibynadwyedd data treialon clinigol a gynhyrchir gan y labordy. Ddysgu mwy am yr achrediad hwn.

Rydym ni’n awyddus i gynyddu’n gwaith yn cefnogi treialon clinigol mewnol ac allanol. Cysylltwch â ni i drafod sut gallwn ni gydweithio yn y maes hwn.

Cefnogaeth Biowybodeg

Rydyn ni wrth ein bodd bod Dr Sumukh Deshpande wedi ymuno â’n tîm fis Tachwedd diwethaf yn fiowybodegydd.

Mae ein gwasanaethau biowybodeg yn cynnwys darparu dadansoddiad data o ffeiliau data crai, rhestru genynnau ar gyfer arbrofion microarae ac RNAseq a dadansoddiadau wedi’u teilwra (sy’n cael eu costio fesul dydd) ar gyfer gwaith biowybodeg arall, megis RNAseq celloedd unigol.

Mae Sumukh yn darparu hyfforddiant i ymchwilwyr a myfyrwyr MSc ar bortffolio cynyddol o bynciau, gan gynnwys Python ac RNAseq. Cysylltwch â Sumukh deshpandes1@cardiff.ac.uk os oes gennych chi unrhyw anghenion hyfforddi penodol.

Mae Sumukh hefyd yn rhan o’r tîm sy’n cefnogi’r Clinigau Data ddwywaith yr wythnos ar gyfer ymchwilwyr Prifysgol Caerdydd. Mae’r clinigau hyn yn rhoi cyngor ar unrhyw heriau o ran biowybodeg neu ddata ystadegol. Does dim angen cadw lle ymlaen llaw, galwch heibio gyda’ch data a’ch cwestiynau.

Dydd Mawrth 15:00-16:00 yn ystafell de adeilad Henry Wellcome (safle Parc y Mynydd Bychan).

Dydd Gwener 10:00-11:00 yn E/1.22 yn Adeilad Syr Martins Evans (safle Cathays).

Meddalwedd Toddi Cydraniad Uchel (HRM) ar gael i’w defnyddio

Wyddech chi fod gennym ni feddalwedd Toddi Cydraniad Uchel (HRM)? Mae’r dadansoddiad hwn yn ddewis arall yn lle sgrinio dilyniannu dHPLC ar gyfer amrywiadau newydd o enynnau. Nid oes angen newid tymheredd, sy’n golygu bod canfod mwtaniadau homosygaidd newydd yn fwy tebygol. Darganfod mwy am y dadansoddiad hwn, a chysylltu â Claudia consolic@cardiff.ac.uk i drafod ymhellach.

Cofiwch fod ein holl weithgareddau genomeg, gan gynnwys qPCR a microarae, yn Adeilad Henry Wellcome. Dewch i’n gweld ni er mwyn darganfod sut gallwn ni alluogi eich ymchwil.

Rydyn ni wedi bod o gwmpas yn hyrwyddo’r Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog a Phrifysgol Caerdydd!

Rydyn ni wedi bod yn brysur yn siarad â phobl ar draws y Deyrnas Unedig o gynadleddau Genomeg Canser EACR ac Ymchwil Drosiannol ON Helix yng Nghaergrawnt i arddangos yn y Sefydliad Gwyddorau Bywyd yn Abertawe. Rydyn ni hefyd wedi bod yn brysur yn nes adre, gan gynnwys arddangos yng nghynhadledd Staff Technegol Prifysgol Caerdydd, gyda’n cydweithwyr o Fanc Biolegol Prifysgol Caerdydd.


Diolch i bawb ohonoch a fu’n mynychu ein seminarau diweddar a’n sesiynau hyfforddi, gan gynnwys y rhai ar Cytometreg Llif, Dadansoddiad RNAseq ar gyfer Biolegwyr a Cytometreg Llif Amryliw BD. Cadwch lygad ar ein gwefan am fanylion digwyddiadau yn y dyfodol. Bydd manylion i ddilyn ar gyfer gweithdy RNA dydd Iau 24 Hydref 2019.

Rhannu’r stori hon

Gallwch gael diweddariadau chwarterol gan y Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog yn uniongyrchol i'ch mewnflwch.