Ewch i’r prif gynnwys

Cylchlythyr Chwarter 4 2019

18 Rhagfyr 2019

CBS webinar

Myfyrio ar ein gweithgareddau yn 2019

Wrth edrych yn ôl ar 2019, rydym yn falch iawn o fod wedi dyfynnu ar gyfer dros 130 o brosiectau mewnol ac allanol. Gwnaeth hyn ein harwain at ymgymryd â gwaith ar gyfer nifer o ymchwilwyr yn fewnol ar draws Prifysgol Caerdydd ac yn allanol mewn busnesau ym maes Gwyddor Bywyd. Roedd nifer o'r ymchwilwyr hyn yn newydd i CBS yn 2019 ac yn cynnwys nifer o grwpiau ymchwil Prifysgol Caerdydd a chwmnïau sector gofal iechyd pwysig.

Rydym hefyd yn falch o fod wedi hyfforddi nifer o ymchwilwyr yn 2019, gyda dros 60 o ymchwilwyr yn mynd i'n cyrsiau Cytometreg Llif, dros 30 yn mynd i'n cwrs hyfforddi Biowybodeg a dros 40 yn mynd i'n gweithdai Mynegiant Genynnau a Cytometreg Llif Aml-liw gyda ThermoFisher a BD yn eu tro.

Daliwch ati i edrych ar ein gwefan ar gyfer manylion cyrsiau sydd ar y gweill, gyda nifer ohonynt yn agored i ymchwilwyr mewnol ac allanol.

Rydym yn falch fod Tara Halliday wedi ymuno â'n tîm ym mis Gorffennaf yn rôl ein Swyddog Gweinyddol newydd.

Ein hachrediad Ymarfer Labordy Clinigol Da (GCLP)

Uchafbwynt 2019 oedd ennill ein hachrediad Ymarfer Labordy Clinigol Da (GCLP), yr ategiad perffaith i'n hachrediad ISO 9001:2015.

Mae GCLP yn system ansawdd rhyngwladol sefydledig ar gyfer labordai sy'n dadansoddi samplau o dreialon clinigol yn unol â rheoliadau rhyngwladol Ymarfer Clinigol Da (GCP), gan sicrhau ansawdd a dibynadwyedd data'r treialon clinigol a gynhyrchir gan y labordy. Rhagor o wybodaeth am yr achrediad hwn.

Mae'r achrediad hwn yn ein galluogi i wneud mwy o waith i gefnogi treialon clinigol mewnol ac allanol. Mae gan Charlotte James, ein Rheolwr ac Arweinydd Ansawdd, rôl flaenllaw yn ymgynghori ar y ddau achrediad i grwpiau eraill o fewn Prifysgol Caerdydd. Cysylltwch â ni cbsadmin@cardiff.ac.uk i drafod sut y gallwn eich helpu yn y maes hwn.

Rydym wedi bod yn brysur yn arddangos ac yn dysgu trwy gydol 2019!

Ers ein cylchlythyr diwethaf ym mis Medi, rydym wedi parhau i hyrwyddo Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog a Phrifysgol Caerdydd, a dysgu am dechnolegau a thueddiadau newydd yn y sector trwy arddangos a mynd i gynadleddau a chyrsiau ar draws y DU a thu hwnt.

Roedd y rhain yn cynnwys oncoleg-imiwnedd Global Engage a chyngresau Oxford Global Gene Editing yn Llundain, cynhadledd Festival of Biologics a chwrs Dadansoddiad NGS-Single-cell RNA-Seq yn y Swistir, cyfarfod flowcytometryUK yng Nghaergrawnt, cynhadledd Ideagen Horizons 2019 yn Birmingham a chynhadledd UKHealthTech yng Nghaerdydd. Roedd yn wych bod ein Technolegydd Llif, Ann Kift-Morgan, wedi cael lle ar y Cwrs Ymarferol EMBO proffil uchel ar High-End Cell Sorting yn Heidelberg i wella ei gwybodaeth arbenigol.

Edrych ymlaen at 2020

Bydd 2020 yn sicr yn brysur iawn hefyd... edrychwch allan amdanom ym mis Ionawr yn The Festival of Genomics yn Llundain a chyfarfod RMS Flow Cytometry ym mis Chwefror yng nghynhadledd Oxford Global Biomarkers Series UK ym Manceinion.

Rhowch Mehefin 16 yn eich dyddiadur ar gyfer Cynhadledd Staff Technegol Prifysgol Caerdydd a daliwch ati i edrych ar ein gwefan a'n dilyn ar Twitter i gael manylion am ddigwyddiadau a hyfforddiant pellach sydd ar y gweill.

Cofiwch ddod i siarad gyda'n tîm o arbenigwyr gwyddonol i gael cyngor ar bynciau gan gynnwys dylunio arbrofol, manteisio ar atgynyrchioldeb arbrofol, paratoi sampl a dadansoddi data... rydym yma i'ch helpu chi!

Diolch yn fawr am eich cefnogaeth yn 2019 ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chi gyd yn 2020. Yn y cyfamser, Nadolig Llawen iawn i chi a phob dymuniad da i chi ar gyfer y Flwyddyn Newydd.

Rhannu’r stori hon

Gallwch gael diweddariadau chwarterol gan y Gwasanaethau Biodechnoleg Canolog yn uniongyrchol i'ch mewnflwch.